Psalm 107 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cvij.Confitemini Domino.Boreu vveddi.

1CLodforwch yr Arglwydd, can ys da ytyw: can ys ei drugaredd tragyvyth.

2 Dywedant yr ei y brynwyt gan yr Arglwyð, modd y gwaredawð ef hwy o law y gorthrymwr,

3Ac ei casglawdd hwy o’r tiredd, o’r Dwyrein, ac o’r Gorllewyn, o’r Gogledd ac o’r Deau.

4Pan grwydrent yn y dyffeith allan o’r ffordd, eb gahel vn dinas y drigio,

5Ys yn newynoc yn sychedic, ei heneit a ballawdd ynthwynt.

6Yno gwaeddasont ar yr Arglwyð yn ei cyfingder, ef ei diangawdd oei gwascvâe,

7Ac ef ei tywysawdd rhyd y ffordd vnion, val ydd elent i ddinas preswyl.

8[Can hyny] cyffessant ger bron yr Arglwydd ei drugarogrwydd, a’i ryveddodae ger-bron plant dynion.

9Can ys diwallawdd ef yr eneit sychedic, a’r eneit newynawc y lanwodd ef a daoni.

10Yr ei y dric yn-tywyllwch ac yn-gwascawt angae, yn rhwym mewn trueni a’haiarn,

11Can yddyn gildynnu yn erbyn geiriae Dew, a’ thremygy cycor y Goruchaf,

12Pan ostyngawdd ef ei calon a chystudd, y cwympesont ac nid oedd canorthwywr.

13Yno y llefent ar yr Arglwydd yn ei cyfingder, gwaredawdd ef wynt o ei gwascvâe.

14Ef y Duc hwy allan o dywyllwch, ac ’wascawt angae, ac e ddrylliawdd ei rrwymae.

15[Am hyny] coffessant ger bron yr Arglwydd ei drugarogrwydd, a’i ryveddodae ger bron plant dynion.

16Can ys drylliawdd ef y pyrth evydd, ac adorawdd y trosolion heyrn yn ddrylliae.

17Ynvydion o bleit ei camwedd, ac o achos ei henwiredd a boenir.

18 Fieddient ei h’eneidiae bop bwyt, ac eu dugwyt yd wrth byrth angeu.

19Yno y llefent ar yr Arglwydd yn ei h’ing, ac y wrth ei cyfingdereu eu gwaredawdd.

20Anvonei ef ei ’air ac eu hiachaodd, ac eu gwaredawdd rac eu divancolleu.

21[Am hyny] coffessant ger bron yr Arglwydd ei drugarawgrwydd, ai ryveddodae ger bron plant dynion,

22Ac aberthant ebyrth moliant, a’ datcan ei weithrededd a’ gorvoledd.

23Yr ei y ddescennant ir mor mewn llongae, ys y yn gwneythyd gwaith mewn dyfredd mawrion,

24Wy[ntwy] a ’welant weithrededd yr Arglwydd, a’ ei ryveddodae yn yr eigiawn.

25Can ys dywait ef ac a gyfyd wynt tempestloc, ac y ddercha ei donheu.

26Escennant ir nefoedd, a’ descennant ir eigiawn, y tawdd ei heneit gan gyni.

27 Ymbendroi a wnant, a haldian val meddw, a’ei h’oll doethinep a balla.

28Yno y llefynt ar yr Arglwyð yn ei cyfingder, allan o’ei, gwascvâe ef eu dwc,

29Efe a oystatâ yr ystorm yn dawel, val y dystawant eu tonheu.

30Yno llawen vyddant oei ’llonyddy, ac ef eu dwc ir borthladd eu h’wyllys.

31[Am hyny] coffessant ger bron yr Arglwydd eu drugarawgrwydd, a’i ryveddodae ger bron plant dynion.

32A’ derchafant ef yn-Cynnlleidfa y popul, ac yn eisteddfot yr henurieit molant ef.

33Efe a dry y llifeiriaint yn ddiffeithwch, a’r ffynnoniae dyfredd yn hyspydd,

34[A’] thir ffrwythlawn yn ddiffrwyth am ddrigioni yr ei y dric ynthaw.

35Trachefyn e dry y diffeithwch yn lynn dwfyr, a’r tir sych yn ffynnoniae,

36Ac yno y gesot e yr ei newynoc, ac yr adeilant ddinas y drigo,

37Ac y heuant vaesydd, ac y plannāt winwydd, yr ei dducant doreth ffrwythlawn.

38Can ys ef ei bendithia, ac eu tra lliosocir, a’i yscrublieit ny’s lleia ef.

39Thrachefyn y llaiéir, ac ei gostynger gan drawsinep, drwg a’ llescedd.

40Ef a dywallt dremic ar dywysogion, ac awna yddwynt grwydro yn yr anialwch o yar y ffordd.

41Ac ef y gyvyt e y tlawt o advyd, ac a wna yddo duyluoeð mal defeit.

42Yr ei vnion ei gwyl, ac a lawenánt, ac oll enwiredd a gae ei eneu.

43Pwy ys y ddoeth, val y catwo y pethae hyn? can ys wy a ddyallant drugareddeu yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help