Psalm 125 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cxxv.Qui confidunt.¶ Caniat graddae.

1YR ei ymddiriedant yn yr Arglwyð, mal mynyth Tsijon, nyd ys mutir, bot yn safadwy byth.

2[Mal y mae] y mynyddeu yn-cylch Caerusalem velly yr Arglwydd o amgylch ei bopul o’r pryd hyn yd yn tragyvyth.

3Can na ’orphwys gwialen yr andewiol ar coelbren yr ei cyfiawn, rac bot ir ei cyfion estyn ei llaw ar enwiredd.

4Gwna yn dda, Arglwydd, ir ei da ac vnion o galon.

5A’r ei y ymcwhelant yw enwir, wyntwy a dywys yr Arglwydd y gyd a’r gweithredwyr enwiredd: tangnedyf ar Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help