Ephesieit 4 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen iiij.Mae ef yn ei hanog i warder, hirddioddef, i gariat a’ thangneddyf, Pop vn i wasanaethu ac adailad eu gylyð a’r dawn a roddes Duw yddaw, Gogelyd rac dysceidaeth ddiethr. Dody ymaith yr hen ymwreddiat y trachwanteu afradlawn, a’ rhodio ym‐buched newydd.Yr Epistol y xvij. Sul gwedy Trintot.

1MIneu gan hynny y carcharor yn yr Arglwyð atolygaf yw’ch ar rodio yn teilwng o’r ’alwedigeth ich galwyt,

2ym‐pop gestyngeiddtra‐meddwl, a’ thirionder mewn dyoddefgarwch, gan ymgynnal eu gylyð trwy gariat,

3gan astudiaw cadw vndep yr Yspryt yn rhwymedigeth tangneddyf.

4Vn corph ysydd, ac vn Yspryt, megis ac ich galwyt yn vn ’obaith eich galwedigeth.

5Vn Arglwydd sy, vn ffydd, vn Batydd,

6vn Duw, a’ That oll, yr hwn ’sy goruwch oll, a’ thrwy oll, ac ynoch oll.

Yr Epistol ar ddydd. S. Marc.

7Eithr i bop vn o hanam y rhoet y Rat, erwydd y mesur dawn Christ.

8Can hynny y dywait, Pan escendawdd y vynydd ir vchelder, ef a dduc ganto gaethiwed yn gaeth, ac a roddes roðion y ddynion.

9(Velly, am y‐ddaw escendy, pa beth ydyw, anyd darvot yddaw hefyt ðescendy yn gyntaf ir partheu iselaf or ddaiar?

10Yr vn a ddescendawdd, yw ’r vn ac escendawdd, tra-goruwch yr oll nefoedd, val y cyflanwei ef bop dim)

11Ef gan hyny a roddes rei y vot yn Apostolion, a’r ei yn Prophwyti, a’r ei yn Euangelwyr, a’r ei yn Vugelyð, ac yn Ddyscyawdwyr,

12er componi y Sainctæ, i waith, y wenidogeth, ac er adāilad corph Christ,

13yd y n y chyhyrddom oll (yn vndeb ffydd a’ gwybodaeth Map Duw) yn wr cwbl, ac ym mesur oedran cyflawnder Christ,

14val rhac llaw na byðom mwyach yn plant, yn bwhwmman ac yn ein trawsarwein gan bop awel dysceidaeth, wrth ddichell dynion, a’ hocced, er cynllwyn twyll.

15Eithyr dilynwn wirionedd yn‐cariat, ac ym‐pop peth cynnyddu yddo ef, ’rhwn yw y pen, ’sef Christ,

16y gan yr hwn y bydd ir corph gwedy darvot ei gomponi ai gyssylltu ynghyt trwy’ bob cymmal, er ymdrefnyat, (erwyð y grymustr ysydd ym‐mesur pop parth) dderbyn cynnydd ir corph, er ei adailad yhun yn‐cariat.

Yr Epistol y xix. Sul gwedy Trintot.

17Hyn ynteu a ddywedaf, ac a testiaf yn yr Arglwydd, na bo y chwi o hyn allan rodio mvvy mal y rhotia Cenetledd eraill, yn‐gwagedd ei meðwl,

18ac ei meddwlvryd gwedy ei dywyllu, ac yn ddieithreit ywrth vucheð Dduwiol trwy’r anwybodaeth ysydd ynthwynt gan galated eu calonheu:

19yr ei gwedy yddyn ddiddarbodi a ymroesont y ddrythyllwch, y wneuthuriad pop aflendit, yn vnchwant.

20Eithr chwichvvi nyd velly y dyscesoch vvrth Christ.

21A’s bu y chwi ar y glywet ef, ac o’ch dyscwyt gantho, megis y mae’r gwirionedd yn Iesu,

22sef bot ychwi ddodi ymaith erwydd yr ymwreddiat gynt,

23yr hen ddyn hvvnvv, yr hwn ’sy lygredic wrth y trachwanteu twyllodrus, ac adnewydder chwi yn yspryt eich meddwl,

24a’ gwiscwch y dyn newydd, yr hwn erwydd Duw a creawyt yn‐cyfrawnnder, a’ gwir sancteidrwyd.

25Erwyd pa am bwrwch ymaith y celwyd, a’ dywedwch bawp vn wirionedd wrth ei gymydawc: can ys aelodeu yym yw gylydd.

26A’s digiwch, ac na phechwch: nac aed haul ymachelyd ar eich digofeint,

27ac na rowch le i ddiavol.

28A ledrataoð, na ledrataed mwy: eithr yn hytrach llavuried a’ gweithied ai ðwylo y peth ’sy dda, val y bo ganto yw roi ir vn a vo ac eisieu arno.

29Na ðeued vn ymadrawdd llwgredic o’ch geneue: anyd yr vn a vo cymmwys, er mwyniant adailad, val y duco rat ir ei a ei clywant.

30Ac na thristewch yr Yspryt glan Duw, gan yr hwn ich inseliwyt y ddydd y prynedigeth.

31Bwrier ymaith ywrthych pop chwerwydd, a’ digofeint, a’ llid, a’ llefain, a’ chabl y gyd a’ phop drigioni.

32Byðwch vwynion wrth eu gylydd, a’ thrugarogion, gan vaddeu yw gylydd, megis ac maddeuawdd Duw er mwyn Christ i chwitheu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help