1PAul Apostol Iesu Christ, gan wyllys Duw, ac Thimotheus ein brawt,
2at yr ei ’sy yn Colosse, Sainctæ a’ ffyddlon vroder in‐Christ: Rat vo y gyd a chwi, a’ thangneddyf y gan Dduw ein Tat, a’ chan yr Arglwyð Iesu Christ.
Yr Epistol y xxiiij. Sul gwedy Trintot.
3Yð ym yn diolvvch y Dduw sef Tat ein Arglwydd Iesu Christ, yn ’oystadawl gan weðiaw y trosoch:
4er pan glywsam son am eich ffydd in‐christ Iesu, ac am eich cariat ar yr oll Sainctæ,
5er mvvyn y gobaith ys ydd wedi hi dodi y‐chwy yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch yn y blaen y gan ’air y gwirionedd, sef yvv’r Euangel,
6yr hon ’sy wedi dyvot yd atochwi, megis ac ir oll vyt, ac yn ffrwythawn val y mae yn eich plith chwithe hefyt, o’r dydd hwn y clywsoch, ac y gwir wybuoch ’rat Duw,
7val hefyt y dyscesoch y gan Epaphras ein annwyl gydwas, yr hwn’sy trosochvvi yn ffyddlawn wenidawc Christ:
8yr hwnn hefyt a amlygawdd y‐ni eich cariat, ysy genych drwy ’r Yspryt.
9Can ys paam ninheu hefyt, er y dyddhvvn y clywsam, nyd ym yn peidiaw a gweddiaw trosoch, ac erchi ar ych cyflawny o wybyddieth y wyllys ef, ym‐pop doethinep, a’ dyall ysprytawl,
10val y rotiwch yn deilwng gan yr Arglwydd, ai voddhau ef ym pop dim, gan ymffrytholoni ympop gweithred da, a’ thyvu yn‐gwybodaeth am Dduw,
11wedy ymnerthu ac oll nerth trwy y’ogoneddus veddiant ef, i bob dioðefgarvvch, a’ hwyrddic y gyd a’ hyfrydwch,
12gan ddyolvvch i’r Tat, yr hwn a’n gwnaeth yn addas i vot yn gyfranoc o etiueddieth y Sainctæ yn‐goleuni,
13yr hwn a’n gwaredawdd ni ywrth veddiant y tywyllwch, ac a’n ysmutawdd ni y deyrnas y annwyl Vap,
14yn yr hwn y mae y ni brynedigeth trwy y waed ef, ’sef maddeuant pechotae,
15yr hwn yw gwir‐ddelw yr anweladwy Dduw, contenid pop creatur.
16Can ys ganto ef y creawyt pop dim, a’r ys ydd yn y nefoedd, ac ys ydd yn y ðaear, pethæ gweledigion, ac angweledigion: ai Thronae, ai Arglwyddiaethae, ai Tywysogaethae, ai Meddiannae, pop dim a’ greawyt ganto ef ac erddo ef,
17ac ef e ’sydd cynn pop dim, ac ynto y mae pop dim yn cyd sefyll.
18Ac efe yw pen corph yr Eccles: efe yw’r dechreuad a’r cyntenid o’r meirw, val ym‐pop dim y caffei y bendeuigeth.
19Can ys‐rengawdd bodd ir Tad, bod yndo ef drigo oll gyflawnedd,
20a’ thrwyddo ef gysyliaw pop dim yddo yhun, a’ heddychu trwy waed y groc ef bai petheu yn y ddaiar, b’ai petheu yn y nefoedd.
21A’ chwitheu yr ei oeðech gynt ddyeithreit a’ gelynion, can vot eich meddyliae ar weithredoeð drwc, yr awrhon hefyt a gysyliawdd ef,
22yn‐corph ei gnawt trwy angae, er y’ch gwneuthur chvvi yn sainctaidd, ac yn ddiveius ac yn ddigwliedic gar y vron ef.
23A’s aroswch, wedy ’ech sailio ach ffyrfhau yn y ffydd, ac na’ch ysmuder ywrth ’obaith yr Euangel, am yr hon y clywsoch son, ac a precethwyt i bop creatur a’r ’sydd y dan y nef ir hon ydd yw vi Paul yn wenidawc.
24Yr awrhon ydd wyf yn llawenychu yn ve‐dioddefeu y trosoch, ac yn cyflawny oedd yn ol o gystuddiae Christ yn veu‐cnawd i, er mvvyn y gorph ef, rhwn yw’r Eccles,
25i’r hon ydd wyf yn wenidawc, erwydd llywodraeth Duw, yr hynn a roddwyt i mi yn eich cyfor chwi, y gyflanwy gair Duw,
26sef y dirgelwch oedd cuddiedic er ys oes oesoedd, ac er ys oll genedlaethae, ac yr awrhon a eglurwyt y’w Sainttæ ef,
27i’r ei yr wyllysai Duw yddyn gahel gwybot pa yw golud y dirgelwch hyn ym‐plith y Cenetloedd, yr hwn ’olud yw Christ yn y chwi, y gobeith gogoniant,
28yr hwn ydd ym ni yn ei bregethu, gan rybyddiaw pop dyn, a’ dyscu pop dyn ym‐pop doethinep, val y gosotom bop dyn yn berffeith yngvvydd Christ Iesu:
29at yr hyn ydd wyf i hefyt yn ymtravaelu ac yn ymdrech, erwydd y waithred ef rhon ’sy yn gweithio ynof’ yn nerthol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.