1 A’R trydydd dydd y bu priodas yn‐Cana dref yn-Galilaia, a’r mam yr Iesur oedd yno.
2A’ gelwit yr Iesu ef ai ddiscipulon i’r briodas.
3A’ phan ballodd gwin, y dywedawð mam yr Iesu wrthaw, Nid oes ’win y‐ddynt.
4Yr Iesu a ddyuot wrthei, Peth ys yð i mi a wnel a thi wreic? ny ddeuth vy awr eto.
5Y vam ef a ddyvot wrth y gwasanaethwyr, Peth bynac a ddyweto ef wrthych, gwnewch.
6Ac ydd oedd yno chwech ddwfrlestri o vain, wedy gosot, yn ol devot puredigaeth yr Iuddaeon a weddei ynthwynt dau ffirkin nei dri.
7Yr Iesu a ddyuot wrthynt, Llanwch y dyfrlestri o ddwfr. Yno eu llanwasant wynt yd yr emyl.
8Yno y dyvot ef wrthynt, Gellyngwch yr awr hon a’ dygwch at lywodraethwr y wledd. Ac wy ei dygesont.
9A’ gwedy provi o lywrdraethwr y wledd y dwfr a wneuthesit yn win, (can na wyddiat ef o bale y cawsit: anid y gwasanaethwyr a el’yngesent y dwr, a wyðent) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodaswr,
10ac a ddyvot wrthaw, Pop dyn a ’osyt win da yn gyntaf, a gwedy yddyn yvet yn dda, yno vn a vo gwaeth: tithae a gedweist y gwin da yd yr awrhon.
11Hyn o ddechrae arwyddion a wnaeth yr Iesu yn Cana tref yn Galilaia, ac a ddangoses ei ’ogoniant, a’ ei ddyscipulon a credesōt ynthaw.
12Gwedy yddo vyned i wared i Capernaum, ef a’ ei vam, a’i vroder a’i ðiscipulō: ac nyd aroesont yno ny‐mawr o ddyðie.
13Can ys Pasc yr Iuðeon oedd yn agos. Am hyny ydd aith yr Iesu i vynydd i Caerusalem.
14Ac ef a gavas yn y Templ yr ei a werthent ychen, a’ deueit, a’ cholombenot, a newidwyr arian, yn eistedd yno.
15Ac ef a wnaeth ffrewyll o reffynnae, ac y gyrrawdd wy oll y maes o’r Templ y gyd a’r deueit, a’r ychen, ac a dywallodd arian y newidwyr, ac a ddymchwelawdd y borddae,
16ac a ddyuot wrth yr ei a werthent colombennot Dygwch ffvvrdd y pethe hyn o ddyma: na wnewch duy vy‐Tat, yn tuy marchnat.
17A’ ei ddiscipulon a gofiesont, val ydd oedd yn escriuenedic, Y gwynvyt am dy duy a’m y sawdd i.
18Yno ydd atepynt yr Iuddaeon, ac y dywedynt wrthaw, Pa sign a ddangosy i ni, can ys gwnai di y pethae hyn?
19Atepawdd yr Iesu a’ dywedawdd wrthynt, Goyscerwch y Templ hon, ac mevvin tri‐die y cyfodaf hi drachefyn.
20Yno y dywedynt yr Iuddaeon, Chwech blynedd a’ dau ’gain y buwyt yn adailiad y Templ hon, ac a gyuody di hi mevvin tri die?
21Ac y cf a ddywedesei am Templ ei gorph.
22Am hyny cy gynted y cyuodes ef o veirw, y cofient ey ddiscipulon ddywedyt o hanaw hyn wrthynt: a’ hwy a credessont yr Scripthur, a’r gair a ddywedesei yr Iesu.
23Ac val yr oedd ef yn‐Caerusalem ar y Pasg yn yr wyl, llawer a gredesont yn y Enw ef, wrth weled y gwrthiae a wnaethoeðoedd ef.
24A’r Iesu nyd ymddiriedawð yðyn am danaw ehun, can ys adwaeniad ef hwy oll,
25ac nad oedd arnaw eisiae testiolaethu o nep am ddyn: can y vot yn gwybot pa beth oedd mewn dyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.