1EIthr swm yr hyn a ðoytbwyd yw hyn, fod y ni gyfriw archeffeiriad, rrwn a eisteðavvdd ar ðehan tron y mawredd yn y nefoedd,
2Gwasnaythwr y cyssegrfa, a’r gwir dabernacl a esodes yr Arglwydd, ac nid dyn.
3Can ys pob archeffeiriad a osodir y offrymmu rrodion ac aberthau: ac am hyny y ðydoeð rraid, bod can hwn hefyt beth yw offrwmu.
4O blegid petfai ef ar y ddayar, ni byðei yn effeiriad chwaith, gan fod effeiriad sy yn offrymu rroddion ar ol y Ddeddyf,
5Rrain sy yn gwasneuthu portryad, a chysgod pethau nefawl, megis or nefoedd yr attebwyd y Voyses, pan oeð yn amcanu gorphen y tabernacl. Edrych hagen, heb ef, ar wneuthyr o honoti bob peth ar ol y portryat a ddangoswyd yti yn y mynydd.
6Eithr yn awr ir ayth yn archeffeiriad ni a swydd mwy rragorawl, o gimaint ac i may yn gyfryngwr Testament gwell, rrwn sy wedi y ’osod ar addaweidion gwell.
7O blegid yn wir ped fiase y Testament cyntaf hwnw yn ddifai, ni cheisiesid lle ir ail.
8Can ys yn beio arnūtwy y dowaid ef, Nycha y dawant y dyddieu, medd yr Arglwydd, pan ’orffennwy fi a thy Israel, ac a thy Iuda Destament newydd:
9Nid ar ol y Testament a wneuthym i ay taday hwynt, yn y dydd yr ymeilais i yn y llaw hwynt, yw dwyn o dir ir Aipht: can ys ni thrigasont wy yn y Testament mau fi, a minau ay eskeulusais hwynt, medd yr Arglwydd.
10O blegid hwn yw yr Testament a wnaf a thy Israel, ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, myvi a ddoda fyngyffreithiau yn eu meddwl, ac yn y calonau yr yscrivenaf, a’ mi a fydd y Dyw hwynt, ac wyntwthe fyddant fymhobl inau,
11Ac ni ddysc pop vn ei gymydawc, a’ phop vu ey frawd, gan ddoydet, Ednebydd yr Arglwydd, o blegid hwynt am ednabyddant i y gyd oll, or lleiaf o hanynt byd y mwyaf o honynt.
12Can ys mi fydda drigaroc wrth y enwiredd hwynt, ac wrth eu pechodau ac ni wna coffa am eu enwiredd hwynt mwy.
13Lle may ef yn doyded Testament newydd, may yn bwrw heibio yr hen, velly yr hyn a roir heibio ac a heneiddio, may yn agos y ddiflanu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.