1VYmrodyr, na fid cenychi ffydd eyn Arglwydd ni Iesu Christ gogoneddus ynghyd ac ystiriaeth personau.
2O bleit os daw i mewn ich cwmpeniaeth chwi, gwr yn arwain modrwy aur ac mewn dillad gwchion, a dyvot gwr tlawd hevyd mewn dillad gwaelion,
3Ac ystyriaeth o honoch ar y neb sy yn arwain dillad gwchion, a doedet wrtho, Eiste di yma mewn lle da, a doydet wrth y tlawd, Sa di yna, neu eistedd yma islaw fy stol droed,
4O ni dychi ynoch ych hunain yn gwneuthur dosparth, ac aythoch yn vrowdwyr brodiau drwg?
5Gwrandewch fymrodyr credigawl, oni ddewisodd Dyw tlodion y byd hwnn, y vod yn gowaethogion mewn ffydd, ac yn ytyfeddion ir dyrnas rron a addawodd ef ir rrai ay car ef?
6Eithr i ddychi yn dyrmugu yr tlawd. Onid ydynt y cywaythogion yn ych gorthrymmu‐chwi wrth trowsder] ac anyd ynt wy yn ych tynnu chwi gar bronn y frowdfainc?
7Onid ydynt wy yn goganu yr Enw rragorawl trwyr hwn ir cyfhenwir chwi?
8Eithr os cyflownwchi y frenhinawl gyfraith, ar ol yr yscrythyr, rron a ddyvvait, Car dy gymydawc yn gymaint a thi dy hun, ys da i gwnewch.
9Eithr os ystyriwchi berson‐dyn, y ddych yn gwnethyr pechod, ac ych yn cael cerydd can y gyfraith, mal troseddion.
10Can ys pwy bynac a gatwor gyfraith y gyd ac a ballo mewn vn pvvnc, may ef yn euog or cwbl.
11O blegid y neb a ðyfod, Ni wnei di godineb, a ðyfod hevyd, Ny leði. Os bydd i ti na wnelych odineb, ac etto lladd, y ðwyt yn trosseðwr y gyfraith.
12Velly i doydwch, ac velly y gwnewch, megis y rrei a fernir trwy gyfraith y rrydit.
13Can ys barn heb drugaredd, a fydd ir neb ni wnel trugaredd, a llawenychu a wna trugaredd yn erbyn barn.
14Pa les, vymrodyr, o dowaid neb fod cantho ffydd ac eb vot gantho weithredoedd? a ddychon y ffydd honno eu iachau ef?
15O blegit os byð brawd neu chwaer yn noeth, ac aysie beunyddawl ymborth,
16A’ doydet o vn o honoch wrthynt, Ewch er nawð Dyw, ymdwymnwch, ac ymlenwch, at etto heb roddi vddynt anghenrreidiaur corph, pa les fydd?
17Velly ffydd, oni bydd yddei gweithredoedd, marw ydyw ynthi y hun.
18Eithr rryw vn a ddowaid, Tydi ffydd sy cennyt minnau gweithredoedd sy gennyf: dangos di i mi dy ffydd wrth dy weithredoedd, a mi a ddangosa yt fy ffydd wrth fyngweithredoedd.
19Credu i ddwytti may vn Dyw y sydd: da rwyt arno: y diawlaid hefyd ay credant ac a grynant.
20Eithr a fynnid i wybod, o dydi over ddyn, may marw yw’r ffydd sy heb weithredoedd?
21O nid trwy weithredoedd i cyfiownwyd, Abraham yn tad ni, pan offrymmawdd ef Isaac eu fab ar yr allawr?
22 Ti a weli fod ffydd yn kydweithio ay weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd i perffeithiwyd y ffydd,
23Ac a gyflownwyd yr yscrythyr rron a ddowaid, Ef a gredawdd Abraham i Ddyw, ac ay cyfrifed iddo yn lle cyfiawnder: ac ay galwyd yn garedic i Ddyw.
24Chwi a welwch can hynny, may o weithredoedd y cyfio wnir dyn, ac nid o ffydd yn vnic.
25Yr vn ffunyt Raab y puttain onid o weithredoedd i cyfiownwyd hi, pan dderbyniodd hi y cenaday, ay danfon ymaith ffordd arall?
26Can ys megis y may’r corph heb yr yspryd yn farw: velly ffydd ys y heb weithredoedd marw ydyw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.