Psalm 73 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .lxxiij.Quam bonus Israél.¶ Psalm y roddit at Asaph.Prydnavvn vveddi.

1 YS da yw Dew y Israel: ’sef ir ei glan o galon.

2A’ minef, braidd na ’ogwyddoð vy-traet: bu vy-cerddediadeu wrth vron llithro.

3Can ys gwynvydais wrth yr ynvydion, pan welais lwyddiant yr ei enwir.

4Can nad oes rrwyme yn eu h’angae, anid bot yn gryfiō ac yn heini

5Mewn lluddet dyn nid ytynt, ac gyd a dyn ny’s poenir hwy.

6Am hyny balchder yw eu torch, a’ thrawseð y gwisc hwy val dillat.

7Ei llygait gan vraster a saif allan: y mae yddynt vwy nac a veddwl calon.

8Ymddatod y enwireð y wnant, a dywedyt anvad-’air am trawster: wy ddywedant am y Goruchaf.

9Gosodant ei genae yn erbyn y nefoeð, a’ ei tavot a gerdd rhyd y ddaiar.

10Am hyny yr ymchwel ei bopul yma: can ys dwfr lawn y wescir yddynt.

11Ac a ddywedant, Pa wedd y gwyr Dew? ac a oes gwybyddiaeth y gan y Goruchaf?

12Wele, lly’ma yr andewolion, ac ymaent yn llwyðo yn wastat, yn amláu mewn golud.

13Ys over y glanéais vy-calon, ac y golcheis vy-dwylo mewn gwiriondap.

14Can ys beunyð im poenwyt, ac im cospwyt bop boreu.

15A’s dywedaf, Barnaf val hyn, wely genedlaeth dy blant: gwneuthym ar gam.

16Yno y meddyliais ddeall hyn, gwaith oedd hyny ymy.

17Yn yd aethym i Gyssecr Dew y dyellais y dywedd hwy.

18 Sef y gosodeist hwy yn y llithrigvae, ac eu cwympeist ir diffeithieu.

19Mor ddysymwth y dyffeithwyt hwy, eu collwyt ac eu gorphennwyt yn echryslawn.

20Mal breuddwyt wrth ddihuno: Arglwydd, pan gotych, y gwnai y delw hwy yn dremyg.

21Sef y ceulawdd vy-calon, ac y brathwyt v’arennae.

22A’mineu oeddwn ynvyt, ac ny ddeallwn: yscrubl oeddwn ger dy vron.

23Er hyny ydd oeddwn i yn oystat gyd a thi: delieist erbyn vy llaw ddeheu.

24A’th cygor y tywysy vi, a’ chwedy im cymery y ’ogoniant.

25Pwy y mi yn y nef? ac ny ddesyfeis neb yn y ddaiar gyd a thi.

26Pallawdd vy-cnawd a’m calon: Dew nerth vy-calon, a’m rhan yn tragyvyth.

27Can ys wele, yr ei’n ’syn ymbelláu y wrthyt, y gollir: dinystri bawp ’sy yn puteinio y wrthyt.

28A’ mineu, da ym gyfnesáu at Ddew: y dodeis vy amdirieit yn yr Arglwydd Ddew, er datcan dy oll weithredoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help