1CYmporth Arglwydd, can na adwyt vn dyn dwywol: can ys pallawdd y ffyddlonion o blith plant dynion.
2 Hocced a ddywet pop vn wrth ei gymydawc, gan ymlewydd a ei gwefufeu, ymddiddan a dwy galon.
3Torid yr Arglwydd yr oll wefufae gweniaithus, a’r tavod y ddyweto vawr eiriae: yr ei a ddywedynt, A’n tavot y gorvyddwn, nyni biae ein gwefusau, pwy ’s ydd Arglwydd arnam?
4Yr owrhon er mwyn anraith yr angenogion, er vchenait y tlodion, y cyfodaf medd yr Arglwyð, ac a ddodaf mewn rhydit a vaglawdd yr andewiol.
5Geiriae yr Arglwyð, geiriae purion, arian, wedy ei goethi mewn ffwrn bridd, wedy ei buro saithwaith.
6Ti Arglwydd, ei cedwy hwy: ti ei gwaredy ef rac y genedlaeth hon yn dragyvyth.
7Yr anwywolion y rodiant o amgylch, pan ei dyrchefir wy, gwarth blant dynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.