Ebraieit 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ij.1 Eiriol arnam y mae ef vot yn uvydd ir Ddeddyf newydd ’rhon a roes Christ y ni, 9 Ac na rwystrer ni wrth wendit ac iselradd Christ, 10 Can vot yn angenreidiol yddo er ein mwyn ni gymeryd gyfryw ddiystadl gyflwr arnaw, val y byddei gynhebic yw vroder.

1AM hynny rraid yni yn ddysceulus ystirieth y pethau a glowsom, mal na ollymgom ni hwynt vn amser y lithro.

2Can ys o bydday gadarn y gair a ddoydid trwy Angelion, a derbyn o bob sarhaet, ac anufyddtod gyfion talu pwyth,

3Pa fodd y diangwn ni, od esceuluswn cyfryw vavvr gadwadigaeth? rrwn pan ddechreuwyd y arddangos drwyr arglwydd y hun, a sickerhawyd y ni gan y rrai a fu yn y wrandaw,

4Duw yn cydtestlauthu, drwy arwyddion a rryveddodau, ac ymravael rinweddau, a’ rranniadau yr Yspryd glan, ar ol y wyllys y hun.

5Can ys nid ir engylion y darestyngodd ef y byd a ddaw, rrwn y ddydym yn son am dano.

6Eithr vn yn rryw fan a ddwg testioleth, gan ddoydyd, Beth yw dyn, mal y meddyliech am dano? neu vab dyn mal y darbyddech o honaw?

7Ti ay gwnaythost ef ychydig yn is nor Angylion: a gogoniant ac vrddas y coronaist ef, ac ay gosodaist ef goruwch gweithredoedd dy ddwylaw.

8Pob peih a ddarostyngaisti tan y draed ef. Am hyn, gan ddarostwng o hono bob peth yddo, ni adawodd ef ddim heb y ðarostwng iðo. Eythr etto nid ydym yn gweled pop peth yn ostyngedic yddo.

9Eythr Iesu a welwn ni wedy y goroni a gogoniant ac vrddas, y neb a wnaythbwyd ychydic is nor angylion, herwydd dioddefaint marfolayth: mal y bay yddo ef trwy ras Duw brovi marfolayth dros bawb.

10Can ys gweddus oedd yddo ef, herwydd pwy y may pob peth, a thrw yr hwn y may pob peth, wrth iddo ddwyn llawer o feibion y ogoniant, gysegru pennadur y cadwadigaeth hwynt trwy ’ovydiau.

11Can ys y neb a santeiðio, ar sawl a santeiddier, or vn y maynt y gyd oll, or achos hwn ni vydd cwilyddus cantho y galw hwynt yn frodyr,

12Can ðoydyd, Myvi a ddangosaf dy enw di ym brodyr, ynghanol yr eglwys y canaf ymynnau yti.

13A’ thrachefn, Mi a ddodaf vy ymddiriaid yntho. A’ thrachefn, Wele vi, a’r plant a roddes Duw y mi.

14Am hynny gan fod y plant yn gyfrannog o gig a gwaed, yntau hevyd yr vn modd a wnaythbwyd yn gyframog or vnrryw, mal y gallai ef trwy farfolaeth ddistrowiaw, y neb y doedd a llyvodrayth marfolayth ar eu law, sef yw hwnw diawl.

15Ac mal y gallay ef y ymwared hwynt y gyd oll, rrain rrac ofn marfolaeth gwbl oi bowyd oyðynt tann gaythiwed.

16Nid angylion eusus a gymerawdd ef: eithyr epil Abraham a gymerawdd ef.

17Wrth hynny y dylai ef ymhob peth fod yn gyffelib yw frodyr, mal y gallai fod yn drigaroc, ac yn Archoffeiriat ffyddlawn am y pethau a berthynāt y Dduw, y ddiffoddi pechodau y bobl trwy fodloni Duw.

18Yn wir gan ddioddef o honaw, a’ bod profedigaeth arno: vo ddichon help yr rrai bo profedigaeth arnunt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help