1CAredigion, na chredwch bop yspryt, eithr provwch yr ysprytion ai o Dduw yð ynt: can’s gau bropwyti lawer aethont allant ir byt.
2Wrth hyn yr adwaynwch Yspryt Dew: pop yspryt yn coffessu ðyvot o Iesu christ yn‐cnawd, ys ydd o Dduw.
3A’ phop yspryt ny choffessa ddyvot Iesu Christ yn‐cnawt, nyd yw ef o Ddeo: eithr hwn yw yspryt Antithrist, am yr hwn y clywsoch son, y delei, ac ys ydd yr owrhon yn y byt.
4Blant bychain, ydd y chwi o Ddyw, ac y gorvuoch hwy: can ys mwy yw’r hwn ys ydd yno chwi, na’r hwn ys ydd yn y byt.
5Wyntvvy or byt y maent, am hyny y llafarant am y byt, a’r byt eu clyw.
6 Nyni o Ddew ydd ym, yr hwn a edwyn Ddyw, a’n clyw ni: yr hwn nyd yw o Ddyw, ni’n clyw ni. Wrth hyn yr adwaynom yspryt y gwirionedd, ac yspryt y cyfeilorni.
Yr Epistol y Sul cyntaf gvedy Trintot
7Garedigion, carwn eu gylydd: can ys cariat o Ddyw yr hanyw, a’ phop vn a gar, o Ddeo y ganet, ac a edwyn Ddyw.
8Yr hwn ny char, nyd edwyn e Ddyw: can ys cariat yw Duw.
9 Yn hyn y may cariat Dyw yn ymddangos arnam ni, can y Ddyw ddanvon ei vnic‐genedledic Vap ir byt, val y byddom byw trwyddaw ef.
10Yn hyn y mae cariat, nyd am ddaruot y ni garu Duw, eithyr am yddaw ef ein caru ni, ac anvon ei Vap y vot yn gyssiliat tros ein pechoteu.
11Caredigion, a’s velly in carawdd Duw ni, a’ nineu a ddylem garu eu gylydd.
12Ny welawdd nep Dduw erioed. As carwn ni eu gylydd, y mae Duw yn trigio ynom, a’i gariat ys y perffeith ynom.
13Wrth hyn y gwyddom ein bot yn trigio yntho ef, ac yntef ynom nineu: can ddarvot yddo roddi y ni o’i Yspryt ef.
14A’ nineu welsom, ac a destolaythwn, ddarvot ir Tat ddanvon y Map y vot yn Iachawdr y byt.
15Pwy pynac a goffeso bot Iesu yn Vap Duw, ynthaw ef y may Duw yn trigio, ac yntef yn‐Duw.
16A’ nyni a adnabuom, ac a gredasam y cariat ys y gan Dduw ynom ni. Duw cariat yw, a’r hwn a drig yn‐cariat, a drig yn‐Duw, a’ Duw yndo yntef.
17 Yn hyn y cwplëir y cariat ynom, val y bo y ni hyder yn‐dydd y varn: can ys mal y may ef, ys velly ydd ym nineu yn y byt hwn.
18Nyd oes ofn yn‐cariat, eithr perffeith gariat a vwrw allan ofn: o bleit y mae i ofn poenedigeth: a hwn a ofna, nyd yw perffeith yn‐cariat.
19Ydd ym ni yn y garu ef, can yddo ef ein caru ni yn gyntaf.
20A’s dywait nep, Mi a garaf Dduw, ac yn casau ei vrawt, celwyddawc yw: can ys pa‐ðelw y gall ef yr hwn ny char ei vrawt a welawð ef, garu Duw ’rhwn ny welawdd?
21A’r gorchymyn hwu ys ydd y ni y cantho ef, bot y hwn a gar Dduw, garu ei vrawt hefyt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.