Matthew 17 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xvij.Ymrithiat Christ ar vynyth Thabor. Dlyedus yw gwrando Christ. Am Elias ac Ioan Vatyddiwr. Ef yn iachay dyn lleuadglaf. Grym ffydd. Vmpryd a’ gweddi. Christ yn rhaevenegi am ei ddyoddefaint. Ef yn taly teyrnget.

1AC ar ol chwech diernot, y cymerawdd yr Iesu Petr, ac Iaco, ac Ioan ei vrawt, ac y duc wy i vynydd i vonyth vchel o’r nailltuy,

2ac ymrythiodd geyr y bron wy, ac a dywynnodd y wynep ef val yr haul, a’ ei ddillat oedd mor gannaid a’r goleuni.

3A’ nycha, Voysen ac Elias, yn ymddangos yddynt, yn ymddiddan ac ef.

4Yno yð atepawdd Petr, ac y dyvot wrth yr Iesu, Arglwydd, da yw i ni vot yma: a’s ewyllysy, gwnawn yma dri phebyll, vn i ti, ac vn i Voysen, ac vn y Elias.

5Ac ef eto yn ymadrodd, nycha wybren olau yn ei gwascodi hwy: nycha, lef o’r wybren yn dywedyt, Hwn yw vy‐caredic Vap, yn yr hwn im boðolonit: clywch ef.

6A’ phan glybu y discipulon hyny, y cwympesont ar ei hwynebae, ac a ofsont yn ddirvawr:

7Yno y daeth yr Iesu, ac ei cyhyrddodd wy, ac a ddyvot, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8A’ chwedy yddynt dderchafael ei llygaid ny welsant nep anyd yr Iesu yn vnic.

9¶ A’ mal y descendent o’r mynyth, y gorchymynawdd yr Iesu yddyn gan ddywedyt, Na ddywedwch y weledigaeth i nep, yn y chyvoto Map y dyn o veirw.

10A’ ei ddiscipulon a ovynawdd iðo, gan ddywedyt, Pa’m gan hyny y dyweit y Gwyr llen vot yn rait i Elias ddyvot yn gyntaf?

11A’r Iesu a atepawdd ac a ðyvot wrthyn, Diau y daw Elias yn gyntaf, ac yr edvryd ef oll.

12Eithr mi ddywedaf ychwi, ddyvot o Elias eisioes, ac na’s adnabuont vvy ef, a’ gwneuthyd o hanynt yddo beth bynac a vynesont: velly y bydd i Vap y dyn ddyoddef ganthwynt vvy.

13Yno y dyellodd y discipulon y vod ef yn dywedyt wrthwynt am Ioan Vatyddiwr.

14¶ A’ gwedy eu dyvot at y dyrva, y daeth ataw ryvv ddyn, ac aeth ar ei ’liniae iddo, ac a ddyvot,

15Arglwydd, trugarha wrth vy map: can yvot ef yn lloeric, ac ydd ys yn ddrwc wrthaw: can ys mynech y cwymp ef yn tan, a’ mynech yn y dwfr.

16A’ mi y dugym ef at dy ddiscipulon di, ac ny allasant wy y iachay ef.

17Yno ydd atepawdd yr Iesu, ac y dyvot, A genedleth, anffyddlawn a’ thrawsedic, pa hyd bellach y byddaf gyd a chwi? pa hyd bellach ych dyoddefaf? dugwch ef yma ataf i.

18A’r Iesu a geryddodd y cythrael, ac ef aeth allan o hanaw: a’r bachcen a iachawyt yn yr awr hono.

19Yno y daeth y discipulon at yr Iesu wrtho ehun, ac a ddywedesont, Paam na allem ni vwrw ef allan?

20A’r Iesu a ddyvot wrthwynt, O bleit eich ancrediniaeth: can ys yn wir y dywedaf y chwi, pe bei y chwi ffydd cymeint ac yvv gronyn mwstard chvvi ddywedwch wrth y mynyth hwn, Ysymud o ddyma draw, ac ef a ysymuta: ac ny bydd dim ampossibil ychwy.

21An’d nyd a allan y rhywiogeth hwn, amyn gan weddi ac vmpryd.

22¶ Ac val ydd oeddent vvy yn aros yn‐Galilaea y dyvot yr Iesu wrthwynt, Ef a ddervydd rhoddi Map y dyn yn‐dwylo dynion,

23ac vvy ei lladdant, a’r trydydd dydd y cyfyd ef: a’ thristay a wnaethant yn ddirfawr.

24A’ gwedy ey dyvot i Capernaum, yr ei oedd yn derbyn arian y deyrnget, a ddaethant at Petr, ac a ddywedesont, Any’d yw eich athro chvvi yn taly teyrnget?

25Ef a ddyvot, Ydyw. Ac wedy y ðyvot ef ir tuy, yr Iesu a ei rhac vlaenodd ef, gan ddywedyt, Beth a dybygy di Simon? Y gan bwy y cymer Brenhinedd y ddaiar deyrnget, nei dreth? y gan ei plant, ai gan estronieit?

26Petr a ddyvot wrthaw, y gan estranieit. Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Gan hyny y mae’r plant yn rhyddion.

27Er hyny, rac y ni y rhwystro hwy, does ir mor, a’ bwrw vach, a’ chymer y pyscotyn cyntaf a ddel i vynydd, ac wedy yt’ agory ei eneu, ti a gai ddarn o vgein ceinioc: cymer hynny a’ dyro droso vi a’ thi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help