1NYd lles y mi yn ddiau ymhoffy: cā ys dauaf ar weledigaethae a’ datcuddiedigaetheu yr Arglwydd.
2Mi adwaen ddyn yn‐Christ er ys rhagor i bedair blynedd ar ddec, (pa vn oedd ai yn y corph, ny wn, ai allan o’r corph, ny wn: Duw a wyr) yr hwn a gymerwyt‐y‐vynydd yd y drydedd nef.
3A’ mi adwaen gyfryw ddyn (ai yn y corph, ai allan o’r corph, ny wn: Duw a wyr)
4y gymeryd ef y vynydd i Paradwys, ac iddo glybot geiriae andywedadwy, yr ei nyd rrydd i ddyn ei llavaru.
5O’r cyfryw vn yr ymhoffaf, o hanof vyhun nyd ymhoffaf, oddieithr o’m gwendidæ.
6Can ys pe ’s ymhoffwn, ny vyddwn ynvyt: can ys dywedaf y gwirionedd, eithr eiriachaf, rac y neb dybiet am danaf uch law hyn a wyl vod ynof, neu a glyw genyf.
7A’ rrac tra ymdderchafael o hanof gan arbenigrwydd y datguddiegaethae, e roddwyt i mi bingyn yn y cnawt, cenad Satan im cernodio, rac tra ymdderfafæl o hanof.
8Am y peth hwn mi a atolygais yr Arglwyð dairglwaith, ar vot iddo ymadael a mi.
9Ac ef a ddyvot wrthyf, Digon yti vy rhat i: can ys vy‐nerth i a berffeithir trwy wendit. Llawē iawn gan hyny yr ymhoffaf vi yn hytrach yn vy‐gwendidæ, val y trico nerth Christ ynof.
10Can hyny ydd ymddigrifha vi yn‐gwendidæ, mewn amparchion, mewn anghenion, yn ymlidiae, yn‐cyfyngderæ er mwyn Christ: can ys pan wyf wan, yno ddwyf gadarn.
11Ynfyd oeðwn ymffrostio: chwichwi am cympellawð: can ys dylyeswn i gahel vy‐canmol genychwi: can ys yn‐dim nyd oeddwn iselach na’r gwir bennaf Apostolion, cyd nad wyf ddim.
12Arwyddion Apostolieit a weithredwyt yn ych plith chwi gā vawr ammynedd, gan arwyddion, a’ rhyveðodae, a’ nerthoc‐weithredoedd.
13Can ys pa beth yw, ar oeddechvvi yn iselach nac Ecclesidd eraill, odieithr na vum ðiogswrth‐arnoch? maddeuwch i mi hyn o gamvvedd.
14Wely, y drydedd waith vyvi yn parot y ddyvot atoch, ac eto ny byðaf-ðiog‐ormesol‐arnoch: can na cheisiaf yr pethe sydd yddoch, anyd chvvychwi: can na ðylyei y plant cascly da ir tadeu, anyd y tadeu ir plant.
15A’ myvi yn llawenaf olla draulia, ac a ymdrauliaf dros eich eneidieu: cyd po vwyaf ich caraf, lleiaf im cerir.
16Eithr bid na phwyseis arnoch: er hyny can vy‐bot yn gall mi a’ch delhiais a dichell.
17A hudais i chwi am ych da drwy neb or ei a ddanvonais atoch?
18Mi ddesyfais ar Titus, a chyd ac ef yd anvonais vrawt: a hudodd Titus chwi am ddim och da? any rodiesam yn yr vnryw yspryt? any rodiesam yn yr vn ryw lwybrae?
19Trachefn, a dybygwchvvi may ymgusodi ydd ym ni wrthych? ydd ym yn dywedyt rac bron Duw yn‐Christ. Eithyr gvvneuthur ydd ym bop peth, vygcaredigion, er adailadaeth i chwi.
20Can ys ofny ’rwyf rac pan ðelwyf, na’ch caffwy yn gyfryw rei ac a vynnwn: ac im ceffir inheu y chwitheu yn gyfryw vn ac ny vynnech, a’ rrac bot ymryson, cenivgenu, digofein cynnenneu, goganeu ymhustingeu, ymchwyddo ac ancydvot.
21Mae arna vi ofn rrac pan ddelwyf drachefn, vot i’m Duw vyngestwng yn eich plith, a’ dwyn galar dros lawer yr ei a bechasant eisius, ac ny chymeresont ediueirwch am yr aflendit, a’r godinep, a’ nwyfiant, a wnaethant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.