Ephesieit 6 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. vj.Pa wedd y mae ir plant ymddwyn tu ac at ei tadeu, ai mameu, A’ hefyd yntwy tu at ei plant. Gweision tu ai perchen. Perchen gweison, tu ac atynt wynte. Annogiat ir drin ysprytol, a’ pha ryw arvae y dyliei y Christianocion ymladd a’ hwynt.

1Y Plant, uvyddewch ich rieni yn yr Arglwyð: can ys hyn ’sy gyfiawn.

2Anrydedda dy dat ath vam (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf ac iddo addewit)

3val y bo yn dda i ti, ac val y bych hir oesoc ar y ddaiar.

4A’ chvvychvvi dade, na yrrwch eich plant i ddigio: eithyr maethddrinwch wy yn addysc, ac athraweth yr Arglwydd.

5Y gweision, uvyddehewch ir ei sy yn Arglwyddi ywch, erwydd y cnawt, ac ofn ac echryn yn semplder eich calonæ megis i Christ,

6nyd a llygad‐wasanaeth, megis boddlonwyr dynion, eithyr megis gweision Christ, gan wneuthur wyllys Duw o’r galō,

7ac o wyllys da yn gwasanaethu’r Arglwyð, ac nyd dynion.

8A’ gwybyðwch pa ddaoni pynac a wnel neb, ys hyny a dderbyn ef y gan yr Arglwyð, pa vn bynac ai caeth ai rrydd vo

9A’r Arglwyddi gwnewch-vvitheu’r vn ryw betheu yddynt wy, gan vaddeu bygwthiavv: a’ gwybyddwch vot eich Arglwydd chwi ac wynt yn y nefoedd, ac nad oes braint‐gymeriat gyd ac efe.

Yr Epistol y xxi. Sul gwedy Trintot.

10Am ben hyn, vy‐vroder, ym‐nerthwch yn yr Arglwydd, ac yn cadernit y allu ef,

11Gwiscwch oll arvogeth Duw amdanoch, val y boch abl i sefyll yn erbyn oll gynllwynion diavol.

12Can nad yw ein ymdrech ni yn erbyn cic a’ gwaed, yn amyn yn erbyn pendevigaetheu, yn erbyn meddianneu, ac yn erbyn llywodron bydol, tyvvosogion y tywyllwch y byd hwn, yn erbyn enwireddae ysprytawl, yr ei ynt yn y’r lleoedd vcheliō.

13O bleit hyn cymerwch atoch oll arvogaeth Duw, val y galloch wrth ladd yn y dydd blin, a’ gwedy ywch ’orphen pop dim, allv sefyll yn sefydlawc.

14Sefwch gan hyny, wedy amgylchwregesu eich clunieu a gwirionedd, ac ymwiscaw a’ dwyvronnec cyfiawnder,

15ac am eich traet ac escidiae paratoat yr Euangel tangneðyf.

16Vch pen pop dim, cymerwch darian y ffyð, a’r hwn y gellwch ddiffoddi oll saethae tanllyt y vall,

17a’ chymrwch helym yr iechedwrieth, a’ chleddyf yr Yspryt, rhwn yw gair Duw.

18A’ gweddiwch bop amser a’ phop ryw weddi ac ervyn yn yr Yspryt: a’ gwiliwch tu ac at hyn y gyd a phop astudrwydd a’ golochwyt dros yr oll Sainctæ,

19a’ thros‐y‐vinheu, ar roddy i mi ymadrodd, y agoriat vy‐geneu yn hyderus y venegi dirgelwch yr Euāgel rhon ydd wyf yn genadwri yddei,

20yn rhwym, val y bo ymy ddywedyt yn hyderus o hanei, megis y perthyn i mi ddywedyt yn y peth.

21Ac val y gwypoch hefyd y wrth vy negeseu i, a’ pha beth ’rwyf yn ei wneuthur, Tychicus vy‐caredic vrawt a’ gwenidoc ffyðlon yn yr Arglwydd, a veneic y’wch yr oll betheu,

22yr vn a ddanvoneis i atoch er mwyn hyny, val y caffech wybot y wrth vy negeseu, ac val y conffortiei ef eich calonæ.

23Tangneddyf vo y gyd a’r broder, a’ chariat gyd a ffydd o y wrth Dduw Dat, ac ywrth yr Arglwydd Iesu Christ. Rat

24a vo y gyd a’r oll rei a garant ein Arglwydd Iesu Christ, yvv hammorwolaeth. Amen.

* Hvvn a scrivenwyt o Ruuein, at yr Ephesieit, ac a ddanvonvvyt drwy lavv Tichicus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help