Galatieit 5 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen v.Mae ef yn ceisio y tynnu hwy ywrth yr Enwaediat. Ac yn dangos yddyn yr ymladd rhwng yr Yspryt ar cnawt, a’ ffrwytheu pop vn o’r ddau.

1SEfwch‐yn‐safadvvy yn y rhyðdit yn rhyddaodd Christ ni, ac na rwyder chwi drachefn ac iau caethiwet.

2Nacha, mi Paul a ddywedaf wrthych, a’s chvvychvvi a enwaedir arnoch, ny vuddia Christ ðim ywch.

3Can ys testiaf drachefn i bop dyn, yr hwn a enwaedir arno, y vot ef yn rhwym y gadw ’r Ddeddyf oll.

4Chwi ach ymddadwnaethoch y wrth Christ: pa ’r ei pynac ich cyfiawnir gan y Ddeddyf, ys cwympesoch y wrth rat.

5Can nyni trwy ’r Yspryt ym yn gwilied am ’obeith cyfiawnhad wrth ffydd.

6Can ys yn‐Christ Iesu nac Enwaediat ny vuddia ddim, na dienwaediat, anyd ffydd yr hon a waithia trwy gariat.

7Yr oeddech yn redec yn brydverch: pwy ach rwystrodd, val nad uvyddhaech ir gwironedd?

8Nyd yvv’r grediniaeth hon ywrth yr hwn a’ch gailw.

9Ychydic surdoes a sura yr oll does.

10Mae geny vi ’obeith am danoch trwy ’r Arglwydd, na byddwchwi o ddim meddwl amgen: eithyr hwn ’sydd ich trallodi chvvi, a ddwc ei varnedigeth, pwy ’n pynac vo.

11Ac a’s mivy, vroder, ’sydd eto yn precethu ’r Enwaediat, paam ydd ys eto im ymlid? velly ef ddadwnaed tramcwydd y groc.

12Och dduvv na thorit ymaith yr ei ach aflonyddant.

13Can ys vroder, ich galwyt chwi i ryðdit: yn vnic nac arvervvch eich ryðdit yn achos ir cnawd, eithr gan gariat gwasanaethwch bawb y gylydd.

14Can ys yr oll Ddeddyf a gyflanir yn vn gair, ’sef yn hwn, Cery dy gymydawc mal tuhun.

15A’s ynte cnoi ac yssu y gylydd a wnewch, ymogelwch rac ymddifa gan y gylydd.

Yr Epistol y xiiij. Sul gwedy Trintot.

16Wrth hyny y dywedaf, Rodiwch yn yr Yspryt, ac na vid ywch gyflanwy trachwāteu y cnawt.

17Cā ys y cnawd a drachwenych yn erbyn yr Yspryt, a’r Yspryt yn erbyn y cnawt: a’r ei hyn a gyverbyniāt y gylyð, val na alloch wneuthur cyfryw betheu ac a vynnech.

18Ac a’s arweinir chwi y gan yr Yspryt nyd ydych dan y Ddeddyf.

19Sef gweithrededd y cnawd ’sy amlwc, yr ei ynt, tori‐priodas, godineb aflēdit, nwyfiant,

20delw aðoliat, swyno, casinep, cynnēnu, gwynvydu, llit, ymgeiniae, tervyscae, cam‐opinionae,

21cenvigennæ, lladdiadae, meddtot, glothinep, a’r cyffelyp petheu hyn, am pa ’rei y rac ddywedaf ywch, megis ac y rac ddywedais yvvch, na bydd ir ei a wna’r cyfryw betheu, veddyannu teyrnas Duw.

22Eithr ffrwyth yr Yspryt yw cariat, llawenydd, tangneddyf, an mynedd, tiriondep, dayoni, ffyðlondep, gwarder, artempr

23yn erbyn y cyfryw nyd oes vn Ddeddyf.

24Can ys ’rei yddo Christ, a grocesont y cnawnt gyd a’u wniae ai drachwantae.

25A’s byw ydym yn yr Yspryt, rhodiwn hefyt yn yr Yspryt.

26Na ddeisyfwn wac ’ogoniant, gan ymannoc eugylydd ac yn ym‐genuigennu wrth eu gylydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help