1HEfyt, yroder, ny vynwn ywch anwybot, pā yvv bot ein oll tadeu gynt y dan yr wybren, a’u myned oll trwy’r mor,
2a’u batyddio vvy oll y dan Voysen, yn yr wybren, ac yn y mor,
3ac a vwytesōt bawp yr vn bwyt ysprytawl,
4ac a yfesont bawp yr vn ddiot ysprytawl (can ys vvy yfesont or vn graic ysprytawl rhon oedd yn dyvot ar ol: a’r Graic oedd Christ)
5eithr y lawer o hanwynt nyd oedd Duw voddlon: can ys bwrwyt wy y lawr yn y diffaithvvch.
6A’r ei hyny oeddynt esemplae y nyni, val na byddei y ninheu chwenychu am ðryc betheu, val ac y chwynechesont wy.
7Ac na vyðwch eiðol‐addolwyr, mal y bu rei o hanwynt wy, megis y mae yn scrivenedic, Eisteddawdd y popul y vwyta ac yvet, ac a gyvodesont i chwareu.
8Ac na wnawn ’odinep, mal y gwnaeth yr ei o hanynt wy ’odinep, ac a gwympiodd mewn vn diernot teir‐mil ar vcain.
9Ac na themtiwn Christ, megis ac y temptiawdd r’ei a hanaddynt wy ef, ac eu distrywyt gan seirph.
10Ac na vurnurwch chvvi, megis ac y murmurodd rhei o hanynt wy, ac au dinistrwyt gan y dinistrydd.
11A’r petheu hyn oll a ddeuth yddynt wy er esemplae, ac a escrivenwyt er rybydd i ni, ar ba rei y dygwyddawdd tervynae yr oesoedd.
12Can hyny hwn a debic y vot yn sefyll, edrychet rac iddo gwympo.
13Nyd ymavlawdd ynoch demtation, addieithyr vn dynawl: a’Duw ’sy ffyddlawn, yr hwn ny ad eich temto chvvi uchlaw hyn a alloch, eithyr gyd a’r temtation y gwna ef ellyngdawt, val y galloch ymdaro.
14Erwydd paam vy‐caredigion ffowch rrac eiðol‐addoliad.
15Dywedyt ydd wyf val wrth rei pwylloc: bernw‐chwi pa beth wyf yn ei ddywedyt.
16Phiol y vendith rhon ydd ym yn ei bendithio, anyd commun gwaet Christ yw? Y bara rhwn a dorwn, anyd commun corph Christ yw?
17Can ys nyni yr ei ym laweroeð ’ydym vn bara, ac vn corph, can eyn bot ni oll yn gyfranogion o vn bara.
18Edrychwch ar yr Israel rhwn ’sy erwydd y cnawd: anyd yw ’r ei a vwytaant or abertheu, yn gyfranogion o’r allor?
19Beth ddywedaf gan hyny? ai bot yr eiðol yn ðim neu vot yr hyn a aberthir ir eiðolon yn ddim?
20nag yvv, anyd am y petheu a abertha y Cenetloedd, eu bot yn y haberthu y gythreulieit, ac nyd i Dduw: ac ny vynnwn y chwi vot yn cymddeithas a’r cythreulieit.
21Ny ellwch yfet o phiol yr Arglwydd, ac o phiol y cythreulieit. Ny ellwch vot yn gyfranogion o vord yr Arglwydd, ac o vord y cythreulieit.
22A annogwn ni yr Arglwydd y ddigio? a ydym ni yn gadarnach nac ef?
23Y mae pop peth yn rhydd i mi, eithr ny wna pop peth les: pop peth ’sy rydd i mi, eithyr nyd yw pop peht yn addailad.
24Na cheisiet neb y peth ’sydd yddaw y hun, anyd pop vn lles y arall:
25Beth bynac a werthir yn y gigva bwytewch, eb y mofyn dim er mwyn cydwybot.
26Can ys yddaw’r Arglwydd y ðaiar, a’i chyflawnder.
27A’s bydd neb o’r ei ny chredant, ich gohawð a’ chwitheu yn myned, beth bynac a ddoter geyr eich bron, bwytewch, eb ymofyn dim er mwn eydwybot.
28Eithyr a’s dywait nep wrthych, E a aberthwyt y peth hyn ir eiðolon, na vwytewch ddim hano, o bleit hwn a ei dangosawdd, ac er cydwybot (can ys yr Arglwydd bieu ’r ddayar, a’ chwbl ’syð ynthei)
29a’r gydwybot meddaf, nyd taudi anyd vnarall: can ys paam y bernir vy rryðdit i gan gydwybot vn arall?
30O bleit a’s myvi trwy ddawn Duvv a wyf gyfranoc, paam im ceplir i, am yr hyn ydd wy vi yn diolvvch?
31Am hyny pa vn bynac a wneloch ai bwyta ai yfet, ai peth aral’, gwnewch bop peth er gogoniant i Dduw.
32Na vyðwch achos tramcwydd, nac ir Iuddeon, nac ir Cenetloedd, nac i Eccles Duw:
33’sef megis ac ydd wy vi yn rhengy bodd pawp ym pop peth, eb geisio y lles vy hunaan, anyd lles l’aweroeð, val e bōt cadwedic.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.