Ioan 14 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xiiij.Ef yn arfu ei ddiscipulō a dyddanwch yn erbyn trallot. Ef yn escen ir nefoedd y paratoi lle i ni. Y ffordd, y gwirioned a’r bywyt. Y Tat a’ Christ yr vn. Pa wedd y dylem weddiaw. Yr addaw ir sawl a gatwant y ’air ef.Yr Euāgel ar ddydd Philip ac Iaco.

1AC ef a ddyvot wrth ei ddiscipulon, Na thrwbler eich calon: ydd ych yn credy yn‐Duw, credwch yno vi hevyt.

2Yn‐tuy vy‐Tat y mae llawer o drigvae a’ phe amgen, ys dywedyswn ychwy. Mi af i baratoi lle y chwy.

3A’ gwedy ydd elwyf i baratoi lle ychwy, mi a ddauaf drachefyn, ac a’ch cymeraf ataf vyhun, mal yn y lle ydd wy vi, y bo chwi hefyt.

4Ac i b’le ydd a vi, y gwyddoch, a’r fforð a wyddoch.

5Thomas a ðyvot wrthaw, Arglwyð, ny wyddam i b’le yð ai: a ph’wedd y gallom wybot y ffordd,?

6Yr Iesu a ðyvot wrthaw, Mi yw’r ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyt.

7Ny ddaw nep at y Tat, anyd trywo vi. Pe’d adnabyddesech vi, vy‐Tat a adnebyddesech hefyt: ac o hynn allan ydd adwaenoch ef, ac ei gwelsoch:

8Philip a ðyvot wrthaw, Arglwyð, dangos i ny dy Tat, a’ digon genym.

9Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Bum gyd a chwi gyhyt o amser, ac nyd adnabuost vi, Philip? yrhwn a’m gwelawdd i, a welawdd vy‐Tat: a’ pha wedd y dywedy di dangos i ni d‐y Tat?

10A ny chredy, vy‐bot i yn y Tat, a’ bot y Tat yno vi? Y gairiae ydd wyf yn ey dywedyt wrthych, nid o hanof vyhun ydd wyf yn ey dywedyt: eithyr y Tat yr hwn ys y yn trigio ynof, ef a wna y gweithredoedd.

11Credwch vi, pan yw i mi vot yn y Tat, a’r Tat yno vi: ac anyd e, er mwyn y gweithredoedd, credwch vi.

12Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, hwn a cred yno vi, y gweithredeð a wna vi, a wnaiff yntef hefyt, a’r ei mwy na’rhein a wnaiff: can ys at vy‐Tat ydd a vi,

13A’ pheth bynac a archoch yn vy Enw, hynny a wnaf, yny ’ogonedder y Tat yn y Map.

14A’d erchwch ddim yn vy Enw, mi ei gwnaf.

Yr Euangel ar y Sul gwyn.

15 A cherwch vi, cedwch vy‐gorchmyniō,

16a’ myvy a weðiaf ar y Tat, ac e ryð y chwy ddiðanwr arall, mal ydd aros ef y gyd a chwi yn tragyvyth,

17ys ef Yspryt y gwirionedd, yr hwn ny ddychon y byt ei ðerbyn, cā na wyl y byt ef, ac na’d edwyn: a’ chvvichwi y adwaenoch ef: can y vot ef yn trigo gyd a chwi, ac y‐noch y byð.

18Ny’s gadawaf chwi yn ymddivaid: anid mi a ddauaf atoch.

19Eto ychydic enhyd, a’r byt ni’m gwyl mwyach, a’ chwi a’m gwelwch, can ys byw vyvy, byw vyddwch chwithe hefyt,

20Y diernot hwnw y gwybyddwch vy‐bot i yn vy‐Tat, a’ chwi yno vi, a myvi yno‐chwi.

21Y neb ys ydd a’m gorchymyneu gantho, ac y ew cadw, ef yw’r hwn a’m car i: a’ hwn a’m car i, a gerir gan ve‐Tat: a’ mi y caraf ef, ac a ymddangosaf yddaw.

22Iudas a ddyvot wrthaw (nyd yr vn Iscariot) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr ymddangosy i ni, ac nyd i’r byt?

23Yr Iesu atepawdd, ac a ddyvot wrthaw, A’s car nep myvi, ef a geidw vy‐gair, a’m Tat y car ef, a’ ni ddauwn ataw, ac a drigwn gyd ac ef.

24Y nep ni’m car, ny chaidw vy‐geiriae, a’r gair yr hwn a glywch, nid yw veu, anid gair y Tat yr hwn am anvones.

25Y pethae hynn a ddywedais wrthych, a mi gyd a chwi yn aros.

26Eithyr y Diddanwr, ys ef yw yr Yspryt glan, yr hwn a ddenvyn y Tat yn vy Enw, efe a ddysc ychwy yr oll pethae, ac a ddwc ar gof y chwy yr oll pethae, a’r a ðywedeis y‐chwy.

27Tāgneddyf a ’adawaf gyd a chwi: vy‐tangneddyf a roddaf ychwi: nyd mal y rhydd y byt, y rhodda vi ychwi. Na chynnyrfer eich calon, ac nac ofner.

28Ys clywsoch moð y dywedais wrthych, Af ymaith, a’ dauaf atoch. Pe carech vi, ys llawenechech, can i mi ddywedyt, Af at y Tat: can ys mwy yw vy‐Tat no myvi.

29Ac yr awrhon dywedais y chwi, cyn ei ddyvot, mal pan ddelo, y peth y credoch’.

30Yn ol hyn ny ddywedaf ny‐mawr o pethae wrthych: can ys tywysawc y byt hwn ’sy yn dyvot, ac nid oes iddo ddim yno vi.

31Anid hyn sydd er gwybot or byt, y caraf vy‐Tat: a’ megis i gorchymynawð y Tat y‐my, velly y gwnaf. Codwch, awn ymaith o ddyma.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help