1ARglwydd, yn dy nerth y llawenha’r Brenhin: ac mor ddirvawr vydd ei orvoledd ith iechyt.
2 Dysyfiat ei galon y roddeist iddo, ac arch ei wevuseu ny ’s necéist. Sélah.
3Can ys achubeist ef a bendithion daoni, a’ gosodeist ar ei ben goron o aur
4 Oes y ovynnawð ef yty, hiroes a roddeist iddo yn oes oesoedd.
5Mawr, ei ’ogoniant yn dy iechyt: gogoniant ac anrhydedd y osodeist arnaw.
6Can ys gosodeist ef yn vendithion yn dragyvythawl: llawenycheist ef a llewenydd dy wynepryd.
7Can vot y Brenhin yn ymddiriet yn yr Arglwydd, ac yn-trugaredd y Goruchaf, ny lithr.
8Ys cymmedr dy law ar dy oll elynion, ath ddeheulaw a veidr ar dy ddygasogion.
9 Ti gwnai hwy val ffwrn danllyt yn amser dy lit: yr Arglwydd y diua hwy yn ei ddiglloneð, a’r tan ei h’ysa.
10Ei ffrwyth a ddinistry y ar y ðaiar, a’ei had o blith plant dynion.
11Can ys bwriedesont ðrwc ith erbyn, y veddyliesont amcan, ny allan ei ’orphen.
12Am hyny y gosody hwy or nailltu, a’ llininae dy vwa a paratoi yn erbyn eu h’wynedae.
13Yth ddyrchaver, Arglwydd, yn dy nerth: [yno y canwn, ac y can molwn dy gedernit.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.