1PA beth gan hyny a ddywedwn, gahel o Abraham ein tad erwydd y cnawd?
2Can ys a’s Abraham a gyfiawnwyt gan weithredoedd, may iddo achos gorvoledd, eithyr nyd geir brō Duw.
3Can ys pa beth a ðyweit yr Scrypthur ’lan? Credawdd Abraham y Dduw, ac ei cyfryfwyt iddaw yn gyfiawnder.
4Ac ir neb a weithia, ny chyfryfir y cyfloc erwydd rhat, anyd o erwydd dlyed.
5Eithyr ir neb ny weithia, anyd credu yn hwn a gyfiawnha yr enwir, y ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.
6Megis ac y datcan Dauid ddedwyddwch y dyn, yr hwn y cyfrif Duw yddo gyfiawnder eb weithredoedd,
7gan ddyvvedyt, Ys dedwyddion yr ei, y maddeuwyt eu henwireddae, a’r ei y gorchuddiwyt ei pechotae.
8Ys dedwydd y gwr, ny chyfrif Duw bechot y‐ddaw.
9A ddaeth y dedwyddid hyn aryr enwaediat yn vnic, ai ar y dienwaediat hefyt?
Yr Epistol ar ddydd Enwaediat Christ.
Can ys‐dywedwn, ddarvot cyfrif y ffydd i Abraham yn lle cyfiawnder.
10Pa vodd y cyfrifwyt hi? ai gwedy enwaedu arno, ai cyn enwaedu? nyd gwedy yr enwaedu, anyd cyn yr enwaedu.
11Yno y cymerth ef arwydd yr enwaediat, vegis yn insel yr ffydd rhon oedd ganthaw cyn enwaedu arno, val y byddei ef yn dat pawp vyddei yn credu, cyn enwaedu arnynt, mal y cyfrifit yn cyfiawnder yddwynt vvy hefyt,
12ac yn dat yr enwaediat, nyd yddynt wy yn vnic yr ei o’r enwaediat, anyd ir sawl hefyt a gerddant ar olion ffydd ein tat Abraham, ’rhon oedd ganto cyn yr enwaediat.
13Can ys yr addewit ar iddo vot yn etifedd ir byt, ny roed i Abraham, nei yw had, trwy ’r ddeddyf, amyn trwy gyfiawnder ffydd.
14Can ys a’s yr ei y sydd o’r ddeddyf yvv ’r etiveddion ys gwacavvyt ffydd, ac ys dir ymiwyt yr addewit.
15O bleit y ddeddyf a bair ðigofeint: can ys lle nyd oes deddyf, nyd oes camwedd.
16Can hyny o ffydd y mae yr etiveddiaeth, val y del trwy rat, a’ bot yr addewit yn ddilis ir holl had, sef nyd yn vnic ir hwn ysydd o’r ddeddyf: anyd hefyt ir hwn ysydd o ffydd Abraham, rhwn yw ein tad ni oll,
17(megis y mae yn scrivenedic, Mi ath wnaethym yn dat llawer o genedloeð) ’sef geir bron Duw yr hwn a gredawdd ef, yr hwn a vywocaa ’r meirw, ac a’ ailw y petheu nyd ynt, val pe baent.
18Yr hwn Abraham tros ben gobeith, a gredawdd y dan ’obeith, val y byðei yn dat Cenetloedd lawer: erwydd hyn a ðywedesit vvrthavv, Velly y bydd dy had di.
19Ac ef e nyd yn egwan o ffyð nyd ystyriawdd y gorph y hunan, yr hwn oedd weithiō wedy marweiddio, ac yn cylch can blwyð oed, na marwoleth bru Sara.
20Ac nyd amheuawdd ef addewit Duw o ancredyniaeth, eithyr e nerthit yn y ffyð, ac a roes’ogoniant i Dduw,
21gan vot yn gwbl ddilis ganto, am yr hwn a aðawsei, y vot ef hefyt yn abl yvv wneuthur.
22Ac am hyny y cyfrfiwyt iddaw yn gyfiawnder.
23Ac nyd scrivenwyt hyny er y vwyn ef yn vnic, gyfrif hyn yddaw yn gyfiawnder,
24eithyr hefyt erom nine, ir ei y cyfrifir yn gyfiavvnder, y sawl a gredwn yn yr hwn a gyvodes Iesu ein Arglwydd o veirw.
25Yr hwn a roddet i angeu dros ein pechotae, ac a adgyfodwyt er ein cyfiawnhat ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.