1NEllach am ysprytawl ddoniæ, vrodur, ny vynnwn y chwi anwybot.
2Gwyddoch mae Genetloedd oeðech, ac ich dugit ffvvrdd at eidoleu mution, megis ich tywysit.
3Am hyny ydd espesaf y’wch, nad oes nep yn ymadrodd trwy Yspryt Duw, yn galw Iesu yn escommunbeth: hefyd nyd oes nep a all dywedyt mae ’r Iesu yw ’r Arglwydd, a ddieithr trwy ’r Yspryt glan.
4Sef y mae amryw ddonieu, eithr yr vn Yspryt.
5Ac y mae amryw wasanaetheu, eithyr yr vn Arglwydd.
6Ac ymae amryw weithrediadae, anyd yr vn Duw ydyw, ysydd yn gweithredu yr ol’ petheu hyny ym‐pawp.
7Eithyr amlygiat yr Yspryt y bop vn y rhoddir er llesiant.
8Can ys y vn y rhoddir trwy ’r Yspryt ymadrodd doethinep: ac y arall y rhoðir ymadrodd gwybyddieth, trwy’r vnryvv Yspryt:
9ac y arall y rroddir ffydd, trwy’r vn ryvv Yspryt: ac y arall doniae i iachau trwy ’r vnryvv Yspryt:
10ac y arall weithredyadæ gweithredoedd mawriō: ac y arall propwytoliaeth: ac y arall vvybot gohanieth ysprytoedd: ac y arall, amryw davodew: ac y arall ladmerieth tavodeu.
11A’r oll petheu hyn a weithreda ’sef yr vn ryw Yspryt, gā rannu yn ailltuawl i bop dyn megis yr ewyllysa ef.
12Can ys megis y mae y corph yn vn, ac yddaw lawer o aylodae, a’r oll aelodae yr vn corph, cyd baent llawer, eto nyd ynt anyd vn corph: ac velly y mae Christ.
13Can ys trwy ’r vn Yspryt in batyddiwyt yn vn corph, pa vn bynac vom ai Iuddaeon, ai Groecwyr, ai caithion vom, ai rhyddion, ac in gwnaethpwyt y yfet yn yr vn Yspryt.
14Can ys y corph hefyt nyd yw vn aylod, anyd llawer.
15A’s y troed a ddywait, Can nad wyf y llaw, nyd wyf o’r corph, anyd yw hi er hyny o’r corph?
16Ac a’s dywait y glust, Can nad wyf i lygat, nyd wyf o’r corph: anyd yw hi er hyny o’r corph?
17A’s yr oll corph vyddei lygat, p’le byddei ’r clywedigeth? a’s y cwbl vyddei yn glywedigeth, p’le bydei’r arogledigeth?
18Ac yr awrhon ef a ’osodawdd Duw yr aelodae bop vn o hanyn yn y corph val y bu da ganto ef.
19Can ys pe baent oll vn aelod, p’le byddei ’r corph?
20And yr awrhon y mae aelodae lawer, ac eto vn corph.
21A’r llygod ny all dywedyt wrth y llaw, Nyd rait i mi wrthyt: na’r pen drachefn wrth y traet, Nyd raid y mi wrthych.
22Eithyr yn vwy o lawer yr aebodae hyny ir corph, a dybir eu bot yn l’escaf, ’syð yn angenreidiol.
23A’r aelodae hyny ir corph, yr ei a dybiwn eu bot yn anparchedichaf, y gosodwn vwy o barch yn ei cylch: a’n aelodae anharð ’sy a mwy o harddiwch am danwynt.
24Can nad rait in aelode hairddion vvrthavv: eithyr Duw a gyd ardemperawdd y corph, gan roðy mwy o barch ir lle ’r oedd yn ddefficiol:
25Rac bot ancydvot yn y corph: anyd bot i’r aelodeu gyd ’ofalu dros y gylyð.
26Can hyny a’s doluria vn aylod, e gyd‐doluria ’r oll aelodae: a’s anrydeddir vn aylod, e gyd‐doluria’r oll aelodae: as anrydeddir vn aylod, cyd lawenhau a wna’r ol’ aeloodae.
27Ac yð yw chwi yn gorph Christ, ac yn aelodae bob vn o ran.
28A’ Duw a lunieithawð rei yn yr Eccles: megis yn gyntaf, Apostolion, yn ail Propwyti, yn trydyð dyscyawdwyr, yno yr ei wnant wyrthiae: gwedy hyny, donieu iachau, canhorthwywyr, llywodaethwyr, rhywiae tavodyð.
29Ai Apostolion pawp? ai Propwyti pawp? ai dyscawdwyr pawp? a wna pawp wyrthieu?
30a oes gan bawp ddoniae i iachau? a yw pawp yn cael ymadroð a’ thavodeu? a ydyw pawp yn medry latimeru?
31A’ deisyfwchvvi y donieu goreu, ac eto y dangosaf ywch ffordd draf arddderchawc.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.