Ioan 5 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. v.Ef yn iachau yr dyn a vesei glaf amyn dwy blyddedd da’ugain. Yr Iuddaeon yn y gyhuvdaw ef. Christ yn atep trosdaw ehun, ac yn y argyoeddy hwy. Gan ddangos drwy destoliaeth ei Dat. Am Ioan. O y weithredoedd ef Ac o’r Scrythur ’lan pwy ’n yw ef.

1GWedy hyny, ydd oedd gwyl yr Iuddaeon, a’r Iesu a escendawð i Caerusalem.

2Ac y mae yn‐Caerusalem wrth y ðevaidiawc ’lyn a elwir in Ebreo Bethesda, ac iddo pemp porth:

3yn yr ei’n y gorwedei lliaws mawr o gleifion, o ddaillion, cloffion, a’ gwywedigion, yn dysgwyl am gyffroedigeth y dwfr.

4Can ys Angel yr Arglvvydd a ddescennei ar amsere ir llyn, ac a gynnyrfei ’r dwfr: yno pwy pynac yn gyntaf ar ol cynnyrfiat y dwfr, a ddescendai y mywn, a iachaijd o ba ryw haint bynac a vei arnaw.

5Ac ydd oedd yno ryw ddyn yr hwn a vesei yn glaf n’amyn es dwy vlwyðyn da’ugain.

6Pan ’welawdd yr Iesu ef yn gorwedd, a’ gwybot y vot ef ys cyhyd o amser yn glaf, ef a ddyuot wrthaw, A wyllysy dy wneuthu’r yn iach?

7Atepawdd y claf yddaw, Arglwyð, nyd oes genyf nep, pan gynnyrfer y dwfr, i’m dodi yn y llyn: eithy’r tra vwy vi yn dyuot, arall a ddescend o’m blaen.

8Dywedawdd yr Iesu wrthaw, Cyvot: cymer ymaith dy glwth a’ rhodia.

9Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach, ac ef gymerth‐ymaith ei ’lwth, ac a rodiawdd: a’r Sabbath oedd ar y diernot hwnw.

10Dywedyt am hyny o’r Iuðaion wrth hwn a wnaethesit yn iach, Dydd Sabbath yw hi: nyd yw gyfreithlawn y‐ti gymryd‐ymaith dy ’lwth.

11Attepawdd yddwynt, Hwn a’m gwnaeth i yn iach, ys ef a ðyuot wrthyf, Cymer dy ’lwth, a’ rhodia?

12Yno y gofynnesont iddaw, Pa ddvn yw hwnw a ddyvot wrthyt, Cymer‐ymaith dy ’lwth, a’ rhodia?

13A’hwn a iachaesit, ny wyddiat pwy ’n oedd ef: can ys yr Iesu a dynnesi ymaith y wrth y dyrfa ’oedd yn y van hono.

14Gwedy hyny y cafas yr Iesu ef yn y Templ, ac addyuot wrthaw, Wely ith wnaethpwyt yn iach: na phecha mwyach, rac dyvot y‐ty beth a vo gwaeth.

15Y dyn aeth ymaith, ac a venegawdd i’r Iuddaeon. may ’r Iesu oedd hwn a ei gwnaethesei ef yn iach.

16Ac am hyny ydd erlidiynt yr Iuddeon yr Iesu, ac y caisynt y ladd ef, can y‐ddaw wneuthyd y pethae hyn ar y dydd Sabbath.

17A’r Iesu y atepawð wy, Vy‐Tat ys y yn gweithiaw yd hyn, a’ minef ’sy y yn gweithiaw.

18Am hyny y caisiai’r Iuddaeon yn vwy y ladd ef? nyd yn vnic can ydd‐aw dori’r Sabbath: eithyr dywedyt hefyt mai Duw oedd ei Dat, a’i wneuthu’r y hun yn gydstat a y Duw.

19Yno ydd atepawdd yr Iesu, ac y dyuot wrthwynt, Yn wir y dywedaf y chwi, Nyd aill y Map wneuthu’r dim o hanaw ehun, anyd hyn a wyl ef y Tat yn y wneuthu’r: can ys pa bethae bynac a wna ef, y pethae hyny a wna’r Map hefyt.

20Can ys y Tat a gar y Map, ac a ðengys y‐ddo pop peth oll, a’r wna a yntef, ac ef a ddengys y‐ddaw weithredoedd mwy na ’r‐ein, val y bo y chwi ryveddu.

21Can ys mal y cyvyt y Tat y meirw, ac ei bywha, velly y bywha y Map yr ei a ewyllysa ef.

22Can ys ny varn y Tat nebun, eithyr yr oll varn a roddes ef ir Map.

23Yny bo i bawp anrydeðy y Map, mal yr anrydeddant y Tat: hwn nid yw yn anrydeddu ’r Map, nid yw hvvnvv yn anrydeddu ’r Tat, yr hvvn yd anvonawdd ef.

24Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, yr hwn a clyw vy‐gair, ac a gred yn hwn a’m danvonawdd, y mae yddaw vywyt tragyvythawl, ac ny ddaw i varn, eithyr ef aeth ffwrdd o yvvrth angae i’r bywyt.

25Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, y daw yr amser, ac yrowan yw, pan glyw ’r meirw lef Map Duw: a’r sawl a ei clywant, a vyddant vyw.

26Can ys megis y mae ir Tat vywyt ynddo y hun, velly hefyt y rhoddes ef i’r Map vot iðo vywyt ynddo y hun.

27Ac a roep y‐ddaw veddiant do y roi barn: can y vot ef yn vap dyn.

28Na ryveddwch hyn: can ys‐daw yr awr yn yr hon y bydd ir sawl oll ynt yn y beddae, glywet y leferydd ef.

29Ac e ddaw allan, yr ei a wnaethant dda, i gyfodiadigeth bywyt: a’r ei a wnaethant ddrwc i gyfodiadigaeth barn.

30Ny alla vi wneuthur dim o hanof vy hunan: mal y clywaf, y barnaf: am barn i ’sy gyfion, can na cheisiaf vy ’wyllys vy hun, eithyr ewyllys y Tat yr hwn a’m danvonawdd i.

31A’s testolaethwn am dana vy hun, nyd oedd vy‐testiolaeth i gywir.

33Chwichvvi a ddanvonesoch at Ioan, ac y ef a destolaethawdd ir gwirionedd.

34A’ mi ny chymeraf destoliaeth y gan ddyn: eithyr y pethe hyn a ddywedaf, val yr iachaijr chwi.

35Efe oeð ganwyll yn Lloscy, ac yn tywynu: a chwi chvvi a vynesech dros amser ymlawenychu yn y lewych ef.

36Eithyr y mae i mi testoliaeth mwy na thestolaeth Ioan: can ys y gweithredoedd a roes y Tat i mi y’w gorphen, ’sef y gweithredoedd hyny, a’r ydd wy vi yn ei gwneythur, a testolaethant am dana vi, may’r Tat am danvonawdd.

37A’r Tat yntef, yr hwn am danvonawdd, a destolaetha am danaf. Ny chlywsoch y leferydd ef vn amser, ac ny welsoch ei wedd.

38A’ y ’air ef nyd yw ychwi yn aros ynoch: can ys yr vn a ddanvonoð ef, hwnw ny chredwch.

39Chwiliwch yr Scrypthurae: can ys ynthwynt hvvy y tybiwchwi y ceffwch vywyt tragyvythawl a’ hwy ynt yr ei a destolaethant am dana vi.

40Ac ny ddewchwi ata vi, y gaffel o hanoch vywyt.

41Ny dderbyniaf vawl y gan ddynion.

42Eithr mi ach adwaen, nad oes genychgariat Duw ynoch.

43Myvi a ðaethym yn Enw vy‐Tat, ac ni’m derbyniwch vi: a’s arall a ddaw yn y enw hun, hwnw a dderbyniwch.

44Pa voð y gellw‐chwi gredu, a’ chwi yn derbyn anrydedd y gan y gylydd, eb ychvvy gaisiaw ’r anrydedd y sydd o Dduw yn vnic?

45Na thybiwch y cyhuðaf vi chwi wrth vy‐Tad: y mae vn a’ch cyhudda chvvi ’sef Moysen, yn yr hwn yr ymðiriedw chwi.

46Cans pe’s credyssech Moysē, chvvi am credyssech inef: can ys o hano vi ydd escrivenawdd ef.

47Ac a ny chredwch ei yscrifennae ef, py ’wedd y credwch vy‐gairiae i?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help