1PA ragorieth gan hyny ’sy ir Iuðew? nei pa les ’sy o’r enwaediat?
2Llawer ym pop ryw vodd: can yn bennaf, am ’orchymyn yddwynt wy ymadroddion Duw.
3O bleit beth, er nad oedd ’rei yn credu? a wna y ancrediniaeth hwy ffydd Duw yn ddi rym?
4Na bo hyny: eithr bid Duw yn gywir, a’ phob dyn yn gelwyddoc, megis ydd scrivennwyt, Mal ith cyfiawnheir yn dy ’eiriae, ac yty ’orvot pan ith varner.
5Velly a’s ein anwiredd ni a gymenna wirionedd Duw, pa beth a ddywedwn? aydyw Duw yn ancyfiawn yr hwn ’sy yn rroi poen (dywedyt ydd wyf val yn ol dull dyn.)
6Ymbell yw: nei ynte pa wedd y barn Duw y byt?
7O bleit a’s gwirionedd Duw vu chelaethach trwy vy‐celwydd i yvv ’ogoniant ef, paam mwyach im bernir inef mal pechatur?
8Ac (megis in gogonir, ac megis y ’sygana rei ein bot yn dywedyt) paam na wnawn ddrwc, val y del da o hanavv? yr ei ’sy gyfion ei barnedigeth arnynt.
9Beth am hyny? a ym ni mwy ragorawl? Nag ym ddim oll: can ys provesam eisioes, vot pawp ys yr Iuddaeon a’r Cenetloedd y dan bechot:
10megis y mae yn scrivenedic, Nyd oes nep cyfiawn, nac oes vn.
11Nyd oes nep a ddyall: nyd oes nep a ymgais a Dduw.
12VVy aethont oll oddyar y ffordd: vvy aethon y gyd oll yn anvuðiol: nyd oes neb a wna ddaioni, nac oes neb un.
13Bedd agoret yvv eu mwngl: ei tauodae a arveresont er twyllo: gwenwyn nadroedd ys id y dan ei gwefusae.
14Yr ei ’sy a’ ei geneu yn llawn rhegy, a’ chwerweð.
15Ys buan yvv ei traet y ellwng gwaet.
16Artaith ac aflwyðion ’sy ar ei ffyrdd.
17A’ ffordd tangneddyf ny’s adnabuont.
18Nyd oes ofn Duw ger bron ei llygeit.
19A’ gwyddom mai pa pethe bynac a ddywait y ddeddyf, mae wrth yr ei ’sy dan y Ddeðyf y dywait hi, y n y chaeer pop geneu, ac y ny bo yr oll vyt yn euoc geir bron Duw.
20Am hyny can weithredoeð y Ddeddyf ny chyfiawnheir vn cnawd yn y ’olwc ef: o bleit can y Ddeðyf y cair adnabodedigeth pechot.
21Ac yr owon yr eglurwyt cyfiawnder Duw eb y Ddeðyf, y gan destiolaeth y Ddeðyf a’r Prophwyti,
22ys ef, cyfiawnder Duw trwy ffydd Iesu Christ, i bawb, ac ar bawp a credant. Can nad oes ’ohanieth:
23can ys pechoð pawp, ac ynt yn ol am ’ogoniant Duw,
24ac wy a gyfiawnir yn rhat sef drwy y rat ef, trwy’r prynedigaeth ysyð yn Christ Iesu,
25yr hwn a ’osodes Duw yn gymmot trwy ffydd yn y waed ef y ddangos y gyfiawnder ef, can vaddeuant y pechoteu oeddent gynt, drwy ddyoddefiat Duw,
26y ddangos y pryd hyn y gyfiawnder ef, mal y byddei ef yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb ysydd o ffydd Iesu.
27P’le gan hyny y mae’r ffrost? E gaywyt allan. Trwy pa ddeddyf? Ai vn y gweithredoedd? Nac ef: eithr can ddeddyf ffydd.
28Ydd ym ni yn ddibenny gan hyn bod yn cyfiawnhau dyn eb weithredoedd y ðeddyf.
29Duvv, ai Duw ’r Iuddeon yw ef yn unic, ac nyd ir Cenetloead hefyt? Yn wir, y mae ef ir Cenetloedd hefyt.
30Can ys vn Duw ytyvv, yr hwn a gyfiawnha yr enwaediat o’r ffydd, a’ dienwaediat trwy ffydd.
31A ydym ni velly yn gwneuthur y ddeðyf yn ddirym trwy ’r ffydd? Ymbell oedd: ’sef ydd ym yn cadarnha y ddeddyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.