1PWy pynac ’sy yn credu mae Iesu yw’r Christ, o Ddeo y ganet, a’ phob vn ’sy yn y caru yr hwn a genedlodd, y car yntef hefyt yr hvvn a genetlwyt o hano ef.
2Yn hynn y gwyddom y carwn blant Dyw, pan ym yn caru Duw, ac yn cadw ei orchymynneu.
3Can ys hwn yw cariat Duw bot y ni gadw ei ’orchymynneu: a’i ’orchmynneu nyd ynt trymion
4Cans oll ar anet o Dduw, ’sy yn gorchvygu’r byt, a’ hon yw’r ’oruchafieth ys y yn goruchvygu’r
Yr Epistol y Sul cyntaf gwedy ’r Pasc
byt, ’sef ein ffydd.
5Pwy ’sydd yn gorchvugu’r byt, anyd yr hwn ’sy yn credu may Iesu ’sy Vap Duw?
6Hwn yw’r Iesu Christ y ddaeth trwy ddwfr a’ gwaet, ny trwy ddwfr yn vnic, amyn trwy ddwfr a gwaet: a’r yspryt yw’r hwn ’sy yn testio: can ys yr Yspryd ysydd wirionedd.
7Can ys y mae tri, ys y yn testiolaethu yn y nef, y Tat, y Gair, a’r Yspryt glan: a’r tri hyn vn ynt.
8Ac y mae tri, ysy yn testiolaethu yn y ddaiar, yr yspryt, a’r dwfr a’r gwaet: a’r tri hyn cytvn ynt.
9A’s testiolaeth dynion a dderbyniom, testoliaeth Dyw ’sy vwy: can ys hyn yw testiolaeth Dyw, y destiawdd ef am ei Vap.
10Yr hwn a gred ym‐Map Dyw, y may iddo y testiolaeth yndo ehunan: hwn ny chred y Dduw, y gwnaeth ef yn gelwyddoc, can na chredawdd y destiolaeth, a destiolaethodd Dyw am ei Vap.
11A’ hon yw’r testiolaeth, ’sef darvot y Dduw roddi y ni vywyt tragyvythawl, a’r bywyt hwn ys yð yn y Map.
12Hwn y mae y Map yddaw, y may y bywyt yddaw: a’ hwn nyd yw yddaw Vap Dyw, nyd oes yddaw vywyt.
13Y petheu hyn a scriuenais atoch, yr ei a gredwch yn Enw Map Dyw, mal y gwypoch vot ychwy vywyt tragyvythawl, ac mal y credoch yn Enw Map Dyw.
14A’ hyn yw’r hyder, ys y genym ynddo ef, can ys ad archwn ni ddim erwydd y wyllys ef, ef a’n clyw ni.
15Ac a’s gwyddom y vot ef yn ein clywet, pa beth pynac a archom, gwyðom vot y ni ein airch y archasam arno.
16A’s gwyl nep ei vrawt yn pechu pechot, ar nyd yvv hyd angeu, archet, ac ef a rydd yddaw vywyt ’sef ir ei ny phechant yd angeu. Y mae pechot yd angeu: nyd wyf yn dywedyt y dleyt‐weðiaw drosto.
17Pop ancyfiawnder pechot yw, ac y mae pechot ’rhvvn nyd yvv yd angeu.
18Gwyddom mae pwy pynac a anet o Ddyw, na phecha: eithyr hwn a genetlwyt o Dduw, y caidw ehun, a’r Vall ny chyfwrdd ac ef.
19Gwyddom ein bot o Ddyw, a’r oll vyt ys y yn gorwedd yn‐drigioni.
20A’ ni wyddom ddyvot Map Duw, ac a roes y ni veddwl y adnabot yr hwn, ys y gywir ac yð ym ni yn y cywir hwnw, ’sef yn y Vap ef Iesu Christ: hwn yma ’sy wir Dduw, a bywyt tragythawl.
21 Vy ’rei‐bychain, ymgedwch ywrth eiddolon Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.