1Nefoedd y ddatcanat ’ogoniant Dew, a’r ffyrvavēt a vanaic waith ei ddwylaw.
2Dydd y dydd a ddywait yr vn peth, a’ nos y nos a ðengys wybodaeth.
3Nid na iaith nac ymadrodd ny chlywyt ei lleferyð.
4I pop tir ydd aeth y tynniat hwy, a’ ei geiriae yd yn eithaweð byd: i’r haul y gosodawdd babyll ynthynt.
5Yr hwn a ddaw allan mal priawt o ei estauell, a ymlawenha val cawr y redec yrfa.
6O eithav y nefoedd ei vynediat allan, a’i gylchyn y eithawedd hwy, ac nid a ymgudd rac ei wres.
7 Deddyf yr Arglwydd ddivagyl, yn troi yr eneit: testiolaeth yr Arglwydd ffyrf, ac yn rhoi doethinep ir ei seml.
8 Cynneddefae yr Arglwydd vnion ac yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd ys y pur, ac yn goleuo y llygait.
9Ofn yr Arglwydd glan ac a bery byth: barnae yr Arglwydd gwirionedd: cyfion ynt y gyd oll.
10Mwy deisyfydic nag aur, ys, nac aur coeth lawer: melysach hefyd na mel, ac na dil mel.
11Ac ys wrthwynt y dyscir dy was, ac o-ei cadw taliat lawer.
12Pwy a ddyaill gamweddeu? glanha vi ywrth vy[beieu] cuddiedic.
13Cadw hefyt dy was ywrth pechatae ryvygus, na arglwyddiaethant arnaf: yno im perfeithir, ac im glanheir ywrth anwiredd lawer.
14Bid ymadroddion vy=genae, a’ mefyrdawt vy calon wrth dy ewyllys yn dy olwc, Arglwydd, vy nerth, a’m prynwr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.