1WEithion can vot i ni yr a ddeweidion hyn, vy‐garedion, ymgarthwn y wrth oll vrynti y cnawt ac yspryt, gan ymgwplau i saincteiddrwydd yn ofni Duw.
2Derbyniwch ni: ny wnaetham gainvvedd i nebun: nyd anreithiasem nebun: ny siomesem nebun.
3Nyd er ech barnedigaeth y dywedaf: can ys rac ddywedais, ych bot chwi yn ein calonheu ni, y gyd varw a’ byw.
4Y mae hyfder vy ymadrodd wrthych: y mae genyf ’orvoledd mawr ynoch: im cyflawnir o ddiddanwch, ac ydd wyf yn dra llawen yn ein oll orthrymder.
5Can ys gwedy ein dyvot i Vacedonia, ny chai ein cnawd ni ddim llonydd, eithr in gorthymid o bop parth, gan ymladdae oddy allan, ac ofnion oddy mywn.
6Eithr Duw, yr hwn a ddiddan yr ei cystuddedic, a’n diddanawdd ni gan ddyvodiat Titus:
7ac nyd gan y ddyvodiat ef yn vnic, anyd hefyd y gan y diddanwch y diðenit ef genychwi pan venagawð ef i ni eich awyddvryd chwi, eich galar, eich anwylserch i mi, mal y llawenhawn yn vwy o lawer.
8Can ys cyd tristeais i chwi a llythyr, nyd edivar yw genyf, cyd byðei ediuar genyf: can ys gweled yddwyf ddarvot ir llithyr hwnw ych tristau chwi, cyd bei any tros amser.
9Yr awrhon yr wy’n llawē nyd can ich tristëit chwi, anyd am ych tristau i edweirwch: canys tristau a wnaethoch yn ðuwiol, val na chawsoch enwed yn‐dim y genym ni.
10Can ys duwiol dristit a bair edeuerwch er iechydvvrieth diedivarus: eithr bydol dristit a bair angeu.
11Cāys wely, hyn yma am ðuwiol dristau o hanoch, pa astudrwyð ei veint a weithioð ynoch: anyd pa amðeffen: anyd pa gilwc: anyd pa ofn: anyd pa ’oglyd: anyd pa wynvyd: anyd pa ddial: ac ym pop peth yr ymðangosasoch ych bot yn pur yn y devnyð hwn.
12Er wyð paā, er scrivenu atoch, nyd scrivennais oi bleit ef yr hwn a wnaethoedoedd y camvvedd, nac o bleit yr hwn a gafas y camvvedd, and er bod y gofal tu ac atoch chwi yngolwc Duw yn eglur y chwi.
13Am hyny in diddanit ni, achos ych diddanyad chwi: eithr llawenach o lawer mwy oeddem ni am lawenydd Titus, can lonni y yspryt ef genwch ’oll.
14Can ys a’s ffrostiais ðim wrthaw am danoch, ny’m cywilyddiwyt: eithr megis y dywedeisam wrthych bop dim yn‐gwirionedd, velly hefyt ydd oedd ein ffrost ni wrth Titus yn gywir.
15Ac y may y galondit ef yn helaethach tu ac atochvvi, pan goffaeych vvyðdot chwi oll, a’ pha wedd gyd ac ofn ac echryn yd erbyniesoch ef.
16Am hyny llawen wyf can i mi allu ymddiried ynoch ym‐pop dim.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.