1AC mi glyweis lleis mawr allan o’r deml, yn dwedyd wrth yr seith Angel, Ewch ffwrdd, a’ thywellwch allan seith phiol digovent Dyw ar y ddayar.
2Ar cynta aeth ac y dywalloedd y phiol ar y ddaiar: a’ chornwyd drwc a’ dolyrys y gwympoedd ar y gwyr ’oedd a nod yr enifel arnynt, ac ar y rrei y addolsant y ddelw ef.
3Ar eil Angel y dowalloedd y phiol ar y mor, ac ef aeth mal gwaed duyn‐vvedi‐marw, a’ phob peth byw yny mor y vy varw.
4A’r trydedd Angel y dwaloedd y phiol allan ar yr avonydd a’ ffynoneyr dyfroeð, ac hwy aethont yn waed.
5Ac mi glyweis angel y dyfroedd yn dwedyd, Arglwydd, Yr wyd yn gyfiawn, yr Hwn wyd, ac yr Hwn y vyost, a’ sancteidd, achos yd varny y pethey yma.
6Cans hwy gollasant gwaed y Seint, a’ phroffwydi, ac am hyny ti y rroddeist yddynt gwaed y yfed: cans teilwng yddynt y hynny.
7Ac mi glyweis arall or Cysegr yn dwedyd, Iey, Arglwydd Ddyw hollallyawc, cywir a’ chyfiawn ydynt dy varney di
8A’r pedwerydd Angel y dwalloedd allan ei phiol ar yr haul a gallu y rroed yddo y poeni dynion trwy wres tan,
9A’r dynion y aent yn boeth can wres mawr, ac y ddwedasant ddrwc am enw Dyw, oedd a meddiant gantho ar y plae hyn, ac ny chymersont eteyfeirwch y rroi gogoniant yddaw.
10A’r pymed Angel y dwalloedd y phiol allan ar eisteddle yr enifel, ae deirnas ef aeth yn dywyll, a’ chnoi y wneythont y tafodey gan ddolyr,
11A’ difrio y wneythont Dyw or nef gan y poenae, a chan y cornwydon, ac ny chymersant eteifeyrwch am y gweithredoedd.
12A’r chweched Angel y dywalloedd allan y phiol ar yr afon vawr Euphrates, a’r dwr o honi y sychoedd y vynydd, mal y gellid parottoi ffordd Breninoedd y Dwyren.
13Ac mi weleis tri ysbryd aflan yn debic y ffrogaed, yn dyfod allan o eney’r dreic, ac allan o eneyr enifel, ac allan o eney’r proffwydi ffeilston.
14Canys ysbrydion cythreyled ydynt, yn gwneythyr gwrthiey, y vynd at Vrenhinoedd y ddayar, a’r holl vyd, y cascly hwynt y ryfel y dydd mawr hwnw y bie Dyw hollalluawc.
15Syna, yr wyf yn dyfod mal lleidyr, Bendigedic ywr vn y wilio ac y gatwo y dillad, rrac yddo rrodio yn hoeth, a rrac gweled y vrynti,
16Ac hwy ymgynyllasant ynghyd y le y elwir yny’r Ebryw, Arma‐gedon.
17¶ A’r seithfed Angel y dwalloedd allan y phiol ir awyr: a ’lleis ywchel y ddeyth allan o deml y nef oddiwrth yr eisteddle, yn dwedyd, Ef y dderfy.
18Ac yr oeð lleisiey a thraney, a’ mellt ac yroedd crynfa vawr y ddayar, cyfryw na by er pen mae dynion ar y ddayar, crynfa’r ddayar cyment.
19A’ rrany y wneithpwyd y gaer vawr yn deir ran, a’ syrthio wneithont ceyrydd y nasioney: a’ Babylon vawr y ðeyth mewn cof gair bron Dyw, y rroi yddi cwppan gwin digofeint y lid ef.
20A’ phob ynys y ffoedd ymaith, ac ny chad cvvrdd ar mynydde.
21A chwympo y wnaith cenllys mawr, mal pwyse, or nef ar y dynion, a’r dynion y rregasant Ddyw, am plaae yr cenllys: can ys mawr anianol oedd y phla hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.