1YR Arglwydd a deyrnasa: bid hyfryd y ddaiar, llawenhaet llawer ynys.
2Wybre a’ thywyllwch o ei amgylch ef: cyfiawnder a’ barn sail ei eisteddva.
3Ef aá tân oei vlaen ef, ac a boetha ei ’elinion o y amgylch.
4Llewychawdd ei vellt i’r byt, gwelawdd y ddaiar, ac y ofnawdd.
5Y mynydde val cwyr y doddesont rac wynep yr Arglwydd, rac wynep Arglwydd yr oll ddaiar.
6Y nefoedd a venagant y gyfiawnder ef, a’r oll populoedd y welant ei ’ogoniant.
7Gwradwyðer y sawl oll y addolant ddelwae cerviedic, ys y ei gorvoledd yn idolon: addolwch ef yr oll ddywiae.
8Tsijón a glywodd, a’llawenechawdd: a’ merchet Iudáh vu hyfryt, o bleit dy varnion, Arglwydd.
9Can ys ti Arglwydd wyt oruchaf ar yr oll ddaiar: ith tradderchefir uch law yr oll ddewiae.
10Yr ei y gerwch yr Arglwydd, casewch ddrwc: efe ’sy yn cadw eneidiae ei Sainct: ef ei gwared o law yr andewiolion.
11Heuwyt llewych ir cyfiawn, a’ llawenydd i’r ei vnion o galon.
12Ymlawenhewch yn yr Arglwydd ’yr ei cyfion, a’ chyfaddefwch y’w goffa sanctaidd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.