1. Thessalonieit 4 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iiij.Y mae ef yn ei hannoc i sancteiddrwydd, Gwiriondep, Cariat Llavur, A’ chymmetroli galar a’ geirad am y meirw, Gan ddosparthu dywedd y cyuodedigaeth.Yr Epistol y Sul cyntaf yn y Grawys.

1AC eb law hyny ys atolygwn ywch, vroder, ac a ervyniwn yn yr Arglwydd Iesu ar ymchwanegu vwy vwy, megis yd erbyniesoch y cenym po’dd y dylech rotio, a’ boddhau Duw.

2Can ys gwyddoch pa ’orchmynion a roesam y’wch y gan yr Arglwydd Iesu.

3O bleit hyn yw ’wyllys Duw, ’sef eich sancteiðiat chwi, ac ymgynnal o hanoch rrac ffornicrwyð

4a’ gwybot o bop vn o hanoch p’odd y meddianna ei lestr yn sancteidrwydd ac anrydedd,

5ac nyd yn gwyyn trachwant, megis y Cenetloeð yr ei nyd adwaenant Dduw.

6Na bo i nep ’orthrymu na thwyllo ei vrawt ym‐masnach: can ys dialwr yw’r Arglwydd am bop cyfryw betheu, megis ac y rac ddywedesam y’wch, ac y testiasam.

7Can na’s galwodd Duw nyni y aflendit, yn amyn i sancteiddrwydd.

8Can hynuy y nep a escaeluso y petheu hyn, nyd dyn y mae yn ei escaeluso, ’n amyn Duw, ’rhwn ac a roddes ywch ei Yspryt glan.

9A’ thu ac at am vrawdgarwch nyd rait y chwy scrivennu o hanof atoch: can ys ich dyscwyt‐gan-Dduw y garu eu gylydd.

10Sef ydd ych yn gwneuthur hyn i bawp o’r vrodur, yr ei ’sy trwy oll Macedonia: ac adolwyn ywch, vroder, ar ragori o hanoch vwyvwy,

11a’ rhoi eich bryd ar vot yn llonydd, a’ gwneuthur y petheu sy y’ddwch eichunain, a’ gweithiaw a’ch dwylo eich vnain, megis y gorchymynesam y‐chwy,

12val yr ymddugoch yn sybervv tu ac at yr ei ’sydd oddy allan, ac na bo dim yn eisieu ychwy.

13Nyd wyllyswn, vroder, eich bot yn anwybot am yr ei ’sydd yn hunaw, val na chymroch‐drymder, megis ac y gvvna eraill yr ei nyd oes ganthynt ddim gobaith.

14O bleit a’s credwn varw o Iesu, ai adgynodi, ys velly yr ein a hunesant yn Iesu, a ðwc Duw y gyd ac ef.

15Can ys hyn a ddywedwn wrthych yn‐gair yr Arglwydd, na bydd i ni yr ei ’sy yn vyw, ac yym yn aros yn‐duodiat yr Arglwydd, ragvlaenu ysawl a hunesant.

16Can ys‐yntef yr Arglwydd a ddescend o’r nef gyd a gawr, ac a llef yr Archangel, ac ac vtcorn Duw: a’r meirw in‐Christ a gyuodāt yn gyntaf.

17Yno ninheu yr ei byw ac ’sy yn aros, a gymmerir yny man gyd ac wynt yn yr wybrenneu, y gyfarfod ar Arglwyð yn yr awyr: ac velly yn’oystatol y gyd ar Arglwyð y byddwn.

18Can hyny, conffortwch eu gylydd a’r ymadroddion hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help