Luc 5 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. v.Christ yn precethy allan o’r llong. Y tynniat mawr a’r byscot. Galw ’rei o’r discipulon. Ef yn glanhau ’r gohanglaf. Ef yn iachau ’r dyn o’r parlys. Ef yn galw Matthew y tollwr. Yn bwyta y gyd a phechadurieit. Ac yn escuso yr ei iddo ef, am vmprydiaw.Yr Euangel y v. Sul gwedy Trintot.

1YNo y darvu, a’r popul yn poysaw ato y wrandaw gair Duw, ac yð oedd ef yn sefyll yn emyl llyn Genesaret,

2ac e welodd ddwy long yn sefyll wrth y llynn, a’r pyscotwyr a descennesent o hanwynt, ac oeddynt yn golchi ei rhwytae.

3Ac ef a dringawdd i vn o’r llongae yr hon y oedd eiddo Simon ac a archawdd iddo hi gwthiaw ychidic y wrth y tir: ac ef a eisteddawdd, ac a ddyscawdd y torfoedd allan o’r llong.

4Gwedy iddaw beidiaw ac ymadrodd, y dyvot wrth Simon, Gwthia ir dwfn, a’ bwriwch eich rhwytae i wneythur tynn.

5Yno Simon a atepawd, ac a ddyvot wrthaw, Y llywiawdr, ni a dravaelesam yn hyd y nos, ac ny ddaliesam ddim: etwa ar dy ’air di, mi a vwriaf y rhwyt.

6Ac wedy yddwynt wneythyr hyn, wy a ddaliesont liaws mawr o byscot, yd pan rwygawdd y rhwyt wy.

7Ac wy a amneidiesant ar ei cyveillion, yr ei oeddent yn y llong arall, y ddewot yw canhorthwyaw, yr ei ddeuthant, ac a lanwesant y ddwy long, y’n y soddesont.

8A’ phan welawdd Simon Petr hyny, e ddygwyddawdd i lawr wrth ’liniae ’r Iesu, gan ddywedyt, Arglwydd, dos ywrthyf, can ys dyn pechaturus wyf:

9o bleit ydd oedd ef wedy brawychy arnaw, ac ar oll oedd y gyd ac ef gan y tynn o byscawt, a ddaliesent.

10Ac velly hefyd y daroedd i Iaco ac Ioan meibion Zebedeus, cym‐ddeithion i Simon. Yno ’r Iesu a ddyvot wrth Simon, Nag ofna: o hyn allan y byddy yn dala dynion.

11A’ phan dducesont y llongae ir tir, eu gadawsāt pop peth, ac ei canlynesout ef.

12A’ darvu, val ydd oedd ef mewn ryw ddinas, nycha wr yn llawn o’r gohanglwyf, a’ phan welodd ef yr Iesu, e gwympawdd ar ei wynep, ac a atolygawdd yddo, gan ddywedyt, Arglwydd, a’s wyllysy, gelly vy-glanhau.

13A’r Iesu a estendawdd ei law, ac ei cyfyrddawd ef, gan ddywedyt, Ewyllysaf, glanhaer di. Ac yn y van yr ymadawodd y gohanglwyf ac ef.

14Ac ef a ’orchymynawdd iddaw na ddywedei hyn i nebun: and Dos, eb yr ef, ac ymðangos ir Offeiriat, ac offrwm tros dy ’lanhat, mal y gorchmynawdd Moysen, yn testiolaeth yddynt.

15Ac aros hyny yn vwy yr aeth y gair am danaw ar lled, a’ minteioedd lawer a ðauent ynghyt i wrandaw, ac y’w hiachau ganthaw o ei gwendit.

16Ac ydd oedd ef yn dalha o’r neilltu yn y diffaith, ac yn gweddiaw.

17A’ darvu, ar ryw ddydd, val yr oedd ef yn ei dyscu, bot o’r Pharisaieit a’ dysciawdron y Ddeddyf yn eystedd yno, yr ei a ddaethent o bop tref yn Galilaia yn Iudaia, ac o Gaerusalem, a’ meddiant yr Arglwyð oedd yndavv er y iachau hwy.

18Yno nycha ’r ei yn dwyn dyn y mywn gwely, oeð yn glaf o’r paralys, ac y gaisiesont i ddwyn ef y mewn, a’ ei ’osod geyr y vron ef.

19A’ phan na vedrent ddychymygu pa ffordd y dygent ef y mywn, gan y dorf, wy ðringesant ar y tuy, ac ei gellyngesant y lawr drwy ’r to, ef ar gwely, yn y cenol geyr bron yr Iesu.

20A’ phan welas ef y ffydd wy, y dyuot wrtho ef. Y dyn ys maddeuwyt yty dy pechotae.

21Yno y dechreuawdd y Gwyr‐llen a’r Pharisaieit veddyliaw, gan ddywedyt, Pwy ’n yw hwn ’sy yn dywedyt cablae? pwy aill vaddae pechatae ’n amyn Duw y hun?

22Ac wrth wybot o’r Iesu y meddyliae hwy, yr atepawdd, ac y dyuot wrthynt, Pa veddylio ydd ych yn eich calonae?

23Pwy ’n hawsaf dywedyt, Ys maddeuwyt yty dy pechatae, ai dywedyt, Cyuot a’ rhodia?

24Ac val y gwybyddoch vot i Vap y dyn awdurtot i vaðae pechatae yn y ddaiar (eb yr ef wrth y claf or paralys) Wrthyt y dywedaf, Cyuot: cymer i vyny dy wely, a’ dos ith tuy.

25Ac yn y man y cyuodes y vynydd rhac y bron wy, ac a gymerth i vyny ei vvely yn yr hwn y gorweddei, ac aeth ymaith y’w duy y hun, gan volianny Duw.

26Ac aruthro a wnaethant oll, a’ molianny Duw, ac wy lanwit o ofn, gan ddywedyt, Can ys gwelsam bethae ancredadwy heddyw.

27Yn ol y pethe hyn, y ddaeth ef allan, ac y gwelawdd ef Bublican a’ei enw Levi, yn eistedd yn y dollfa, ac y ddyuot wrthaw, Dilyn vi.

28Ac ef a adawodd oll, a gynodes i uyny, ac y dylynawð ef.

29Yno y gwnaeth Leui ’wledd vawr iddaw yn y duy y hun, lle yr oedd tyrfa vawr o Bublicanot, ac o ereill, a’r a eisteddent ar y bwrdd y gyd a hwy.

30Eithyr y sawl o hanynt oedd ’wyr‐llen a’ Pharisaieit murmuro a wnaethant yn erbyn y ddiscipulon ef, gan ddywedyt, Paam y bwytewch ac yr yfwch y gyd a’r Publicanot a’ phechaturieit?

31Yno ydd atepawð yr Iesu ac y dyvot wrthynt, Nid raid yr ei iach, wrth veddic, anyd ir ei cleifion,

32Ny ddaethym i ’alw yr ei cyfion, anyd pechaturieit i ediveirwch.

33Yno y dywedesont wrthaw, Paam ydd vmprydia discipulon Ioan yn vynech, ac y gweðiant, a’ discipulon y Pharisaiait hefyt, ath rei dithef yn bwta ac yn yfed?

34Ac ef a ddyuot wrthynt, A ellw‐chwi wneythy’r plant ystafell‐briodas y vmprydiaw, tra vo ’r Priawd y gyd ac wynt?

35An’d e ddaw ’r dyddiae ’sef pan ddycer y Priawt ymaith y arnynt: yno yr vmprydiant yn y dyðiae hyny.

36Ac ef o ddyuot barabol wrthynt, Ny ddyd nep lain o wisc newydd mewn hen ddilledyn: can ys yno y newydd ei rhwyg, a’r llain o’r vn newyd ny chyssona a’r hen.

37Hefyt ny thywallt nep ’win newyð mywn hen lestri: can ys yno y dryllia ’r gwin newydd y llestri, ac y cerdd yntef allan, ac y col’ir y llestrir.

38Eithyr gwin newydd vydd reit ei dywallt mewn llestri newyddion: yno illdau a gedwir.

39Hefyd nyd oes neb a yf ’win hen, yn y van a ddeisyf vn newydd: can ys dywait ef. Gwell yw’r hen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help