Ruueinieit 14 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xiiij.Ny ddyleit diystyru y gwan. Ny ddyly neb rwystro cydwybot arall, Anyd cyunal o bob vn y gylydd mewn cariat perfaith a’ ffydd.

1YR vn ys ydd wan o ffydd, derbyniwch atoch, ac nyd i ymrysonion dadleuae.

2Vn a gred y gall ef vwyta pop peth: ac vn arall, rhwn ’sy wan ei ffydd, a vwyty lyseuae.

3Na thremyget hwn ’sy yn bwyta yr hwn nyd yw yn bwyta: ac na varnet yr vn ny vwyty, yr vn a vwyty. Can ys Duw y derbiniawð ef.

4Pwy yw ti yr hwn a verny yn euoc was gvvr arall? Y mae ef yn sefyll: nei yn cwympo yw arglwydd y hun: ac ef a gynhelir: can ys dichon Duw beri iddo sefyll.

5Ryw vn a varn bot dydd uchlaw dydd, ac vn arall a varu bop dydd yn o’gyfuvvch: bit pop vn yn gwbl ddilys yn ei veddwl.

6Yr hwn a ystyria ddydd, ei hystyria ir Arglwydd: a’r hwn nyd ystyr ddydd, nyd ystyr ir Arglwydd: yr hwn a vwyty, a vwyty ir Arglwydd: can y vot yn diolvvch y Dduw: a’r hwn ny vwyty, ny vwyty ir Arglwyð, ac a ddiolch y Dduw.

7Can nad byw yr vn o hanom yddo ehun, ac nyd marw yr vn yddo y hun.

8Can ys ai byw vyddom, byw vyddom ir Arglwydd: ai meirw vyddom, meirw vyddom ir Arglwydd: pa vn bynac gan hyny a wnelom ai byw ai marw, yr Arglwydd a’n pieu.

9Can ys er mwyn hyn y’bu varw Christ, ac yr adcyvodes, ac y bu vyw drachefn, val y byddei Arglwydd ar veirw a’ byw.

10A’ phaam y berny di ar dy vrawt? neu paam y tremygy di dy vrawt? can ys ymddangoswn oll geyr bron brawdle Christ.

11O bleit scrinedic yw, Ys byw vi medd yr Arglwyð, a’ phob glin a ymestwng i mi, a’ phob tavot a gyffessa i Dduw.

12Velly ynte pop vn o hanom a rydd gyfrif am dano y hun y Dduw.

13Na bo i ni gan hyny varnu pawp ar e gylydd mwyach: anyd bot yn hytrach i chwi varnu yn‐cylch hyn, na ðoto nep yw vrawt achos tramcwyð, nei gwymp.

14Mi wn, ac yn mae yn ddilys genyf trwy’r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o hano y hunan: anyd ir vn ’sy yn tybieit vot dim yn aflan, yddaw ef y mae yn aflan.

15Eithyr a’s dy vrawt a dristaa o bleit y bwyt, nyt wyt yr owhon yn rhodio erwydd cariat perffeith: na choll ef ath vwyt, yr hwn y bu varw Christ drosto

16Na pherwch ’oganu eich braint.

17Can nad yw teyrnas Duw na bwyt, na diot, anyd cyfiawnder, a’ thangneddyf, a’ gorvoledd yn yr Yspryt glan.

18Can ys pwy pynac yn yr ei hynn a wasanaetha Christ, ’sy gymradwy gan Dduw, a chanmoladwy gan ddynion.

19Velly dylynwn ni y petheu ’sydd o bleit tangneðyf, a’r petheu ’sy y ni y adeilat y gylydd.

20Na ddinistr waith Duw er mwyn bwyt: diau yvv bot pop peth yn yn ’lan: eithyr drwc yvv ir dyn a vwyty drwy drancwydd.

21Da yvv na vwytaer cic, ac nad yfer gwin, na dim, drwy ’r hyn y tramcwydda dy vrawt, ai y rhwystrir, ai y gwanheir.

22A oes ffydd genyti? bid hi gyd a thi tyhun geyr bron Duw: gwyn y vyd yr vn ny’s barn y hunan yn yr hyn y mae ef yn ymarddel.

23Can ys yr vn a betrusa, a’s bwyty, y mae yn varnedic, can nad yw ef yn bvvyta o ffydd: a’ pha beth bynac, nyd yw o ffyð, pechat yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help