1APhan y agorassey ef y seythfed sel, yrydoedd gostec yny nef amgylch haner awr.
2Ac mi weleis y seith Angel, yr rein oyddent yn sefyll gair bron Dyw, a’ seith trwmpet yroedd yddynt.
3Yno Angel arall y ddoyth ac y safoedd gair bron yr allor, a senser aur gantho, a’ llawer o arogley y rroed yddo ef, y offrymy a gweðie yr oll Seint, ar yr allor aur, yr hwn ydyw gair bron yr eisteddle.
4A mwg yr erogley ynghyd a gweddie yr Saint, y ddrychafysant gair bron Dyw, o law yr Angel.
5Ar angel y gymerth y senser, ac y llanwoedd hi a’ than or allor, ac y bwroedd yr ddayar, ac yroydd lleise, a thraney, a’ mellt, a’ chrynfa’r ddayar.
6Yno y seith Angel, y rrein oeðent ar seith trwmpet ganthynt, y wneythont y hun yn barod y gany’r trwmpedey.
7Ar Angel cynta y ganoedd y trwmpet, ac yr ydoedd ceseir a’ than, gwedy cymysgu, a gwaed ac hwy y vwrwyd yr ddayar, a’ thrayan y coed y losgwyd, ar holl gwellt glas y losgwyd.
8Ar eil Angel y ganoedd y trwmpet, a’ bwrw y y wneithpwyd yr mor, mal be bei mynydd mawr yn llosgi a than, a thrayan y mor aeth yn waed.
9A’ thrayan y creadiried, a’r oyddynt y vyw yny mor, y vyont veyrw a thrayan y llonge y ddinystrwyd.
10Ar trydeð Angel y ganoedd y trwmpet, a seren vawr y syrthioedd or nef, yn llosgi mal toris, ac ef y syrthioedd y drayan yr afonydd, ac y ffynhoney y dyfroedd.
11Ac enw’r seren a elwir wermwd: am hyny trydedd ran y dyfredd aethant yn wermod, a llawer o wyr y vyont veirw, o vveith y dyfredd hynny, can ys y gwneythur hwynt yn chwerwon.
12Ar pedwerydd Angel y ganoedd y trwmpet, a tharo y wneythpwyd trayan yr hayl, a’ thrayan y lleyad, a’ thrayan y ser, nes towylly y trayan hwynt: a’ tharo y wneythpwyd y dydd, mal na alley y thrayan hi goleyo. ac yn yr vn modd y nos.
13Ac mi edrycheis, ac y glyweis Angel yn hedfan trwy ganol y nef, dan ðwedyd a lleis ywchel, Gwae, gwae, gwae y ddeilied y ddayar, rrac lleisiey ys yn ol y trwmpedey y tri Angel, y rrein oyddent etto y gany‐trwmpede.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.