1 CAraf yr Arglwydd, can yddaw erglywed vy lleferydd yn vy-dyðieu.
3[Pan] im cylchynent magleu angeu, ac im ceffynt govidieu y bedd: gaffwn ing a’ thrymder,
4Yno y galwn at Enw yr Arglwyð,, atolwc yt’, Arglwydd gwared vy enait.
5Trugarawc yw’r Arglwydd a’chyfiawn, a’ ein Dew ’syd yn llawn tosturi.
6Ys caidw yr Arglwydd y rei seml: bum mewn advyd, ac ef am diangawdd.
7Ymchwel â vy eneit, ith ’orffwysfa: can ys yr Arglwyð a vu dda wrthyt,
8O bleit yti wared vy eneit rhac angae, vy llygait rac daigrae, a’m traet rac cwympo.
9Rodiaf rhac bron yr Arglwydd, yn-tir y bywion.
10Credais, ac am hyny y llavarwn: can ys im cystuðuddiwyt yn ddirvawr.
11Mi ddywedwn yn vy ffrwst, Pop dyn ’sy gelwyddawc.
12Pa beth a roddaf ir Arglwydd, am ei oll ddonieu y-mi?
13Phial iechyt a gymeraf, ac ar Enw yr Arglwydd y galwaf.
14Vy eddunedae y dalaf ir Arglwydd, yr owrhon yn-gwydd ei oll popul.
15Gwerthvawr yn-golwc yr Arglwydd angae y Sainct ef.
16Wely Arglwydd: can ys dy was wyf, dy was ytwyf. a’ map dy wasanaethwraic: atdodeist vy rrwymeu.
17 Aberthaf yty aberth moliant, a’ galwaf Enw yr Arglwydd.
18Vy eddunedae y dalaf ir Arglwydd, yr owrhon yn-gwydd ei oll popul,
19Yn neuaddae tuy yr Arglwyð, ith pervedd di Caerusalem. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.