1GWedy ychydic ddyddiae, ef aeth y mewn i Capernaum dragefyn, ac a glypwyt y vot ef yn tuy.
2Ac yn y man, yr ymgasclent llawer ygyt yd na anen mwyach, nac yn y lloedd wrth y drws: ac ef a precethawdd y gair yddwynt.
3Yno y daeth attaw ’r ei yn dwyn vn claf o’r parlys, a ddygit y gan petwar.
4A’ phryt na allent ddyvot yn nes ataw gan y dorf, didoi y to a wnaethāt lle ydd oedd ef: a’ gwedy yddwynt ei gloddio trwyddaw, y gellyngesont y lawr vvrth raffe y glwth yn yr hwn y gorweddei ’r dyn a’r parlys arnaw.
5A’ phan weles yr Iesu y ffydd wy, y dyvot wrth y claf o’r parlys, ha Vap, myddeuwyt yty dy pechotae.
6Ac ydd oedd yr ei o’r Gwyr‐llen yn eistedd yno, ac yn ymresymy yn ei calonae,
7Paam y dywait hwn gyfryw gabl? pwy a ddygon vaddae pechotae any Duw y hun?
8Ac yn ebrwydd pan wybu ’r Iesu yn ei yspryt, yddwynt veddwl val hyn ynthyn y unain, y dyvot wrthynt, Pa ’r a ymrysymy ydd ych ar y pethae hyn yn eich calonae?
9Pa vn hawsaf ai dywedyt wrth y claf o’r parlys, Maðeuwyt yty dy pechote? ai dywedyt, Cyvot, a’ chymer ymaith dy lwth a’ rhodia?
10Ac val y gwypoch, vot i vap y dyn awturtot yn y ðaiar i vaðae pechotae (eb yr ef wrth y claf o’r parlys)
11Wrthyt y dywedaf, cyfot, a’ chymer ymaith dy ’lwth, a’ thynn ffwrð ith duy dy vn.
12Ac yn y man y cyfodes, ac y cymerth ei ’lwth ymaith, ac aeth allan yn y gwydd wy oll, yn y sannawdd a’r bawp, a’ gogoneðy Duw, gā dywedyt, Er ioed ny welsam ni cyfryw beth.
13¶ Yno ydd aeth ef drachefyn parth a’r mor, a’r oll popul a dynnawdd ataw, ac ef a ei dyscawdd hvvy.
14Ac val ydd aeth yr Iesu heibio, ef a’ welawð Levi vap Alphaeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddyvot wrthaw, dylyd vi. Ac ef a godes, ac ei dylynawdd ef.
15Ac e ddarvu a’r Iesu yn eistedd i vwyta yn y duy ef, Publicanieit lawer, a’ phechaturieit a eisteddesont a gyd a’r Iesu, a’ ei ddiscipulon: can ys yr oeð llawer ac yn y ðylyn ef.
16A’ phan welawð y Gwyr‐llen a’r Pharisaieit, y dywedesont wrth ei ddiscipulon ef, Paam yw iddaw vwyta ac yfet y gyd a Publicanot a’ Phecaturieit?
17A’ phan ey clypu ’r Iesu ef a ddyvot wrthynt, Nid rait ir ei iach wrth y meddic, amyn i’r clefion. Ny daethy mi y alw ’r ei cyfion, amyn y pechaturieit i edifeirwch.
18A’ discipulō Ioan a’r Pharisaieit y ymprydynt, ac a ddaethant ac a ddywedesont wrthaw, Paam yr vmpridia discipulō Ioan ar ei y Pharisaieit ath rei di eb vmprydio?
19A’r Iesu a ddyvot wrthynt, A eill plant yr ystafell‐briodas vmpridiaw, tra vo’r Priawt cyd a hwy? tra vo’r Priawt y canthwynt, ny’s gallant vmprydiaw.
20Ac ys daw’r dyðiae pan ðycer y Priawt y canthynt, ac yno ydd vmprydiant yn y dyddiae hyny.
21Hefyt ny wnia nep lain o vrethyn newydd mewn gwisc hen: ac anyd ef y llain newydd a dyn ymaith y cyflawnder y gan yr hen, a gwaeth vydd y rhwygiat.
22Ac ny ddyd nep win newydd mewn llestri hen: ac any d e y gwin newydd a ddryllia ’r llestri, a’r gwin a gerdd allan, a’r llestri a gollir: eithyr gwin newydd a ddodir mewn llestri newyddion.
23Ac e ddarvu ac ef yn myned trwy ’r yd ar y dydd Sabbath, vot ei ddiscipulon wrth ymddaith, yn dechrae tyny ’r tywys.
24A’r Pharisaieit a ddywedesont wrthaw, Nycha, paam y gwnant ar y dydd Sabbath, yr hyn nyd cyfroithlon?
25Ac ef a ðyvot wrthynt, A ny ddarllenesoch er ioed pa beth awnaeth Dauid, pan oedd arno eisie, a’ newyn, efe, a’r ei oedd gyd ac ef?
26Po’dd yr aeth ef i duy Dduw yn‐dyddiae Abiathar yr Archoffeiriat, ac y bwytaodd y bara dangos, yr ei nyd cyfreithlon ei bwyta n’amyn ir Offeiriait yn vnic, ac ei rhoes hefyd ir ei oedd gyd ac ef?
27Ac ef a ðyvot wrthwynt, Y Sabbath a wnaed er mvvyn dyn, ac nyd dyn er mvvyn y Sabbath.
28Erwydd paam Map y dyn ’sy Arglwydd ac ar y Sabbath.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.