1AC ef y ddangosoedd y mi afon pur o dwr y bowyd yn dysclaero mal y crystal: yn dyfod allan o eisteddle Dyw, a’r Oen.
2Ynghanol y heol hi ac o ddwy ochor yr afon, yr ydoedd pren y bowyd, yr hwn oedd yn dwyn doyddec rriw ffrwythey ac y rroeð ffrwyth pob mis, a’ deil y pren a vvasanaethei y iachay y nasioney.
3Ac ny vydd dim rrec mwy, ond eisteddle Dyw ar Oen y bydd yndi, ae wasanaethdynion y wasnaethant arno ef.
4Ac hwy y welant y weyneb ef, ae Enw ef y vyð yny talceni hwynt.
5Ac ny vydd yno dim nos mvvy, ac nyd rreid yddynt dim canwyll, na goleyad yr haul: can ys yr Arglwydd Ddyw ysydd yn rroi yðynt goleyni, ac hwy y deirnasant yn dragywydd.
6Ac ef y ddwad wrthyfi, Y geiriey hyn ydynt ffyddlawn a’ chywir, ar Arglwydd Ddyw y proffwydi sanctaidd y ddanfonoedd y Angel y ddangos yddy wasnaethwyr y pethey ysydd reid y gyflewni ar vrys.
7Syna, yr wyf yn dyfod ar vrys, Bendigedic yw’r vn y gatwo geiriey proffedolaeth y Llyfr yma.
8Ac mi wyf Ioan, yr hwn y weleis ac y glyweis y pethey hyn; a’ phan ddarfoedd ymi y clywed ae gweled, mi syrthies y lawr y addoli gair bron traed yr Angel, yr hwn y ddangosoedd ymi y pethey hyn.
9Ac ef y ddwad wrthyfi, Gwyl na vvnelych: cans cydwasnaethwr yr wyfi a thi, ath vrodyr y Proffwydi, ar rrei ydynt yn cadw geiriey y Llyfr hwn: addola Ddyw.
10Ac ef y ddwad wrthyfi, Na sela geirey pryffodolaeth y Llyfr hwn: can ys y mae’r amser yn agos.
11Yr vn ysydd anghyfiawn, bid anghyfiawn eto: ar vn y sydd vudr, bid vudr etto: ar vn ysydd cyfiawn bid cyfiawn etto: ar vn ysydd santeið, bid santeidd etto.
12A’ syna yrwyf yn dyfod ar vrys, am gobrwy ysydd gyd a mi y rroddi y bob duyn yn ol y vutho y weithredoedd.
13Mi wyf α ac ω, y dechreyad ar diwedd, y cyntaf ac dywethaf.
14Bendigedic yvv y rrei, y wnelo y’orchmyney ef, mal y gallo y cyfiawnder hwy vod ymhren y bowyd, ac y gallont ðyfod y mewn trwyr pyrth yr dinas.
15Can ys or ty allan y bydd cwn, ar cyfareddwyr a’ phytteinwyr, a llyaswyr a’ delw‐addolwyr, a phob vn y garo ney y wnelo celwydd.
16Myvi Iesu y ddanvones vu Angel, y dystolaethu y chwi y pethey hyn yn yr eglwysi: mi wyf gwreiddyn a’ chenedlaeth Ddavydd, ar seren vore eglur.
17Ar ysbrud ar priodasverch ydynt yn dwedyd, Dabre. A’r vn y wrandawo, dweded, Dabre: A’r vn ysyð sychedic, doed: a’r vn y vyno, cymered dwr y bowyd, yn rrydd.
18Can ys yr wyf yn dangos bob vn y wrandawo geiriey pryffodolaeth y Llyfr hwn, o dyd vn duyn ddim at y pethey hyn; Dyw y ddyd atto ef y plae, escrifenedic yny Llyfr hwn.
19Ac o thyn vn duyn ymaith ddim o ’eiriey’r Llyfr y proffedolaeth hon, Dyw y gymer ymaith yrran allan o lyfr y bowyd, ac allan or dinas santeidd, ac oddiwrth y pethey y escrifenir yn y Llyfr hwn.
20Yr vn y sydd yn tystolaethu y pethey hyn, ysyð yn dwedyd, Yn siccir, yrwyf yn dyfod ar vrys, Amen. Velly dabre, Arglwydd Iesu.
21Rrad eyn hArglwyð Iesu Grist y vo gyd a chwi oll, Amen.
FINIS.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.