Ioan 8 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. viij.Christ yn gwaredu hon a ddaliesit yn tori priodas. Ef e yw goleuni ’r byt. Ef yn dangos o b’le y daeth, baam, ac i b’le ydd a. Parei ’sy gaithion, a’ pha ’r ei ’sy ryddion. Am yr ei breiniol ar ei gwasaidd, a’ ei gwobr hwy. Ef yn gofyn gwaethaf ei ’elynion. Ac wrth vot ei ersid, yn enciliaw ymaith.

1A’R Iesu aeth ir mynyth yr oliwydd,

2a’r borae ðyð e ddaeth drachefyn ir Tēpl, a’r oll popl a ðaeth at aw, ac ef a eisteddawdd y lawr, ac y dyscawdd hwy.

3Yno y duc y Gwyr‐llen a’r Pharisaieit wreic ataw, hon a ddaliesit yn tori priodas, ac y dodesont hi yn y cenol,

4ac a ðywesont wrthaw, Athro, y wreic hon a ddaliwyt yn tori priodas, ys ar y weithred.

5A’ Moysen yn y Ddeddyf a’ orchymynawdd i ni, bot llapyddiaw y cyfryw ’rei: a’ pha beth a ddywedy di?

6A’ hyn a ddywedent y’w demto ef, val y cahent devnydd, y gyhuðaw ef, A’r Iesu a grymoð i lawr, ac ai vys a scrivenawð ar y ddaiar.

7A’ thra oeddent yn parau ymofyn ac ef, yr ymderchawð ef, ac y dyvawt wrthynt, Yr vn o hanoch ys id yn ddipechot, tav‐led y maen cyntaf atei.

8A’ thrachefyn y crymawð ef, ac ydd escrivenawdd ar y ðaiar.

9A’ phan glywsant hyny, can ei cydwybot yhunain yn ei cyhaðaw, yr aethant allan bop vn ac vn, gan ddechrae o’r ei hynaf yd yr ei diwethaf: a’r Iesu a adawyt yn vnic, a’r wreic yn sefyll yn y cenol.

10Gwedy i’r Iesu ymdderchafel, ac eb iddo weled nep, namyn y wreic, ef a dyvawt wrthei, Ha wreic, p’le mae dy gyhuddwyr? a varnawð nep di yn euawc?

11Hithe a ddyvawt, Na ddo nep, Arglwydd. A’r Iesu a ddyvawt, Ac nyth varna vine di yn euawc: cerða ac na phecha mwyach.

12Yno drachefn y dyvawd yr Iesu wrthynt, can ddywedyt, Mivi yw goleuni y byt: yr vn a’m dilyno vi, ny rodia yn y tywyllwch, eithr e gaiff ’oleuni y bywyt.

13Yno y dywedent y Pharisaieit wrthaw, Ti a destoliaethy o hanat ty vn: nyd gwir yw dy destoliaeth di.

14Yr Iesu a atepawdd ac a ddyvawt wrthynt, Cy testolaethwyf o hano vyhun, y mae vy‐testoliaeth i yn gywir; can ys‐gwn o b’le y daethym ac y b’le ydd af: a’ chwi ny wyddoch o b’le y daethym’ nac y b’le ydd af.

15Chwichchvvi a vernwch erwydd y cnawd: mivi ny varnaf nebun.

16Ac a’s mi a varn, y varn veuvi ysy gywir: can nad wyf yn vnic, eithyr mi a’r Tat, yr vn a’m danvonawdd.

17A’ hefyt e scrivenir yn y Ddeddyf yddoch, bot testolaeth dau ddynion yn gywir.

18Mi yw ’r vn a destolaethaf am dana vy vn, a’r Tat a’m danvonawdd i, a destiolaetha a’m danaf i.

19Yno y dywedesont wrthaw, P’le y mae dy Dat? Atepawdd yr Iesu, Ac ny ’m adwaenoch vi, na’m Tat. Pe’s adwenesech vi, ys adwawaenesoch vy‐Tat hefyt.

20Y geiriae hyn a lavarawdd yr Iesu yn y tresor va, ac ef yn ei dyscu yn y Templ, ac nyd ymavlodd neb yndo: can na ddaethei eto y awr ef.

21Yno y dyvawd yr Iesu drachefyn wrthynt, Mivi af ymaith, a’ chvvi a’m caisiwch, ac a vyddwch veirw yn eich pechodae. Lle ydd vi, ny ellw‐chwi ddyvot.

22Yno y dywedent yr Iuddaion, A ladd ef y hun: can iddo ddywedyt, Lle ydd a vi, ny ellw‐chwi ddyvot?

23Yno y dyvawt ef wrthynt. Chwichvvi ’sy o ddisod: mivi ’sy o ddvchod: chwichvvi ’sy o’r byt hwn: mivi nyd yw o’r byt hwn.

24Am hynny y dywedais wrthych, Y byddwch veirw yn eich pechotae: can ys a ddieithyr ywch gredu, mai mivi yw ef, chvvi vyddwch veirw yn eich pechotae.

25Yno y dywedesont vvy wrthaw, Pwy yw ti? A’r Iesu a ddyvawt wrthynt, Sef y peth a ddywedeis wrthych o’r dechreuat.

26Y mae genyf lawer o bethe y’w dywedyt, ac y’vv barnu am danoch: eithyr yr vn a’m danvonawð i, ’sy gywir, a’r pethae a glywais ganthaw, yr ei hyn a adroddaf i’r byt.

27Ny ddyellesont vvy mai am y Tat y llavarei ef wrthynt,

28Yno y dyvawd yr Iesu wrthynt, Gwedy y derchavoch Vap y dyn, yno y gwybyddoch mai mivi yw ef, ac nad wyf’ yn gwneuthur dim o hano vy vn, eithyr mal im dyscawdd y Tat, velly ydd wyf yn llavaru y pethe hyn.

29Can ys yr vn am danvonawdd i, ysy ’gyd a mi: ny adawdd y Tat vi yn vnic, can ys i mi wneuthur bop amser y pethae sy dda gantho ef.

30Ac ef yn llavaru y pethae hyn, llaweroedd a gredesont yntaw.

31Yno y dyvawt yr Iesu wrth yr Iuddaeon yr ei a credesont ynthaw, A’s chwi a arhoswch yn y gair meuvi, yn wir discipulon i mi ytych,

32ac a wybyddwch y gwirionedd, a’r gwiriuoedd ach ryddha.

33Atepesont y ddaw, Had Abraham ydym ni, ac ny wasanaethesam ni neb erioed: paam y dywedy di, Eich gwneir chvvi yn vvyr rhyddion?

34Atepawdd yr Iesu yðynt Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwi, Mai pwy pynac a wna bechot, ys y was i’r pechat.

35A’r gwas nyd aros yn y tuy yn dragyvyth: and y Map a aros yn tragyvyth.

36A’s y Map gā hyny ach rhyðha chwi, rhyddion yn ddilys vyddwch.

37Mi wn mai had Abraham ydych, eithyr yð ych yn caisiaw vy lladd i, can nad oes lle ir gair meuvi ynochwi.

38Mivi a lavaraf yr hyn a welais y gyd a’m tat i: a’ chwitheu a wnewch yr hyn a welsoch y gyd a’ch tat chwi.

39Atepesont a’ dywedesont wrthaw, Ein tat ni yw Abraham. Yr Iesu a ddyvawt wrthynt, Pe plant i Abraham vyddech, chvvi gwnaech weithredoedd Abraham.

40Ac ynawr y ceisiwch vy llað i, gwr a ddyvawt i chwi ’r gwirionedd, yr hyn a glywais y gan Dduw: hyn ny wnaeth Abrahā.

41Chwi ’sy yn gwneuthu’r gweithredoedd ych tat chwi. Yno y dywedesont wrthaw, Ny ’anet ni o ’odnep: y ni y mae vn tat, ’sef Duw.

42Am hyny y dyvawt yr Iesu wrthynt, Pe Duw vyddei eich Tat, yno y carech vi: can ys mi a ddeilliais, ac a ddeuthym o ywrth Dduw, ac ny’s daethym o hano vyhun, eithyr ef a’m danvonawdd i.

43Paam nad ych yn dyally yr y madrodd hyn meuvi? sef am na ellwch aros clywet y geiriae meuvi.

44Chwichvvi y sydd o’ch tad y diavol, a’ chwantae eich tad a wnewch. Ef e vu laddwr dyn or dechreuat, ac nyd arosawdd yn y gwirionedd: can nad oes gwirionedd yndaw. Pa bryd bynac y dywait ef cellwydd o hanaw ehun y dyweit: can ys celwyddoc yw, a ’r tad iddo.

45A’ Chvvithe can i mi ddywedyt y gwirionedd ywch’, ny ’m credwch.

Yr Euangel y pempet Sul yn y Grawys.

46¶ Pwy ’n hanoch a hona pechat arnaf? ac a’s ytwyf yn dywedyt y gwir, pa am na chredwch vi?

47Y nep sydd o Dduw, a wrendy ’airiae Duw: am hynn ny wrandewch chwi, can nad yw‐chwi o Dduw.

48Yno yr atepawdd yr Iuddaeon ac y dywedent, wrtho, Pa nad da y dywedwn mae Samareit wyt, a’ bot cythraul genyt?

49yr Iesu a atepawdd, Nid oes cythrael cenyf, eithyr ydd wyf yn anrydeðu vy‐tad, a’ chwi am dianrydeðesoch i.

50Ac nid wyfi yn ceisiaw vygogoniant vyhun: y mae a ei cais ac a varn.

51Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, a’s caidw nep vy‐gair i, ny wyl ef byth angae.

52Yno y dyvod yr Iuddeon wrthaw, Yr awrhon y gwyddam vot cythrael genyt. Abraham a vu varw, a’r Prophwyti, a’ thi a ddywedy. A chaidw vn vy‐gair i, ny phrawf ef vyth angae.

53A wyti vwy na’n tad Abrahā, yr hwn a vu varw? a’r Prophwyti a vuant vairw: pwy ddwyt yn dy wneythyr dy hunan?

54Yr Iesu a atepawdd, A’s mi a’m gogoneddaf vyhun, vy‐gogoniant nyd yw ddim: vy‐Tad yw’r hwnn am gogonedda vi, yr hwn a ddywedw chwi vot yn Dduw y chwy.

55Ac nyd adnabuoch chwi ef: anid mi y adwaen ef, ac a dywedwn nyd adwaenwn, mi vyddwn gelwyddoc val chwithae: eithyr mi y adwaen ef, ac wyf yn cadw ei ’air.

56Abraham eich tad a vu lawen‐iawn ganthaw weled vy‐dydd i, ac ef ei gweles, ac a lawenechawdd.

57Yno y dyvot yr Iuddaeon wrthaw. Nyd wyt eto ddec blwydd a da’ugain oed, ac a weles ti Abraham?

58Yr Iesu a ddyvot wrthynt, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, cyn bot Abraham ydd yw vi.

59Yno y cymeresont wy geric, y’w davly ataw, a’r Iesu a ymguddiawdd, ac aeth allan o’r Templ.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help