1NAc ymddigia er yr andewiolion, ac na wynvyda wrth yr ei y wnant ðrwc.
2Can ys yn ebrwydd y torir hwy, ir llawr mal glaswellt, ac y wywant mal y gwyrdd-lys.
3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a’ gwna ða: tric yn y tir, ac ith porthir yn ddiau.
4 Ymddigrifá yn yr Arglwydd, ac ef a rydd yty airch dy galon.
5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd: ac ymddiriet ynthaw, ac ef gorphen.
6Ef a ddwc allan dy gyfiawnder mal y golauni, ath varn val haner dydd.
7Dysgwyl-yn-ddystaw wrth yr Arglwydd ac ymddiriet ynthaw: nac ymddigia wrth hwn a lwyddo gantho ei ffordd, na’c wrth y gwr a wnel ei vwriadeu.
8Paid a digoveint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymofidia chwaith y ddrugu.
9Can ys torir ymaith y drygddynion, a’r ei a ddysgwiliant wrth yr Arglwydd, wyntwy etiveddant y tir.
10Am hyny etwo ychydigyn, ac ny yr andewiol, ac edrychy ar lle bu ef, ac nyd o hanaw.
11Eithyr yr ei gostyngedic a veddant y ddaiar, ac ei diddenir gan liaws tangneddyf.
12Yr andewiol a amcana yn erbyn y cyfion, ac a yscyrnyga ddanedd arno.
13[A’]r Arglwydd y gwarewor ef, can ys gwelawdd vot ei ddydd ar ddyvot.
14Yr andewiolion y dynesont ei cleddyf, ac y enylesont ei bwa, y vwrw y lawr y tlawt a’r angenawc, y ladd yr ei vnionffordd.
15[Eithyr] ei cleddyf â yn ei calon e hunain, a’ ei bwae a ddryllir.
16Ys gwell ychydic ir cyfion, na mawr-olud yr andewiolion cedyrn.
17Can ys breichiae yr andewiolion y ðryllir: a’r Arglwyð a gynnal yr ei cyfion
18Yr Arglwydd a edwyn ddyddiae yr ei perfeith, a’ ei etiveddiaeth wy vydd yn dragyvyth.
19Ny’s gwradwyddir hwy yn yr amser pericul, ac yn amser newyn y cahan ddigon.
20Can ys yr andewiolion y gollir, a’ gelynion yr Arglwyð a ddivéir val braster wýn: y gyda’r mwc y diflanāt
21Yr andewiol a echwyna ac ny thal adref: a’r cyfion ys y drugarawc ac a ddyry.
22Can ys yr ei bendigedic gan Ddew, a etiveddant y tir, ar ei melltigedic ganthaw a dorir ymaith.
23Gan yr Arglwydd y fforddir llwybreu gwr: can ys y ffordd ef ys y dda ganthaw.
24 Cyd bo yddo syrthio, ny vwrir e ymaith: can ys ir Arglwydd y gynnal ei law.
25Mi vum ieuanc ac yð wyf yn hen: ac ny weleis y cyfion wedy ei ady, na ei had yn cardota vara.
26 Pop amser y mae yn drugarawc ac yn rhoi benthic, a’ ei had y vendith.
27 Cilia ywrth ðrwc, a’ gwna dda, a’ chyfanedda yn dragyvyth.
28Can ys yr Arglwydd a gar varn, ac ny ys gedy ei Sainct: cedwir hwy yn dragywydd, a’ had yr andewiolion y dorir ymaith.
29Yr ei cyfion a etiveddant y tir, ac a breswiliant arnaw yn tragywyth.
30Genae y cyfion a venaic ’ddoethinep, a’ei davawt y gymmwyll am varn.
31[Can ys] Deddyf ei Ddew ’sy yn ei galon,i draet ny lithrant.
32Yr andewiol a ddysgwyl y cyfion, ac a gais ei divetha.
33Ny ysgad yr Arglwyð ef yn ei law, ac ny ad ef yn-auoc pan ei barner.
34 Dysgwyl wrth yr Arglwydd, a’ chadw ei ffordd, ac ef ath dderchaif, val etiveddych y tir, pan ddyvether yr andewiolion, y gweli.
35Gwelais yr Andewiol yn gadarn, ac yn vrigawc val y lawryf gwyrdd.
36Er hyny ef aeth ymaith, a’nachaf nyd oedd mwy o hano, a’ mi ei ceisiais, ef ny cheffit.
37 Edrych ar y dywiol a’ gwyl yr vnion, can ys dywedd y gwr hwnw tangneddyf.
38Can ys y trawsion y ddestruwir y gyd, dywedd yr andewiolion a gyfergollir.
39Ac iechydwreith yr ei cyfion y gan yr Arglwyð: é vydd y nerth wy yn amser trallot.
40Can ys yr Arglwyð y cymporth hwy, ac ei gwared, ef y gwared wy rac yr andewiolion, ac ei cadw hwy, can yðynt ymddiriet ynthaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.