1AC Iesu yn llawn o’r Yspryt glan, a ddadymchwelawdd y yvvrth Iorðanen, ac a dywysit y gan yr vn yspryt ir diffeithvvch,
2ac a vu yno ðau’gain diernot yn ei dempto y gan ddiavol, ac ny vwytaodd ef ddim yn y dyddiae hyny: eithyr gwedy y diweddy hwy, yn ol hyny y newynawdd ef.
3Yno y dyuot diavol wrthaw, A’s map Duw wyt, gorchymyn i’r maen hwn yn y wnaer yn vara.
4Ac Iesu atepodd iddo, gan ddywedyt, Scrivenwyt, Na bydd i ddyn vyw ar vara yn vnic, anyd ar pop gair Duw.
5Yno y cymerth diavol ef y vynydd i vynyth tra vchel, ac a ddangosawð iddaw oll deyrnasoeð byd, yn llai no mynut awr.
6Ac eb yr diavol wrthaw, Iti y rhof yr oll veddiant hyn, a’ gogoniant y teyrnasoedd hyny: can ys y mi ei roddwyt: ac i bwy bynac yr ewyllyswyf, mi ei rhoddaf.
7Ac velly a’s ti a’m addoly i, ys byddant oll y ti.
8A’r Iesu ei atepawdd, ac a ddyuot, Ymdyn y wrthyf Satan: can ys ’scriuenwyt, Addoly yr Arglwyð dy Dduw, ac efe yn vnic a wasanethi.
9Yno yr aeth ac ef y Gaerusalem, ac ei gesodes ar pinnacul y Templ, ac ys yganei wrthaw. A’s Map Duw wyt tavla dy hun i lawr o ddyna,
10can vot yn yscrivenedic, Y gorchymyn ef y’w Angelon oth pleit ti, ith gadw di:
11ac aei dwylo ith gyfodant, rac yty vn amser daro dy droet wrth garec.
12A’r Iesu a atepodd ac a ddyvot wrthaw, Ys dywetpwyt, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.
13A’ gwedy gorphen o’r diavol yr oll temptiat, yr ymadawodd ac ef dros amser.
14A’r Iesu a ddadymchwelawdd drwy nerth yr Yspryt i’r Galilaia: ac ef aeth son am danaw trwy ’r oll vro y amgylch.
15Can ys ef a ei dyscei yn y Synagogae wy, ac ef a anrydyðit gan bawp.
16Ac ef a ddaeth i Nazaret lle magesit ef, ac (yn ol ei ddevot) yr aeth i’r Synagog ar y dyð Sabbath, ac a godes yn ei sefyll i ddarllen.
17Yno y rhoed ataw lyver y Prophwyt Esaias: a’ gwedy iddo agori ’r llyver, y cafas e ’r man lle yr escrivenit,
18Yspryt yr Arglwydd, ys id arna vi, achos enneinawdd vi, val yr Evangelwn i’r tlodion: ef am anvones i, i iachau y briwedigion o galon, i precethu gellyngdawt i’r caithion, ac er adweledigaeth ir daillion, er maddae o hanof i ryddit yr ei ysic,
19ac er i mi precethu blwyddyn gymredic yr Arglwydd.
20Ac ef a gayawdd y llyver, ac ai rhoes drachefn at y gwenidawc, ac a eisteddawdd i lavvr: a’ llygait pavvb oll a’r oeddent, yn y Synagog a dremient arnaw ef.
21Yno y dechreawdd ef ddywedyt wrthynt, Heddyw y cyflawnwyt yr Scrythur hyn yn eich clustiae chvvi.
22Ac oll a ddugesont destoliaeth iddo, ac a ryveddesant am y gairiae rhadlavvn a ðaethesont o ei enae, ac a ddywetsōt, Anyd hwn yw map Ioseph?
23Yno y dyuot ef wrthynt, Dilys y dywedwch wrthyf y ddiereb hon, Y meðic, iacha dy hun: pa pethe pynac a glywsam ddarvot ei gwnaethy ’r yn‐Capernaum, gwna yma hefyt yn dy ’wlat dy hun.
24Ac ef a ddyuot, Yn wir y dywedaf y chwi, Nid cymradwy nebvn Prophwyt yn ei wlat ehun.
25Ac yn‐gwirioneð y dywedaf ywch ’llawer o wrageð‐gweddwn oedd yn‐dyddiae Elias yn yr Israel, pan gaywyd y nef dair blyneð a’ chwech mis, pan oedd newn mawr dros yr oll tir.
26Ac nid at yr vn o hanynt yd anvonwyt Elias, anyd i Sarepta dinas yn Sidon, at wraic weddw.
27Hefyd llawer gohangleifion oedd yn yr Israel yn amser Eliseus y Prophwyt: ac ny ’lanhawyt, yr vn o hanynt, dyeither Naaman y Syriat.
28Yno yr oll rei oedd yn y Synagog, pan glywsant hyny, a lanwit o ddigovaint,
29ac a godesont i vyny, ac y bwriesont ef y maes o’r dinas, a’ ei arwein yd ar vin bryn (ar yr hwn y daroeð adeiliat y dinas wy) y’w vwrw e i lawr bendro, mwnwgl.
30Ac yntef gan vyned trwy y cenol wy aeth ymaith.
31Ac a ddeuth y weret i Capernaum, dinas yn Galiaea, ac yno y dyscawdd ef hwy ar y dyddiae Sabbath.
32Ac aruthro a wnaethant gā y ddysceidaeth ef: can ys y ’air ef oedd gyd ac awdurdawt.
33Ac yr oedd yn y Synagog ddyn ac iddaw yspryt cythraelic aflan, yr hwn a lefawð a llef vchel,
34gan ddywedyt, Och beth ’sy i ni a wnelam a thi, tydi Iesu o Nazaret? a ddaethosti in colli ni? Mi wn pwy ’n wyt, ys ef Sanct y Duw.
35A’r Iesu a ei ceryddawdd, gan ddywedyt, Ys taw, a’ dos allan o hanaw. Yno ’r cythrael gan ei davlu ef yn y cenol vvy, aeth allan o hanaw, ac ny wnaeth ddim niwed yddaw.
36Ac e ddaeth ofyn arnynt oll, ac ymadroddynt wrth ey gylydd, gan ddywedyt, Pa beth yw hyn? can ys trwy awdurdot, a meddiant y gorchymyn ef yr ysprytion bydron, ac vvy ddant allan?
37Ac aeth son am danaw dros bop lle o’r amgylch‐wlat.
38Ac ef a gyuodes i vyny, ac o’r Synagog yd aeth y mywn y duy Simon. A’ chwegr Simon oeð a’ haint‐gwres mawr arnei, ac vvy archesōt iðaw drostei.
39Yno y safawdd ef vch i phen, ac e geryðawdd yr haint‐gwres, a’r haint y gadawdd hi: ac yn ebrwydd y cyfodes, a’i gweini hvvy a wnaeth hi.
40Ac wedy myned haul y ymochlyt, y savvl oll a’r oedd ganthynt gleifion o amryw haintiae, ei ducsont ataw, ac ef a ðodes ei ddwylo ar bop vn o hanaddynt, ac y iachaodd hwy.
41A’ chythraelieit hefyt a ddaeth allan o laweroedd, gan lefain a’ dywedyt, Canys Ti yw’r Christ y Map Duw: ac ef y ceryddawdd hwy, ac ny adawdd yddyn ðywedyt y gwyddent mai efe oedd y Christ.
42A’ phan oedd hi yn ddydd, yr aeth e oyno y ymddaith i le diffaith, a’r populoedd ai caisiawdd, ac a ddaethant ataw, ac y attaliesant ef rac myned ymaith y wrthynt.
43Ac yntef a ddyuot wrthynt, Diau vod yn ddir hefyd i mi precethy teyrnas Duw y ddinasoedd eraill: can ys i hyny im danvonwyt.
44Ac ef a precethawdd yn‐dinasoedd Galilaia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.