1YNo ar ben pedair blynedd ar ddec gvvedy, yr aethym y vyny drachefn i Caerusalem y gyd a Barnabas, ac a gymerais y gyd a mi Titus hefyt.
2Ac a escendais gan ddatymguðiat, ac a gyd esponiais ac wynt yr Euangel yr hon yddwyf yn ei phrecethu ym‐plith y Cenetloeð, eithr o’r nailltu gyd ar ei oedd yn bennaf, rrac mewn vn modd y rhedwn, neu y rhedeswn yn over:
3eithr na Thitus rhwn oedd gyd a myvi, cyd bei ef Groecwr, ny chympellwyt yw enwaedu
4er yr oll ffeils vroder a ymluscesont y mewn: yr ei a ymdroscwyddesent y mewn i graffu ar ein rhyðdit ni, ’sydd genym yn‐Christ Iesu, er yddynt ein dwyn i gaethiwet.
5Yr ei ny chynwysesam o ddarestyngedigeth enhyd awr, val y trigei gwirionedd yr yr Euangel yn safadwy y gyd a chwi.
6A’ chan yr ei a dybit eu bot yn vawr, ny ddysceis ddim (beth oedden wy gynt, ny’m dawr i: ny chymer Duw ansawd vn dyn) er hyny, yr ei pennaf ny chydesponiesant ddim a mivi.
7Eithyr yn‐gwrthynep, pan welesant ðarvot rhoi ato vi yr Euangel yr ei dienwaediat, val y rhoesit i Petr ar yr ei ’r Enwaediat:
8(can ys yr hwn oeð nerthoc drwy law Petr yn yr Apostoliaeth ar yr ei ’r Enwaediat, oedd hefyt yn nerthoc trwyddofine yn‐cyfor y Cenetloedd)
9a’ phan wybu Iaco, a’ Chephas, ac Ioan am y rat a roddwyt i mi, yr ei a gyfrifir eu bot yn golofnae, wy roesant i mi ac i Barnabas ddeau ddwylaw cymddeithas, val y byddei y ni precethu ir Cenetloedd, ac wynteu ir ei or Enwaediat,
10gan rybuddio yn vnic ar vod yni goffau ’r tlodion: yr hyn hefyt yr oeddwn yn astud yw wneuthur.
11A’ gwedy dyvot Petr i Antiocheia, mi y gwrthsefais ef yn ei wynep: can ys y vot ar vai.
12O bleit cyn dyvot ’rei ywrth Iaco, ef a vwytaei gyd a’r Cenetloedd: anyd gwedy y dyvot hwy, ef a enciliawdd ac ymhanodd yvvrthynt, can iddo ofni rac yr ei oeddent o’r Enwaediat.
13A’r Iuddaeon eraill cydffuantu ac ef a wnaethant, yd y n y ðucit Barnabas yw ffuant wy hefyt.
14Eithyr pan welais, nad oeddent yn troedio yn vnion at ’wirionedd yr Euāgel, y dywedais wrth Petr yn‐gwyð pawp oll, A’s tudi ac yn Iuddew wyt yn byw mal y Cenetloedd, ac nyd mal yr Iuddeon, paam y cympelly ni y Cenetloedd y vyw mal yr Iuddeon?
15Nyni y savvl ym Iuddeon wrth anian, ac nyd pechaturieit o’r Cenetloedd,
16a wyðam na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd y Ddeddyf, anyd gan ffydd Iesu Christ: ’sef nyni meddaf, a credesam yn Iesu Christ, mal in cyfiownheid y gan ffydd Iesu Christ, ac nyd gan weithrededd y Ddeddyf, o bleit gan weithrededd y Ddeddyf ny chyfiawnheir vn cnawt.
17Ac a’s wrth geisio cael ein cyfiawni trwy Christ, in ceffir ninheu yn pechaturieit, a ytyw Christ gan hyny yn wenidoc pechot? Ymbell oedd.
18Can ys a’s adeilaf drachefn y petheu a ðinistrais, ydd wyf yn gwneuthur vyhun yn droseddwr.
19Cā ys myvi trwy’r Ddeddyf vum varw ir Ddeddyf, ac val y bawn byw y Dduw,
20im crogwyt y gyd a Christ. Val hyn byw ytwyf eto, nyd myvi yr awrhon, eithr Christ ’sy vyw yno vi: ac am y byw ddwy ’r owrhon yn y cnawd byw ddwyf gan ffyð ym‐Map Duw, yr hwn a’m carawdd, ac ei rhoðes y hunan y trosof.
21Nyd wyf yn dirymio rrat Duw: o bleit a’s ywrth y Ddeddyf y mae cyfiawnder, yno y bu varw Christ eb achos.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.