Ruueinieit 8 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. viij.Dilysrwydd y ffyddlonieit, ac am ffrwyth yr Yspryt glan ynthynt hwy. Gwendit y Ddeddyf, a’ phwy ei cwplaodd. Ac iba beth. O ba ryw weð y dyly y ffyddlonieit vot. Frwyth yr Yspryt ynddynt hwy. Am ’obeith. Am ddioddefgarwch dan y groc. Am y cydgariat rhwng Duw a’ei blant. Am y racwyboddaeth ef.

1CAn hyny ynte nyd oes ddim gollvarnedigaeth ar yr ei ’sy yn Christ Iesu, nid amgen y sawl ny rodiant ar ol y cnawt, eithyr ar ol yr Yspryt.

2Can ys Deddyf Yspryt y bywyt rhvvn yvv yn‐Christ Iesu, a’m rhyðhaodd i rac deddyf pechot ac hon angeu.

3Can ys (hyn y ydoedd yn analluawc ir Ddeddyf, pan ytoedd hi yn egwan, o bleit y cnawt) Duw gan ddanvon ei Vap ehun yn‐cyffelypiaeth cnawt pechaturus, ac am bechot y coll varnawdd ef bechot, yn y cnawt,

4y n y chyflanwit cyfiawnder y Ddeddyf ynom, yr ei ny rodiwn erwydd y cnawd: amyn erwydd yr Yspryt.

5Can ys yr ei ynt erwydd y cnawd, am bethau ’r cnawd yr ymsynwyrant: anyd yr ei ’sy erwydd yr Yspryt, am betheu ’r Yspryt.

6Can ys synwyr y cnawt, angeu yvv: a’ synnwyr yr Yspryt, bywyt, a’ thangneddyf,

7achos synnwyr y cnawt ’sy elyniaeth yn erbyn Duw: can nad yw ddarostyngedic i Ddeddyf Duw: ac ny’s dychon vot chvvaith.

8Can hyny ysawl ynt yn y cnawt, ny allant ryngy boð Duw.

9Weithian chwychvvi nyd ydych yn y cnawd, anyd yn yr Yspryt: can vot Yspryt Duw yn trigo ynoch: ac a’s oes neb eb Yspryt Christ ganto nyd yw hwnvv yn yddo ef.

10Ac ad yw Christ ynoch, y mae’r corph gwedy marw, o bleit pechot: eithyr yr yspryt bywyt yvv er mwyn cyfiawnder.

11Ac a’s Yspryt hwn a gyfodawdd Iesu o veirw, ’sy yn trigo ynoch, ys ef hwn a gyfodawdd Christ o veirw, a’ vywoca hefyt eich cyrph marwol chvvi, can vot y Yspryt ef yn trigo ynoch.

Yr Epistol yr viij. Sul gwedy Trintot.

12Can hyny vroder, ydd ym yn ddledwyr nyd ir cnawd, y vyw erwydd y cnawd:

13can ys a’s byw vyddwch erwydd y cnawd, meirw vyddwch: eithyr a’s marwhewch ’weithredoeð y corph trwy ’r Yspryt, byw vyddwch.

14Can ys cynnuer ac a arwedder gan Yspryt Duw, yr ei hyn ’sy blant i Dduw.

15Can na dderbynesoch Yspryt caethiwet er ofn drachefyn; eithyr derbyniesoch Yspryt mabwysiad, trwy ’r hwn y llefwn Abba, Dat.

16Yr vnryw Yspryt a gyd testolaetha a ’n Yspryt ni, ein bot ni yn blant i Dduw.

17Ad ym ni yn blant, ydd ym ni hefyt yn etiueddion, ys etiveddion i Dduw, ac yn gyd etiueddion a’ Christ, ac a’s cyd ðyoðefwn ac ef, val ac ein cydogoneðir ac ef.

Yr Epistol ar y iiij. Sul gwedy Trintot.

18O bleit gadu yr wyf nad yw gofidiae yr amser yr awrhon, yn deilwng o’r gogoniant, a ddangosir i ni.

19Can ys awyddvryd y creatur ’sy yn dysgwyl pa bryd yd atcuddir meibion Duw.

20Can vot y creatur yn ðarestyngedic i wagedd, nyd oei vodd ehun, anyd o bleit yr hwn, a ei darestyngawð y dan ’obeith,

21can ys y creatur hefyt a ryddheir o gaethiwet llygrydigaeth i ryðit gogoniaut meibion Duw.

22Can ys gwydam vot pop creatur yn cydvcheneidio a ni, ac yn cydtravaelu‐yn ovidus yd yr amser hyn.

23Ac nyd yn vnic y creadur, and nineu hefyt y sawl a gawsam vlaenffrwyth yr Yspryt, sef yð ym ni yn vcheneidio ynom eyn hunain, yn dysgwyl y mab‐wysiad, nid amgen prynedigaeth ein corph.

24Can ys wrth ’obaith in iacheir: eithyr gobeith rhon a welir, nyd yw ’obaith: o bleit pa ’obeitho wna vn am y peth a wyl?

25Ac a’s gobeithiwn am yr hyn ny welwn, yð ym drwy ammynedd yn dysgwyl am dano.

26Ac yn gyffelyp y mae’r Yspryt yn canhorthwyaw eyn gwendit ni: can na wydddam pa beth a weddiwn mal dylyem: eithyr yr Yspryt yhun ’sy yn erchi drosom ac vcheneidieu anrtaethawl.

27Anyd yr hwn a chwilia ’r calonae, a wyr beth yw meddwl yr Yspryt: can ys mae ef erwydd evvyllys Duw yn erchi tros y Sainctæ.

28A’ gwyddom vot pop peth yn cydweithio ir hyn goreu, ir sawl a garant Dduw, sef ir ei a ’alwyt erwyð y pwrpos ef.

29Can ys yr ei y ragwybu ef, yr vnrei hefyt a rac luniawdd ef y vot yn vnffurf a delw y Vap ef, val y byddei yn gyntenid ym‐plith broder lawer.

30A’r sawl a raclunioð ef, yr ei hyny hefyd a alwoð ef, a’r ei a alwodd, reini hefyt a gyfiawnhaodd ef, a’r ei a gyfiawnhaodd ef, yr ei hyny hefyt a ’ogoneddawdd ef.

31Beth ynte a ddywedwn ni wrth y pethe hyn? A’s yw Duw ar ein tu, pwy all vot in herbyn?

32Yr hwn nyd arbedawdd ei briawt Vap, anyd y roðy ef drosom ni oll y amgeu, py wedd y gyd ac ef na ryð y ni bop peth hefyt?

33Pwy a ryð ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yvv r hvvn a gyfiawnha,

34pwy a ddamna? Christ yvv, yr hwn a vu varw, ie yn hytrach, yr vn a gyfodwyt drachefn, yr hwn hefyt ’sy ar ddeheulaw Duw, ysy hefyt yn yn erchy drosom.

35Pwy a’n gohana ni ywrth cariat Christ? ai gorthrymder nei gyfyngder, nei ymlid, nei newyn, neu noethi, nei pericul, nei gleddyf?

36Megis mae yn yscrivenedic, Er dy vwyn di in lleddir ni trwy’r dydd: in cymerir ni mal deueit yw lladdfa.

37Eithr yn y petheu hyn oll yð ym yn vwy na choncwerwyr trwy’r hwn a’n carawdd ni

38Can ys mae yn ðogel genyf, nad oes nac ange, na bywyt, nac Angelion, na na phennaetheu, na meddianneu, na chydrycholion, na phetheu y ddyvot,

39nac uchelder, na dyfnder, nac vn creatur arall a aill ein yscar ni ywrth cariat Duw, ysyð yn‐Christ eun Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help