Psalm 14 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .xiiij.¶ Dixit insipiens in corde.¶ I’r pencerdd. Psalm Dauid.

1YR ynfyd a ddyvot yn ei galon, Nid Dyw: y maent wedy llygry, a’ mynet yn ffiaið ei gweithred, nid neb yn gwneythy da[oni

2Yr Arglwydd edrychoð y lawr o’r nefoedd ar blāt dynion, y welet a oeð nep y ðeallei, ac a geisiei Ddyw.

3Pawp aeth y ar y ffordd, ac aethon y gyd yn ffiaidd: nid oes vn yn gwneuthy daoni, nag vn.

¶ Y tair gwersi hyn ny cheffir yma yn yr Ebrew.

Bedd agored yw ei mwnwg: aei tauodæ y sioment, gwenwyn lindis ys y dan ei gwevusæ.

Ei genæ ys id yn llawn o velltith a chwerwedd: ei traed ys y vuan y ellwng gwaed.

Destryw ac danhap sydd ar ei ffyrdd, a ffordd tangneddyf nyd adnabuont: nid oes ofn Dew yn ei golwc.

4Any wyr oll weithredwyr enwyreð eu bot yn ysu ve-popul, ydd ysant vara? ar yr Arglwyð ny alwāt.

5Yno yd echrynant gan ofn, can vot Dyw yn-cenedlaeth y cyfiawn.

6Cygor y tlawt a wradwyðech, can vot yr Arglwyð yn’obaith yddaw.

7 Pwy a rydd iechyt ir Israel o Tsijon? pan ymchwelo yr Arglwydd gaethiwet ei bopul, y bydd hyfryt gan Iaco, a’ llawen gan Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help