Philippieit 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.Y mae ef yn y rhubyddiaw hwy y ymogelyt rae gau ddyscodron, yn erbyn pa’r ei y mae ef yn gosot Christ, Ar vn modd y hunan, Ai ddysc ef. Ac yn gwrthbrovi cyfiawnhat dyn y hun.

1WEithion, veu‐broder, byddwch lawen yn yr Arglwyð. Nyd blin gen y vi scrivennu yr vn petheu atoch, ac y chwitheu y mae yn beth dilys.

2Goachelwch y cwn: gogelwch ddrwc weithwyr: gochelwch rae y cydtoriat.

3Can ys Cylchtoriat y dym ni, yr ei a addolwn Dduw yn yr yspryt, ac a ymhoffwn yn‐Christ Iesu, ac nyd ym yn ymddiried yn y cnawd:

4cyd bei i mi hefyt allu ymddiried yn y cnawt. A thybia nep arall y gallei ymddiried yn y cnawt, ys mwy y galla vi:

5wedy vy enwaedy yr wythuet dydd, o genedl Israel, o lwyth Ben‐iamin, yn Ebraiwr or Ebraieit, wrth y Ddeddyf yn Pharisaiad:

6erwydd zel yn ymlit yr Eccles: erwydd y cyfiawnder’syð yn y Ddeðyf, yn ddigwliadvvy.

7Eithr y petheu oedd yn elw i mi, yr ei hyny a gyfrifwn yn gol’et er mwyn Christ.

8Eithr yn ddilys cyfrif rwyf bop dim yn gollet er mwyn rhagorawl wybodaeth am Christ Iesu veu Arglwyð, er mwyn yr hwn y cyfrifais bop dim yn gollet, ac yddwyf yn ei cfrif yn dom, val y gallwn ennill Christ,

9a’m caffael ynddo ef, sef yvv, nyd a’m cyfiawnder vyhun genyf: ys yð o’r Ddeddyf, anyd yr vn y sydd trwy ffydd Christ, sef y cyfiawnder ys ydd o y gan Dduw trwy ffyð,

10val yr adwaenwyf ef, a’ rhinwedd ei gyfodiadigeth, a’ chymdeithas ei gystuddion, val im cyffurfer ai angeu ef,

11gan brovi mewn neb ryw voð a gyrayðwn y gyfodiadigeth y meirw:

12nyd val pe bawn wedy ei gyrayddyt eisius, neu vot eisius yn berfeith: eithr dilyn ydd wyf, y geisiavv emavlyt yn yr hyn er ei vwyn yr ymavaelir ynof y gan Christ Iesu.

13Y broder, nyd wyf yn barnu i mi ymavael ynddo, eithr vn peth ydd vvyf arno: gellwng dros gof hyn ’sy y tu cefn, a’ a cheisio tynnu at yr hyn ’sy y tu geyr bron,

14a’ chyrchu at y nod, am y gamp yr vchel ’alwedigeth Duw in‐Christ Iesu.

15Cynnyuer gan hyny o hanom ac ym yn berffeith, synniwn val hyn: ac ad ych yn synniaw yn amgenach, ’sef yr vn peth a ddatgudd Duw ychwy.

16Er hyny yn y peth y daetham ataw, cerddwn wrth yr vn rheol, val y synniom yr vn peth.

Yr Epistol y xxiij. Sul gwedy Trintot.

17 Ha‐vroder, byddwch ddilynwyr o hano vi, ac edrychwch ar yr ei, ’sy yn rhodiaw velly, megys ydd ym ni yn esempl y‐chwy.

18Can ys llawer a rodiant, am ba ’rei y dywedeis ywch yn vynech, ac yr awrhon y dywedaf ywch’ dan wylaw, eu bot yn ’elynion Croc Christ,

19yr ei sydd ei dywedd yn gyfergoll, a’i bola yn Dduw yddvvynt, a’i gogoniant yn wradwydd yddynt, yr ei a synniant am betheu daiarawl.

20Can ys ein gwladwriaeth ni ’sy yn y nefoedd, o’r lle ydd ym yn edrych am yr Iachawdr, ’sef yr Arglwydd Iesu Christ,

21yr hwn a ysymut ein corph gwael ni, val y gwneler yn unffurf a y gorph gogoneddus ef, erwydd y nerthovvgrvvydd, gan yr hyn y dychon ef ðarestwng pop dim yddaw yhun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help