1OBlegid hynny, ninay hevyd can fod kimaint kwmwl testion wedi yn amgylchu ni, bwriwn heibio bob trymfaych, ar pechawd sy barawd i hyny yn amgylch: rredwn yn oddefus yr yrfa a osoded y ni
2Gan edrych ar Iesu pen twysog a gorphenwr yn ffyð ni, rwn yn l’e llywenyð a osodid yddo, a ddioddefodd y groes, heb prisio ar y dirmig, ac a eisteddawdd ar y llaw ddeau y eisteddfa Dyw.
3Ystyriwch am hynny pwy ydiw r neb a ðioðefawdd gyfriw ddoydet yn eu erbyn can pechadurraid, rrag ych blino wedi deffygio yn ych meddyliay:
4Ni wrthladdosochi etto hyd at waed, yn ymryson yn erbyn pechawd.
5A gollwngesoch tros co y cyngor, y sy yn y ddoyded wrthych megis wrth plant, Vy mab, nac eskulusa cospedigaeth yr Arglwydd, ac na laysa pan gerydder di gantho.
6Can ys y neb a garo yr arglwydd, ef ay cospa: ac a skwrsio a wna ef pop map a dderbynio.
7Os goddefwchi gospedigaeth, megis y feibion y may Dyw yn ymgynig ywch: can ys pa fab fyð nas cospo eu dad ef?
8Eithr os heb gospedigaeth yddych, o’r hon y may pawb yn gyfrannog, gan hynny meibion aill ydych ac nid meibion o briod.
9Heb law hynny taday yn kyrff ni, cael a wneym yn cospi canthynt wy, ay perchy a wnaythom: onid mwy o lawer y may y ni ymostwng i dad yr yspryday, a chael byw?
10Can ys hwyntw yn wir tros ychydig ddyðiau an cospay ni val y bay dda canthynt: eithr hwn an copai ir lles y ni, ir mwyn y ni cael cyfran oy santeidrwydd ef.
11Nid chwaith hyfrydwch y gedir pob rryw cospedigaeth tros yr amser cydrychol, eithr anhyfrydwch: etto wedi hynny, heddychol ffrwyth cyfiownder a ddyry, ir rrai a font yn arferol a hi.
12Or achos pam derchefwch eich dwylaw ys wedy llaysu, ar gliniay gwenion.
13A gwnewch lwybray vnion ich traed, rrac mynd yr hyn ’sy glof, oðiar y ffordd, namyn yn hytrach iachaer ef.
14 Dilydwch heddwch gyd a phawb, a’ santeiddrwydd, heb yr hwn ni wyl neb yr Arglwydd.
15Disgwilwch, rrag deffygio o neb oddiwrth gras Dyw: rrac braguro o ryw wreiddin chwerwder y beri aflonyðwch yvvch, a thrwy hwnw llygru llawer.
16Na fid vn putteiniwr, neu anlan megis Esau, rrwn am ddryll o fwyd a werthodd fraint eu enedigaech.
17Can ys chwi a wyddoch mal wedi hynny hevyd pan fynase ef gael y fendith trwy dretadawl gyfraith, y gwrthodwyd ef: o blegid ni chafos ef gyfle y edifeirwch, ir y fod trwy ddagre yn keisio yr fendith hono.
18O blegid nid at y mynydd teimledig, y nesayasoch, ar tan poeth, ar cwmwl ar tywollwg, ar dymestl.
19 A’ sain y corn, a’ llef y geiriau, rrhon yr rai ay clowsant, a ymyscusodason, ir mwyn na ddoydid y gair wrthyntw mwy.
20(O blegid ni ellyntwy odde yr hyn y roiddid yn y orchymyn, pe rron y ’nifail a chyfwrð ar mynyð, y labyðio a wneir, neu y frathu trwyðo a gwayw:
21Ac mor aruthr ydoedd y golwg oedd yn ymðāgos, ac y dyvod Moses, Y ddwy yn ofni ac yn crynnu.)
22Eithyr nesau a wnaythoch at fynydd Syon, a dinas y Dyw byw, Caerselem nefawl, a chwmpeini milfrydd o angylion,
23A’ chynilleidfa y blaen anedigolion, rrain a yscrifenwyd yn y nefoeð, a Dyw browdr pob peth, ac yspryday yr rrai cyfion perffeith,
24Ac at Aesu cyfrwngwr y Testament newydd, ac at waed y taynelliad, sy yn doydyt pethau gwell no gvvaed Abel.
25Edrychwch nad eskeulusoch y neb sy yn doydyt: o blegid os hwyntw ni ddianghasōt rrain ay gwrthwynebasant ef, y doedd yn doydyt ar y ddayar: mwya oll nas diangvvn ni, os gwrthnebwn y neb sydd yn doydyd or nefoedd.
26Llef yr hwn a yscydwodd y ddayar, yn awr hagen rrybuddio a wnaeth, gan ddoydyt, Etto vnwaith yr yscydwa, nid yn vnig y ddayar, eithyr y nefoedd hevyd.
27Yr Etto vnwaith hynny, sy yn arwyðocau treiglad y pethau ansafadwy, megis gwaith llavv val y trico y pethau safadwy,
28Am hynny gan yn bod ni yn cymered attom tyrnas, ni ellir y scydwyd, ymaylwn yn y gras, drwyr hwn y gallom wasneuthy Dyw, yn y modd ac y bo bodlon cantho, trwy barch ac ofn‐crefyddus.
29O blegid yn Dyw ni ys‐tan trauledig yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.