1AC mal ydd oeddent wy yn llavaru wrth y popul, y bu ir Archoffeiriat, a llywyð y Templ, a’r Sadduceit ddyvot am ei pennae,
2gan vot yn ddicllawn ganthwynt eu bot yn dyscy yr bopul, ac yn praecethy yn Envv yr Iesu y cyvodedigaeth o veirw.
3Ac wynt a roesont ei dwylo arnwynt, ac ei dodesont yn‐carchar yd tranoeth: can ys yr owon gyd a’r hwyr ytoedd hi.
4Er hyny llawer o’r a wrandawsei yr gair a gredesōt, a’ niuer y gwyr oeð yn‐cylch pemp‐mil.
5Ac e ddarvu y dydd, dranoeth, bot y llywiawdwyr hwy, a’r Henafiait, a’r gwyr llen wedi ymgynull yn‐Caerusalem,
6ac Annas yr Archoffeiriat, ac Caiaphas, ac Ioan, ac Alexander, a chynniuer ac oeddynt o genedl yr Archoffeiriait.
7Ac wedy yddwynt ei gosot gwydd-yn‐gwydd ac wynt, y gofynesont, Trwy pa allu, n ai ym‐pa Enw y gwnaetho‐chwi hynn?
8Yno Petr yn gyflawn o’r Yspryt glan, a ddyvot wrthwynt, Chvvychvvi lywiawdwyr y popul, a’ Henyddion yr Israel,
9can bot in holi ni heddyw o bleit gweithret da avvaetham i ddyn egwan, ys ef pa wedd, ydd iachawyt ef,
10bit wybodedit ychwy oll, ac i oll bopul yr Israel may trwy Enw Iesu Christ o Nazaret, yr vn a groceso‐chwi, yr vn a adgyvodes Dew i vynydd o veirw, ystrwy ddaw ef y saif ydyn hwn geyr eich bron chwi yma yn iach.
11Hwn yw’r maen a vwriwyt heibio genwchwi yr adeilatwyr, yr hwn a wnaethpwyt yn ben congyl.
12Ac nid oes iechydvvrieth yn nep arall: can ys ym‐plith dynion ny roddwyt vn enw arall y dan y nef, y gellir ein iachay y ganthaw.
13A’ phan welsant hyder Petr ac Ioan yn amadrodd a’ deall y bot wy yn anllytherenawc ac eb ddysc ganthwynt, rhyveðy a wnaethant, a’ ei adnabot, pan yw ei bot hwy y gyd a’r Iesu:
14ac wrth welet hefyt y dyn a iachesit yn sefyll gyd ac wynt, ny allent ðywedyt dim yn erbyn y peth.
15Eithyr gorchymyn yddwynt cilio o ywrth y Cyccor, ac ymgygcori yn ei plith ei hunain a wnaethant,
16gan ddywedyt, Pa beth a wnawn i’r dynion hynn? can ys y’n ddiau e wnaethpwyt arwydd eglur y canthwynt, ac y mae yn amlwc hyn y gā pawp ’sy yn preswilio yn‐Caerusalem ac ny allwn ni wady.
17Eithr rac ei gyhoeðy ym‐pellach ym‐plith y popl, bygythiwn a’ bygylwn hwy, na bo yðynt gympwyll mwyach wrth nep dyn yn yr Enw hwn.
18A’i galw a wnaethāt, ac a ’orchymynesont yddynt na byðei yddynt ym‐moð yn y byd gympwyll na dyscu ’r bopul yn Enw ’r Iesu.
19Ac yno Petr ac Ioan a atebesāt yðynt, gan ðywedyt, Ai iawu yw yn‐golwg Dew vfyddhay i chwi yn hytrach ai i Ddew, bernw‐chwi.
20Can na allwn na ðywetom y pethe ’welsam ac a glywsam.
21Ac velly ei bygyly a wnaethāt, a’ ei gellyng ymaith, eb vedry cahel dim deunydd y poeni wy, o bleit y p opul: can ys pawp oeddynt yn gogoneddy Dew, o bleit y peth y wnaethoeðit.
22Can ys yð oedd y dyn yn vwy no dauugain blvvydd oed, y gwneythit y gwyrthiae yma or iachay arnaw.
23Yno wedy daroedd gyntaf ei gellwng ymaith, yd aethant at ei cyueillon, ac venagesont yr oll bethae’ry vesei ir Archoffeiriait a’r Henyðion ei ddywedyd wrthwynt.
24A’ phan ei clywsant vvy, derchafy ei llef ar Ddew a wnaethant yn vnvryd, a’ dywedyt, Arglwydd, ti yw ’r Dew r’y wnaethost nef a’ ddaiar, a’r mor a’ chymeint oll ys ydd ynthwynt,
25yr hwn trwy enae dy was Dauid a ddywedeist, Paam ydd ymgynddeiriogodd y Cenetloedd, ac y meddyliawdd y popul bethæ gweigion?
26Brenhinedd y ddaear a ymgasclesont, a’r llywiawdron a ddaethant yn‐cyt, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn y Christ ef.
27Can ys yn wir yn erbyn dy sanct Vap Iesu, yr hwn a enneiniaist yð ymgymiullawdd Herod ac Pontius Pilatus y gyd a’r genetloedd a phopul yr Israel,
28i wneythy’r beth bynac a ddaroedd ith law ac ith gygcor di racdervyny ei wneythy’r.
29Ac yn awr Arglwydd, edrych ar ei bygylae, a’ chaniatha ith weison ymadrodd dy air yn gwbyl hyderus, y n y bo yty estyn dy law,
30yd pan yw bot gwneythy’r iachay, ac arwyddion a’ ryveddodae drwy Enw dy sanct Vap Iesu.
31A’ gwedy yðwynt weddiaw, y cyffroawdd y lle ydd oeddent wedy’r ymgynnull, ac y cyflawnwyt wy oll o’r Yspryt glan, ac wy a ymadroddesont ’air Dew yn hyderus.
32A’ lliaws yr ei oedd yn credy, ytoeddd o vn galon, ac un enait: ac ny ddyvot yr vn o hanwynt am ddim oll a veðei, ei vod yn eiddaw ehun, amyn bot pop peth yn gyffredin ganthwynt.
33Ac a mawr gadernit y rhoes yr Apostolon testiolaeth cyfodiat yr Arglwydd Iesu, a’ rrat mawr ytoedd arnwynt oll.
34Ac nid oedd vn yn ei plith, ac eisie arno: can ys cynniuer ac oedd yn meddy tiredd nai tai, ei gwerthy a wnaethāt, a’ dwyn gwerth y pethae y werthit,
35a’ei ’osot ilawr wrth draet yr Apostoliō. A’ rhanny a wneit i bop vn, megis ydd oedd yn rhait iddaw vvrtho.
36Ac Ioses yr hwn a elwit y gan yr Apostolon Barnabas (ys ef yw hyny o ei ddeongl map diddanwch) oedd yn Leuit ac o vvlad Cyprus,
37o enedigaeth, ac ef yn perchenawc tir, ei gwerthawdd, ac a dduc yr ariant, ac ei gesodes wrth draet yr Apostolon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.