Marc 4 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iiij.Wrth barabol yr had, a’r gronyn mustard, y mae Christ yn dangos braint teyrnas Dduw. Dawn ragorawl gan Dduw cahel gwybot dirgeledigaethae y deyrnas ef. Ef yn goystegy temrestl y mor, yr hwn a vvyddhaodd iddo.

1AC ef a ddechreawdd drachefyn precethy yn‐glā y mor, a’ thyrfa vawr a ymglascawdd ataw, yn ydaeth ef y long, ac eistedd yn y mor, a’r oll popul oedd ar y tir wrth y mor.

2Ac ef a ddyscawdd yddwynt laweredd ym‐parabolae, ac a ddyvot wrthwynt yn y ðysc ef.

3Gwrandewch: Nycha, ydd aeth heywr allan y heheu.

4Ac e ddarvu val ydd oedd ef yn heheu, cwympo o beth wrth vin y ffordd, ac a ddaeth ehediait y nef ac ei difasont.

5A’ pheth a gwympodd ar dir caregawc, lle nid oedd iddo vawr ðaiar, ac yn y van yr eginawð, can nad oedd iddo ðyfnder daiar.

6A’ phan godaw haul, y gwresogwyt ef, a’ chan nad oedd yddo wreiddyn, y tra gwywawdd.

7A’ pheth a gwympiawð ymplith y drain, a’r drain a dyfeson ac ei tageson, val na roddes ffrwyth.

8A’ pheth arall a gwympiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth ac a eginawdd i vynydd, ac a dyfawdd, ac a dduc, peth ar ei ðecfed ar vgain, peth ar ei drugainvet, a’ pheth ar ei ganvet.

9Yno y dyvot ef wrthwynt, Y nep ’sy ganthaw glustiae i wrandaw, gwrandawet.

10A’ phan ytoedd ef vvrtho y hun, yr ei oedd yn y gylch ef y gyd a’r dauddec, a ymovynesont iddaw am y parabol.

11Yno y dyvot wrthwynt, Y chwi y rhoddwyt gwybot dirgeledigaeth teyrnas Dduw: an’d ir ei’ n ’sydd allan, y gwnair yr oll pethae hyn drwy parabolae,

12pan yw yn gweled, y gwelant, ac ny chanvyddant: ac yn clywed, y clywant, ac ny ddyellant, rac bod yddyn byth ymchoelyt a chael maddae yddyn ey pechotae.

13Ac ef a ðyvot wrthyn, Any wyddochvvi y parabol hwn? a’ pha weð y gwybyddechvvi yr oll parabolae ereill?

14Yr heuwr hvvnvv a heuha yr gair.

15A’r ei hyn yw’r sawl a dderbyniant yr had wrth vin y ffordd, yn ei yr heuwyt y gair: ac ’wedy y clywont, y daw Satā yn y man, ac a ddwc ymaith y gair y heuesit yn y calonae wy.

16Ar vn ffynyt yr ei a dderbyniant yr had yn y tir caregawc, yw ’r ei hyny, y sawl gwedy yddyn glywed y gair, yn y man yd erbyniant ef gyd a llewenydd,

17ac nid nes yddyn wraidd ynthyn y hunain, ac velly dros amser ydd ynt: yno pan goto gorthrymder ac ymlit o bleit y gair eb ohir y rhwystrir wy,

18A’r ei a dderbyniaut yr had ynghyfrwng y drain, yw’r sawl a wrandawant y gair:

19and bot gafalon y byd hwn, a’ somiant golud a’ chwantae pethae ereil’ yn dyvot y mewn ac yn tagy ’r gair, ac ei gwneir ef yn ðiffrwith.

20A’r ei a dderbyniasōt had mewn tir da, yw’r sawl a wrandawant y gair ac ei derbiniant, ac a ddugan ffrwyth, vn gronyn ðec ar vgain, aral’ drugain, ac arall gant.

21Hefyd e ddyvot wrthynt, A ðaw canwyll yw gesot y dan vail a y dā y vort, ac nid yw gesot ar gannwyllbren?

22Can nad oes dim cuddiedic, a’r na’s amlyger: ac nid oes dim dirgel, a’r nyd el yn ’olau.

23Ad oes ir vn glustiae i glywet, clywet.

24Ac ef a ðyvot wrthynt, Gwiliwch pa beth a glywwch. A pha vesur y mesuroch, y mesurir y chwithe: ac y chwi yr ei a glywch y rhoðir y chwanec.

25Can ys i hwn ysy gantho, y roddir yddaw, a’ chan hwn nyd oes, y dugir y arno, meint ac ysy ganthaw.

26Hefyd e ddyvot, Velly ytyw teyrnas Dew, val pe bwriai ddyn had i’r ddaiar,

27a’ chyscu, a’ chody nos a’ dydd, ac eginaw o’r had a’ thyvu i vynydd, ac efe eb wybot pa vodd.

28Can ys y ddaiar a ddwc ffrwyth o hanei y hun, yn gyntaf yr eginin, yn ol hyny yr grawn yn llawn yn y tywysen.

29Ac er cynted yr ymddangoso ’r ffrwyth, eb ’ohir y dyd ef y cryman ynthavv, can ys dyvod y cynayaf.

30Ef a ddyvot hefyt, I ba beth y tybygwn deyrnas Dyw? ai a pha gyffelyprwydd y cyffelypwn hi?

31Cyffelyp yvv i ’ronyn mustard, yr hwn pan hauer yn y ddaiar, yw’r lleiaf o’r oll hadae y sy yn y ddaiar:

32eithyr gwedy yr hauer, e dyf i vynydd, a’ mwyaf yw o’r oll llysae, ac e ddwc gangae mawrion, y’n y allo ehediait y nef nythu y dan y wascawt ef.

33Ac a llawer o gyfryw barabolae y precethawdd ef y gair yddwynt, megis ac y gallent ei wrandaw.

34Ac eb parabolae ny’d ym adroddawð ef ddim wrthynt: ac ef a esponiawdd yr oll bethe y’w ddiscipulon wrthyn y hunain.

35A’r dydd hwnw gan yr hwyr, y dyvot ef wrthynt, Awn trosawdd ir ’lan arall.

36A’ gady y dyrva a wnaethant, a ei gymeryd ef val ydd oedd yn y llongan: ac ydd oedd hefyd llongae eraill y gyd ac ef.

37Ac e gyfodes cawod vawr o wynt, a’r tonae a daflasant ir llong, y’n yd oeð hi ’nawr yn llawn.

38Ac ydd oedd ef yn y pen‐ol‐ir‐llong, yn cyscu ar ’obenydd: ac wy ei dihunasont, ac a ddywedesont wrthaw, Athro, Anyd gwaeth genyt er ein colli ni?

39Ac ef a gyfodes y vynydd, ac a ysdwrdiodd y gwynt, ac o ddyvot wrth y mor, ys Taw, nag yngan. Yno y goystegawdd y gwynt, ac hi aeth yn daweelvvch mawr.

40Yno y dyvot ef wrthwynt, Paam ydd ych mor ofnus? pa vodd yvv na’d oes ffydd genych?

41Ac wy a ofnesont yn ddirvawr, ac a ddywedesont wrth y gylydd, Pwy yw hwn, can vot y gwynt a’r mor yn vwyddhay iddaw?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help