1BEndigeit yr Arglwydd vy nerth, yr hwn y ddysc vy-dwylo y ymladd, gwaredwr, vy-bronddor, ac ynthaw y ym diriedaf, yr hwn sy yn darestwng vy-popul y danaf.
3Arglwyð, pa beth yw dyn pan adnabyddych ef? nei vap dyn pan veddylych am danaw?
4Dyn ysy debic y wagedd: ei ddyðiae megis gwascawt, y ddivlanna.
5Arglwydd, plyc y lawr dy nefoedd, a’ descen: cyhwrdd a’r mynyddedd a’ mugant.
6Melltenha y lluchet a’ diva hwy: saetha dy saethae, a’ thervysca hwy.
7Anvon dy law o dducho: gwaret vi, a’ dwc vi o’r dyfreð mawrion, o law plant estran,
8Yr ei y son ei geneu am wagedd, a’i deheulaw ysy ddeheulaw ffalsedd.
9Dew, canaf yty ganiat newydd, ar y, nabel, dectant y canaf y-ty.
10[Efe] yw yr hwn ’sy yn rhoi ymwared y Vrenhinedd, ac yn achup Dauid ei was rac y cleddyf anvad.
11Achup vi, a’dianc vi y wrth plant estran, yr ei y siarat ei genae wagedd, a’ei deheulaw, ys y] ðeheulaw ffalsedd:
12Mal ein meibion megis y planwyð yn tyvu yn ei hieunctit, a’n merchet meis y conglvain wedi ei tori ar wedd llys:
13Mal ein conglae yn gyflawn, yn aml o amryw wedd, a’ bot y ein deueit ddwyn miloedd a’ myrdd yn ei ol heolydd:
14Mal y bo ein, ychen yn gryfion y lavurio: na bo dim bwlch na myned allan, na dim gwaeddi yn ein heolyð.
15Gwyn ei vyt y popul, y vo velly, ys gwynwydedic y popul, y bo yr Arglwydd yn Ddeo yddwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.