1AC e ðarvu ar yr ail Sabbath gvvedy’r cyntaf, vot iddaw vyned trwy ’r maesydd yde, ac ir discipulon dynny y tywys, a’ ei rhuglo a’ ei dwylo.
2A’r ei o’r Pharisaieit a ddywedesont wrthynt, Paam y gwnewch yr hyn nid rhydd i wneithur ar y dyddiae Sabbath?
3Yno ydd atepawdd yr Iesu yddynt ac y dyuot. Ac any ddarllenasochwi hyn pa wnaeth Dauid pan newynawdd yntef, a’r ei oeddent y gyd ac ef,
4mal ydd aeth ef y myvvn i duy Dduw, ac y cymerth, ac y bwytaodd y bara dangos, ac y rhoes hefyd ir ei oedd gyd ac ef, yr hwn nid oedd gyfreithlawn y vwyta, anyd i’r Offeirieit yn vnic?
5Ac ef a ddyuot wrthynt, Can ys Map ydyn ysy Arglwydd ac ar y dydd Sabbath.
6Darvu hefyt ar Sabbath arall, vot iddo vyned i mywn ir Synagog a’ ei dyscy, ac ydd oedd yno ddyn, a’ ei law ddeheu wedy dysychu.
7A’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit oeddent yn y ’oarchadvv ef, a iachaei ef ar y dydd Savbath, yn y chaffent achwyn yn y erbyn ef.
8Eithyr ef a wyddiat y meddyliae hwy, ac a ddyuot wrth y dyn oedd a’r llaw ddiffrwyth iddo, Cyuot, a saf i vyny yn y cenol. Ac ef a gyuodes i vynydd ac a safawdd.
9Yno y dyuot yr Iesu wrthynt, Mi ’ovynaf ywch, ’orchest, Ai cyfreithlawn ar y dyddiae Sabbath gwneuthu da, ai gwneuthu drwc? cadw einioes, ai colli?
10Ac ef a edrychawdd arnyn oll o yamgylch, ac a ddyuot wrth y dyn, Estend dy law. Ac e wnaeth velly, a’ ei law a adverwyt, mor iach a’r llal’.
11Yno yr ymlanwent wy o ynvydrwyð, ac y chwedlauent wrth ei gylyð, pa’r beth a wnelent i’r Iesu.
12Ac ys darvu yn y dyddiae hyny, vyned o hanaw ir mynyth i weddiaw, a’ bod yno yn hyd y nos yn gweddiaw ar Dduw.
13A’ phan aeth hi yn ddydd, ef ’alwodd ar ei ddiscipulon, ac o hanynt yd etholes ef ddauddec, yr ei ac ’alwodd ef yn Apostolon.
14(Simon yr vn hefyd a enwodd ef yn Petr, ac Andreas ei vrawd, Iaco, ac Ioan, Philip, a’ Bartholomaeus:
15Matthew, a’ Thomas: Iacob vap Alphaeus, a’ Simon a elwir gwynvydyd:
16Iudas bravvd Iaco, ac Iudas Iscariot, yr vn ac oedd vradwr.)
17Yno y descendawdd ef i vvared y gyd a ’n hwy, ac y safawdd mewn maestir y gyd a’r dorf o ei ddiscipulon, a’ lliaws mawr o werin o’r oll Iudaia, a’ Caerusalem, ac o duedd glan mor Tyrus a’ Sidon, yr ei a ddaethent er mvvyn y glywet ef, a’ chael i hiachau o ei heintiae:
18a’r ei a volestit gan ysprytion budron a’ hvvy a iacheit.
19A’r oll dyrfa a geisiawdd y gyfwrdd ef: can ys nerth ai o hanaw allan, ac y hiachai hwy oll.
20Ac ef a dderchafawadd ei lygait ar ei ddiscipuion ac a ddyuot, Gwyn eich byd y tlodion. can ys y chwy y mae teyrnas Duw.
21Gwyn eich byd yr ei ’sy yn newyny yr awrhon: can ys chvvi a ddiwallir: Gwyn eich byd yr ei a wylwch yr awrhon: can ys chvvi a chwerddwch.
22Gwyn eich byd pan ich casao dynion, a’ phan ich gohanant, a’ ch’ divenwi, a’ bwrw allan eich enw val yn ðrwc er mwyn Map y dyn.
23Byddwch lawen yn y dydd hwnw, a’ byddwch‐hyfryt: can ys nycha, eich gwobr ’sy vawr yn y nefoedd: o bleit yn y modd hyn y gwnaeth y tadae hwy ir Prophwyti.
24Eithr ys gwae chwi yr ei goludawc: can ys derbyniesoch eich diðanwch.
25Gwae chvvy chwi ’r ei llawn can ys chvvi a newynwch. Gwae chwy chvvi a’ chwarddvvch yr awrhon: can ys chvvi a gwynfenwch, ac a wylwch.
26Gwae chwy chvvi pan ddyweto pop dyn ddayoni am danoch: can ys velly y gwnaeth y tadae wy ir gau-prophwyti.
27An’d wrthych y dywedaf, yr ei a glywch, Cerwch eich gelynion: gwnewch dda ir sawl ach casant:
28Bendithiwch y sawl ach melltithiant, a’ gweddiwch tros y sawl a wnant eniwet y’wch.
29Ac i hwn ath trawo ar yn aill gern, cynic hefyd y llall: ac i hwn a ddwc ymaith dy gochyl, na ’o hardd ddvvyn dy bais hefyd.
30Dyrro i bawp a arch y ti: a’ chan hwn a ddwc ymaith dy dda, nag arch drachefyn,
31Ac val yr wyllysoch wneuthur o ddynion i chwi, a’ gwnewch chwitheu yddynt wy yr vn ffynyt.
32Can ys a cherwch yr ei ach carant, pa tra ddiolch vydd ychwi? o bleit ys y pechaturieit a gar yr ei y car wythe.
33Ac a’s gwnewch‐dda i’r sawl a wnant dda i chwithe, pa ’ra ddiolwch vyð ychwy? o bleit y pechaturieit a wnant ys yr vn peth.
34Ac a’s benthycwch ir ei y gobeithiwch dderbyn ganthyn drachefn, pa ’ra ddiolvvch vydd ychwy? can ys‐y‐pechaturieit a venthycant i’r pechaturieit, er aderbyn y cyfryw.
35Can hyny cerw‐chwi eich gelynion, a’ gwnewch‐ða, a’ benthycwch eb edrych am ddim drachefyn, a’ch gvvobyr a vyð lliosawc a’ phlant vyddwch ir Goruchaf: can ys‐ef ’sy garedic ir ei ancaredic, ac i’r ei drwc.
Yr euangel y iiij. Sul gwedy Trintot.
36¶ Byddwch gan hyny drugarogion, megis ac y mae eich Tat yn trugaroc.
37Na varnwch, ac nich bernir: na ðamnwch ac ni’ch damnir: maddeuwch, ac ich maddeuir.
38Rowch, ac e roddir ychwy: mesur da dwys, wedy ’r gyd yscwyt, ac yn myned trosodd a roddant yn eich monwes: can ys a’r vn mesur y mesuroch, y mesurir ychwy: drachefyn.
39Ac ef a ddyvot ar ddamec wrthwynt. A ddychon ydall arwein y dall? a ny chwympant ill dau yn y ffoss?
40Nyd yw’r discipul uch pen ei athro: anid pwy bynac a vydd discipul perffeith, a vydd val ei athro.
41A’ phaam y gwely vrycheuyn yn llygat dy vrawt, a’r trawst y sy yn dy lygat dy hun nyd wyt yn ystyriet?
42Ai pa vodd y gelly ddywedyt wrth dy vrawt, Y brawt, gad i mi dynu allan y brychaeyn ys id yn dy lygat, a’ thydy eb welet y trawst ys yd yn dy lygat vn? Hipocrit, bwrw allan, y trawst oth lygat dy hun yn gyntaf, ac yno y gwely yn amlwc, dynu allan y brychaeyn y sydd yn llygat dy vrawt.
43Can nyd da pren a ðwco ffrwyth drwc: na phrē drwc a dduco ffrwyth da.
44Can ys pop pren a adwaenir wrth ei ffrwyth y hun: can nad o yscall y casclant fficus, nac o ddyrysi y clascant ’rawnwin.
45Y dyn da ymaes o dresawr da ei galon a ddwc allan dda, a’rdyn drwc ymaes o dresawr drwc ei galon a ddwc allan drwc: can ys o gyflawnder y galon yr ymadrodd ei ’enae.
46An’d paam y galwch’ vi Arglwydd, Arglwyð, ac ny wnewch y pethae a ddywedaf?
47Pwy ’n pynac a ðaw a ta vi, ac a glyw vy‐gairiae ac ei gwna, ys dangosaf ywch’ i bwy ’n y mae ef yn gyffelyp.
48Cyffelyp yw i ddyn a adailiadai duy, ac a gloddiai yn ðwfyn, ac a ’osodai y sailvaeniat ar graic: a’ phan ddaeth rhyferthwy, y curawdd y llifddvvr ar y tuy, ac ny allei ei yscytwyt: o bleit ei sailiaw ar y graic.
49Eithyr hwn a glyw ac ny wna, cyffelip yw i ddyn a adailiadai duy ar y ddaiar eb sailvain, ar yr hwn y curawdd y llifddvvr, ac yn ehegr y syrthiawdd: a’ chwymp y tuy hwnw vu ddirvawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.