Gweledigeth 15 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xv.1 Saith Angel a’ chanthynt saith y pla dywethaf. 3 Caniat yr ei a orchvygasont y bestvil. 7 Y saith phiolae yn llawn o ddigofein Dyw.

1AC mi weleis arwydd arall mawr yn y nef a’ rryfedd, seith Angel a chantynt y seyth pla diwetha: cans trwyddynt hwy llid Dyw y gyflawnwyd.

2Ac mi weleis mal by bei mor gwydrol, gwedy y gymysgy a thā ar sawl y gawsant y llaw ’n ycha ar yr enifel, ae ddelw, ac ar y nod, ac ar rrif y enw ef, yn sefyll ar ’lan] y mor gwydrol, a thelyney Dyw ganthynt.

3Ac hwy ganasāt ganiat Moysen gwasanaethwr Dyw, a chaniat yr Oen, dan ddwedyd, Mawr, a ’rryfedd ydynt dy weithredoedd, Arglwydd Ddyw hollallyawc: cyfiawn a’ chywir ynt dy ffyrdd, Brenin y Seint.

4Pwy nath ofna di Arglwydd, a gogoniantu dy Enw? cans ti yn unic wyd santeidd, ar holl nasioney y ddont ac aðolant gair dy vron di: cans dy varney di ydynt cohoyddys.

5Ac yn ol hynn my edrycheis, a’ syna, yrydoedd tem’l Tabernacl y tustolaeth yn agored yn y nef.

6A’r seith Angel y ddeythont allan or dem’l, yrrein oeddent ar seith pla ganthynt, ae dillad oedd llien pur gloyw, ac wedy ymwregysu ynghylch y broney a gwregysey aur.

7Ac vn o’r pedwar enifel y roedd yr seith Angel seith phiol aur yn llawn o ðigovent Dyw, yr hwn y sydd yn byw yn dragywydd.

8Ac yrydoedd y demel yn llawn o vwg gogoniant Dyw ae allu, ac ny doedd neb yn abyl y vyned y mewn yr demel, hed yn ðarfod gyflewni seith pla y seith Angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help