1AC ydd oedd gwyl y bara croyw yn agos, yr hon a elwir Pasc.
2A’r Archoffeiriait ar Gwyr‐llen oedd yn ceisiaw pa wedd y lleðynt ef: o bleit ydd oedd arnynt ofn y bobl.
3Yno ydd aeth Satan y mewn Iudas, yr hwn a elwit Iscariot, ac y oedd o rif y dauddec.
4Ac ef aeth ymaith, ac a ymðiddanawdd a’r Archoffeiriait, a’r llywodraethwyr y Templ, pa wedd y gwnai ei vrad ef yddwynt.
5Ac ydd oedd yn llawen ganthwynt, ac a gytunesont roddy arian iddaw.
6Ac ef a gytunoð, ac a gaisiawdd amser addas yw vradychy ef yddwynt, yn absen y popul.
7Yno y daeth y dydd y bara croyw, pan oedd angenrait aberthy’r Pasc.
8Ac ef a ddanvones Petr ac Ioan, can ddywedyt, Ewch, a pharatowch y ni y Pasc, val y gallom ei vwyta.
9Ac wy a ddywedesont wrthaw, P’le y myny di ei baratoi?
10Ac ef a ðyvot wrthwynt, Nycha, gwedy yd eloch y mewn i’r dinas, y cyfervydd a chwi ddyn, yn dwyn steneit o ddwfr: cynlynwch hwnw ir tuy ydd el y mewn,
11a’ dywedwch wrth wr y tuy, Yr Athro a ddywait wrthyt, Pl’e mae’r ystauell lle bwytavwyf vy-Pasc y gyd a’m discipulon?
12Ac ef a ddengys ywch ’goruch ystavell vawr wedy’r drwsiaw: ynovv ei paratowch.
13Yno ydd aethant ac y cawsant mal y dywedesei ef wrthynt, ac wy a paratoesant y Pasc,
14A’ gwedy dyvot yr awr, ydd esteddawdd, a’r daudec Apostol gyd ac ef.
15Yno y dyvot ef wrthynt, Mi a gwbl ðesyfais vwyta’r Pasc hwn gyd a chvvychwi, cyn dioðefwyf.
16Can ys dywedaf wrthych, na vwytawyf o hano mwy o hyn allan, yd y ny chyflawner yn‐teyrnas Duw.
17Ac ef a gymerth y cwpan ac a ddiolches, ac a ddyvot, Cymerwch hwn, a rhānwch yn eich plith.
18Can ys dywedaf wrthych, Nid yfaf o ffrwyth y winwydden, yd y ’n y ddel teyrnas Dduw.
19Ac ef a gymerth vara, a ’gwedy iddo ddiolvvch, ef ei tores, ac a roddes yddwynt, can ddywedyt, Hwnn yw vy‐corph: yr hwn a roddir trosoch: gwnewch hyn er cof am danaf.
20Yr vn modd hefyt wedi iddo swpery e gymerth y cwpan, can ddywedyt, Y cwpan hwn yw’r Testament newydd yn vy gwaet, yr hwn a ellyngir y trosoch.
21Eithyr nycha, llaw hwn am bradycha, ys y gyd a mi ar y vort.
22Ac yn wir Map y dyn a gerða megisy darparwyt: eithr gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y bradychir ef.
23Yno y dechraesont ymofyn yn ei plith ehun, pwy o hanwynt vyddei a wnei hyny.
Yr Euāgel ar ddydd S. Bartholomeus.
24Ac e gyvodes ymryson yn eu plith, pwy o hanaðynt a debygit ei vot yn vwyaf.
25Ac ef a ddyvot wrthynt, Brenhinoedd y Cenedloedd a deyrnasant arnynt, ar ei ai h’arglwyddiaethant a elwir yn Bendevigion da.
26Eithyr na vydd y chwi velly: anid byðet y mwyaf yn eich plith chwi megis y lleiaf: a’r pennaf, megis yr hwn a vo yn gweini.
27Canys pa‐vn vwyaf, ai hwn ys a’n eisteð ar‐y‐vort, ai ’r hwn ys y’n gweini? Anyd mvvyaf yr vn a vo yn eistedd‐ar-y‐vort? Ac ydd wyf vi yn eich mysc mal vn yn gweini.
28A’ chwychwi yw’r ei’n arosesoch gyd a mi yn vy‐provedigaethae.
29Am hyny y gosodeis y chwi deyrnas, megis y gosododd vy‐Tad i minef,
30mal y galloch vwyta, ac yfet ar vy‐bort yn vy‐teyrnas, ar eisteddvae, a’ barny dauddecllwyt yr Israel.
31Ar Arglwydd a ddyvot, Simon, Simon, nycha, Satan a’ch ðeisyfawdd, er eich nithiaw megis gwenith.
32An’d mi a weddiais trosot, na dðefficiai dy ffydd. Can hyny pan ith ymchweler ir iavvn, cadarnha dy vroder.
33Ac ef a ddyvot wrthaw, Arglwydd, ydd wyf yn parat y vynet gyd a thi y garchar ac angae.
34Eithyr ef a ddyvot, Ys dywedaf wrthyt, Petr, ny chan y ceiliawc heddyw, cyn y ti wady deirgwaith vy adnabot.
35Ac ef a ddyvot wrthwynt, Pan eich anvoneis eb gwd, ac yscrepan, ac yscidiae, a vu arnoch eisiau dim? Ac wy a ddywedesont, Na ddo ddim.
36Yno y dyvot ef wrthynt, Eithr yr awrhon y neb ys y gantaw gwd, cymeret, a’r vn ffynyt yscrepan: a’r nep ny bo gāthaw yr vn, gwerthet ei bais, a’ phrynet gleddyf.
37Can ys dywedaf ychwi, pan yw eto hyn ys y escrivennedic, ys angenrait ei gyflawni yno vi, Ac y gyd ar ei enwir y cyfrifwyt ef: can ys diamau bod diben yr awrhon am y pethae a yscrifenvvyt ohano vi.
38Ac wy a ddywedesont, Arglwydd, nycha, ll’yma ddau gleddyf. Ac ef a ddyvot wrthwynt, Digon yw.
39Ac ef a ddeuth allan, ac aeth (megis ydd oedd ef gynefin) i vonyth yr olewydd, a’ei ddiscipulon ei canlynesont.
40A’ gwedy y ddawot ef ir van, e ddyvot wrthwynt, Gweðiwch nad eloch ym‐provedigaeth.
41Ac ef a dynnawdd y wrthynt, yn‐cylch ergit carec, ac a roes ei ’liniae ar lawr ac a weddiawdd,
42can ddywedyt, Y Tad a’s ewyllysy, ys mut y cwpan hwn y wrthyf, eithyr nid vy ewyllys i, namyn dy ewyllys di a gyflawner.
43Ac a ymddangoses yddaw Angel o’r nef, yn ei confforddiaw ef.
44Eithyr ac ef mewn cyfingdra meddvvl, ef a weddiawdd yn ddyvalach: a’ ei chwys ef ytoedd megis deigreu gwaet, yn treiglo i lawr yd y ddaear.
45Ac ef a gyfodes o weðiaw, ac a ðauth at ei ddiscipulon, ac ei cafas wy yn cyscy gan dristit.
46Ac ef a ddyvot wrthwynt, Paam y cyscwch? Cyfodwch a’ gweddiwch nad eloch ym‐provedigaeth.
47A thra oeð ef etwa yn ymddiðan, nycha dorfa a’r hwn a elwit Iudas vn or dauðec, aeth o ei blaen wy, ac a nesaodd at yr Iesu y’w gusany.
48A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Iudas, a vradychy di Vap y dyn a chusan?
49A’ phan welawdd yr ei oedd yn y gylch ef, beth a ddelei: wy ddywedesont wrthaw, Arglwydd, a drawom ni a chleddyf?
50Ac vn o hanwynt a drawodd was yr Archoffeiriat, ac a dores i glust ddehen ymaith.
51Yno ’r Iesu atepawdd, ac a ddyvot, Goddefwch hvvy yd hynn. Ac ef a gyfurddawdd a ei glust, ac ei iachaodd ef.
52Yno y dyvot yr Iesu wrth yr Archoffeiriat ac wrth lywodraethwyr y Templ, a’r Henurieit yr ei a ddauthesei attaw, A ddaetho‐chwi allan megis at leitr a chleddyfae ac a ffynn?
53Pan oeddwn paunydd gyd a chwi yn y templ, nyd estenesoch ddwylo ym erbyn: eithyr hon yw eich gwir awr, a’ gallu yr tywyllwch.
54Yno y cymersont ef, ac yr arwenesont, ac ei ducesont i duy ’r Archoffeiriat. Ac Petr ei canlynawdd o hirbell.
55Ac wedy yddynt gynnae tan yn cenawl y llys, a’ chydeistedd i lawr, ydd eisteddawdd Petr hefyt yn ei plith.
56A’ rhyw vorwyn vveini a y canvu ef val ydd oedd e yn eistedd wrth tan, ac wedy iði edrych yn graff arnaw, hi ddyvot, Ac ydd oedd y dyn hwn y gyd ac ef.
57Ac ef y gwadawdd ef, can ddywedyt, Ha wreic, nid adwaen i ddim hanaw.
58Ac ychydic yn ol, y gwelawdd dyn arall ef, ac y dyvot Ac ydd wyt tithef yn vn o hanwynt. An’d Petr a ddyvot, Ha‐ddyn, nag wyf.
59Ac yn cylch awr yn ol hynny, vn arall a gadarnhaodd, gan ddywedyt. Yn wir ac ydd oedd y dyn hwn gyd ac ef: can ys Galileat ytyw.
60Ac Petr a ddyvot, A ddyn, ny wn pa ddywedy. Ac yn y van ac ef eto yn ymddiddan, y canawdd y ceiliawc.
61Yno yr Arglwydd a ymchoelawdd, ac a edrychawdd ar Petr: ac a ddaeth yn‐cof Petr ymadrodd yr Arglwydd py wedd y dywedesei wrthaw, Cyn canu ’r ceiliawc, tu a ’m gwedy dairgwaith.
62Ac Petr a aeth allan, ac a wylawdd yn chwerw.
63A’r gwyr a ddaliesent yr Iesu, ei watwor a’ ei vaeddu a wnaethant.
64A’ gwedy yddwynt guddiaw ei lygait, y trawsōt ef ar y wynep, ac y govynesont yddaw, gan ddywedyt. Prophwyta pwy ath trawodd.
65A’ llawer o gabl ’airie eraill a ddywetesont yn y erbyn ef.
66Ac er cynted ydd oedd hi yn ddydd, ydd ymgynullawdd Henurieit y popul, a’r Archoffeiriait a’r gwyr llen, ac yr arwenesont ef y’w Seneddr hwy, can ddywedyt.
67Ai tu yw’r Christ? dywait i ni. Ac ef a ddyvot wrthwynt, P’es dywedwn y chwy, ny’s credech.
68A’ phe hefyt ydd holaf, nim atepwch ac ni’m gellwngwch ymaith.
69Gwedy hynn yr eistedd Map y dyn ar ddeheulaw gallu Duw.
70Yno y dywedesont oll, Yw‐ti can hynny yn Vap Duw? Ac ef a ddyvot wrthynt, Ydd yw chwi yn dywedyt vy‐bot.
71Yno y dywedesont wy, Pa reid i ni mwy wrth testoliaeth? canys clywsam ein hunain o ei enae ehun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.