Gweledigeth 14 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xiiij.1 Rhagorawl compeini yr Oen. 6 Vn Angel yn menegi yr Euangel, 8 Vn arall yn menegi am gwymp Babylon, 9 A’r trydydd yn rhybuddio

ffo rhac y bestvil. 13 Am ddedwyddit y sawl ’sy yn meirw yn yr Arglwydd. 18 Am gynayaf yr Arglwydd.

1AC mi edrycheis, a’ syna, Oen yn sefyll ar vynydd Sion, a gyd ac ef pedeir mil a seith vgen mil, gan vod enw y dad ef yn escrifenedic yny talceni hwynt.

2Ac mi glyweis lleis or nef, mal lleis llawer o ddyfroedd, ac mal lleis twrwf mawr: ac mi glyweis lleis telynoriō yn cany ar y telyney.

3Ac hwy ganyssont mal caniat newydd gair bron y trwn, a chair bron y pedwar enifel, ar henafied, ac ny allei vn‐duyn dyscu y caniat hwnw, ond y pedeir mil a’r seith vgein mil, y rrein y brynwyd or ddayar.

4Yrrein ydynt y gwyr ar nyd halogwyt a gwragedd: can ys gweryfon ynt: yrrein y ddilynāt yr Oen pa le bynac yr eiff: yrrein y brynwyd oddiwrth y dynion, yn ffrwyth cynta y Ddyw ac ir Oen:

5Ac ny chafad twyll yn y geneye hwynt: can ys y maent heb gyffeith gair bron trwn Dyw.

6¶ Ac mi weleis Angel arall yn hedfan trwy ganol y nef, ac Euengel tragywydd gantho, y y bregethy yr rrei oeddent trigadwy ar y ddayar, ac y bob nasion, a’ chenedlaeth, ac ieith, a’ phobl,

7Dan dwedyd a lleis ywchel, Ofnywch Ddyw, a’ rrowch anrrydedd yddo ef: can ys, awr y varn ef y ddoyth: ac addolwch yr hwn y wnaeth nef a llawr, a’r mor, a’ ffynhoney y dyfroed.

8Ac angel arall y ddilynoeð, dan ddwedyd, E syrthiodd, e syrthiodd, Babylon y gaer vawr honno: can ys hi y wnaeth yr holl nasioney yfed o win digofeint y godineb hi.

9¶ A’r trydedd Angel y dilynoedd hwynt, dan ddwedyd a lleis mawr, Od addola vn duyn yr enifel ae ddelw ef, ac erbyno y nod ef yny dalcen, ney yn y law,

10Hwnw y yf o win digoveint Dyw, yr hwn y gymysgwd, o win pur mewn phiol y ddigoveint ef, ac ef y boenyr mewn tan a brymstan yn golwc yr Angylion santaidd, ac yngolwc yr Oen.

11A’ mwg y poynedigeth hwynt y ddrycha yn dragywydd: ac ny chant orffwysfa na dyð na nos, yrrein y addolant yr enifel, ae ddelw ef, a phwy bynac y dderbyno print y enw ef.

12Llyma goddefeint y Seint: ll’ym’a r rrei y gadwant gorchmyney Dyw, a’ ffydd Iesu.

13Ac mi glyweis lleis or nef, yn dwedyd wrthysi, Escrifena, Bendigedic ydynt y meyrw, yrrein ydynt rrac llaw yn meyrw yn yr Arglwydd. Velly y ddwed yr ysbryd: can ys hwy y orffwyssant oðiwrth y llafyr, ae gweithredoedd y dilyn hwynt.

Yr Epistol ar ddydd y Meibion gwirion

14¶ Ac mi edricheis, a’ syna, wybren wen, ac ar yr wybren vn yn eiste yn debic y Mab y duyn, ac ar y ben coron aur, ac yn y law cryman llym.

15Ac Angel arall y ðoyth allan or deml, dan lefen a lleis ywchel wrth yr vn oedd yn eistedd ar yr wybren Bwrw y mewn dy gryman a meda: can ys amser medi y ddeyth: am vod cynhayaf y ddayar yn ayddfed.

16A’r vn oedd o eistedd ar yr wybren, y vwroedd y gryman ar y ddayar, a’r ddayar y vedwyd.

17Ac Angel arall y ddeith allan or dem’l, yr hwn ysydd yny nef, a’ chanto hefyd cryman llym.

18Ac Angel arall y ddeith allan oðiwrth yr allor, yr hwn oedd a gallu gantho ar y tan, ac y lefoedd a lleis ywchel ar yr vn oedd ar cryman llym gantho, gan ddywedyd, Bwrw y mewn dy gryman llym, a’ chascla vagadey gwinllan y ddayar: cans y maent y grawn hi yn ayddfed.

19Ar Angel y vwroedd y gryman llym ar y ddayar, ac y doroeð y lawr gwinwydd gwinllan y ddayar, ac y bwroedd hwynt y gerwin gwin vawr digofent Dyw.

20a phres gwin y gwascwyd allan or gaer, a gwaed y ddeith allan or pres‐y gwin cyfiwch a ffrwyney y meirch cyd ac vncant ar bymthec o gefnei o dir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help