1ANyd wyf yn Apostol? any dwyf vvr ryð? any wlais i Iesu Christ ein Arglwyð? anyd vy‐gwaith i ydyw‐chwi yn yr Arglwyð?
2Any dwyf yn Apostol i erail’, eto diau yvv vy‐bot y chwi: can ys yð yw‐chwi yn insel o’m Apostolieth yn yr Arglwyð.
3Vy atep ir ei am holant i, yw hyn,
4Anyd oes i ni veddiant y vwyta ac y yfet?
5Neu anyd oes i ni veðiant i arwein y amgylch gwreic a vei chwaer, megis ac y mae’r Apostolion eraill, a’ megis broder yr Arglwydd, a’ Chephas?
6Ai myvi yn vnic a’ Barnabas, anyd oes i ni veddiant y weithiaw?
7Pwy a i ryfely vn amser ar ei ’osymddaith i hun? Pwy a blann winllan, ac eb vwyta oi ffrwyth? neu pwy a borth dda, ac ny vwyty o laeth y da?
8A ddywedaf i hyn erwydd dyn? Any ddywait y Ddeddyf y petheu hyn hefyt?
9Can ys scrivenedic yw yn‐Deddyf Moysen, Na phenrhwyma eneu yr ych a vo yn dyludo’r yd: a ydyw Duw yn gofalu dros yr ychen?
10Ai ynte ðywet ef hyn yn ollawl er ein mwyn ni? Er ein mwyn ni yn ðioer yð scrivenwyt hyn, bot y hwn a arðo, aredic dan ’obaith: ac y hwn a ddyrno dan ’obeith, vod yn gyfranoc oi ’obaith.
11A’s heuesam ni ychwi betheu sprytol, ai mawr yvv a’s ni a vedvvn eich petheu dayarol chwi?
12A’d oes eraill yn eich plith yn cahel ran o’r meðiant hvvn, paam yn gynt nad ym ni? er hyny nyd arveresam ni o’r meddiant hwn: anyd goðef ydd ym pop dim, rrac y ni rwystro Euangel Christ.
13Any wyddoch vvi am yr ei ’sy yn gweithio’ ynghylch petheu sainctaidd, y bot wy yn bwyta o betheu ’r Dempl? a’r ei ’sy yn gwasanaethu’r allor, y bot wy yn gyfranoc gyd a’r allor?
14Velly hefyt yr ordeiniawdd yr Arglwydd, bot ir ei a precethant yr Euangel, vyw wrth yr Euangel.
15Er hyny mi nyd ymarvereis o ddim o’r petheu hyn: ac nyd scrivenais hynn yma, val y gwnelit velly i mi: can ys gwell vyðei i mi varw, na gwacau o neb vy‐gorvoleð.
16O bleit a’s Euangelaf, nyd oes ym ’orvoledd: can ys angen ’sy im gyrru, a’ gwae vyvi, anyd Euangelaf.
17Can ys a’s gwnaf hyn yn ewyllysgar, y mae mi daliat: and a’s yn anwyllysgar y gvvnaf, e roddet arnaf y gorchwyl yma eisius.
18Pa daliad vydd ymy gan hyny? sef pan Euangelwyf, bot ymy beri Euangel Christ yn rhat val na chamarverwyf vy awdurdot yn yr Euangel.
19Can ys cyd bwyf yn yn rhydd ywrth bawp, eto mi am gwneuthym vyhun yn was i bawp, val yr enillwn vwy o hanynt.
20Ac ir Iuddeon ir ymwneuthum val Idddew, val yr enillwm yr Iuddeon: i’r ei sydd y dan y Ddeddyf, val pe bysvvn y dan y Ddeddyf, val yr enillwn yr ei ’sy dan y Ddeddyf:
21i’r ei di‐ddeddyf, val vn diddeddyf (a’ minehu eb vot yn ddiddeddf tu ac at Dduw, anyd yn y Ddeddyf gan Christ) val yr enillwm yr ei di‐ddeddyf.
22Ir gweiniō yr ymwneuthym yn wan, val yr enillwn y gweinion: i bawp yr ymwneuthum yn bop dimval ygallwn ym‐pop modd gadw’rei.
23A’ hyn wyf yn ei wneuthur er mwyn yr Euangel, val y bwyf yn gyfranoc o hanei gyd a chvvi.
Yr Epistol ar y Sul Septuagesima
24Any wyddoch, am yr ei a vo yn rhedec mevvn gyrfa, vot pawp yn rhedec, er hyny bot vn yn mynet a’r gamp? velly rhedwch nes cael gavael.
25A’ phop dvn a ymdrechoam‐gamp, a ymgymedrola rrac pop dim: ac wy a vvnant hynn er mwyn cael coron ðarvodedic: a’ nineu er vn andarvodetic.
26Am hyny ddwyf vi yn rhedec, nyd val yn anilys: velly ddwyf yn ymdrech, nyd mal vn yn curo yr awyr.
27Eithr ydd wy vi yn goarsengi vy‐corph ac yn y ddarestwng: rac mewn vn modd gwedy ym precethu i eraill, vy‐bot vy hunan yn ancymeradwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.